09 Mai 2021
Datganiad i’r Wasg
09.05.21
Ymgeisydd Plaid Cymru, Dafydd Llywelyn yn cael ei ailethol yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd.
Ddydd Sul, 9 Mai 2021, cadarnhawyd bod ymgeisydd Plaid Cymru, Dafydd Llywelyn wedi ei ailethol yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys yn dilyn yr etholiad ar 6 Mai 2021.
Y pedwar ymgeisydd a safodd yn yr etholiad oedd:
Jon Burns (Ceidwadwyr)
Dafydd Llywelyn (Plaid Cymru)
Philippa Thompson (Llafur)
Glyn Preston (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru)
Cyhoeddodd Dafydd Llywelyn y datganiad canlynol: “Rwy’n hynod falch o gael fy ailethol yn Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd. Fel eich Comisiynydd presennol, mae plismona gweithredol, rheng flaen wedi dod o flaen gwleidyddiaeth plaid, a bydd bob amser yn dod. Mae gen i hanes cryf o gyflawni fy addewidion ac o wrando ar gymunedau Dyfed Powys. Rwy'n falch o'r hyn rydw i wedi'i gyflawni ers 2016, ond mae cymaint i'w wneud o hyd.
“Eich diogelwch yw fy mhrif flaenoriaeth. Rwyf am sicrhau bod Heddlu Dyfed Powys yn parhau i fod yn un o'r lleoedd mwyaf diogel i fyw yng Nghymru a Lloegr. ”
Mae etholiadau CHTh yn defnyddio'r system Pleidlais Atodol, sy'n wahanol i etholiad arferol.
Pleidleisio atodol yw pan fydd pleidleiswyr yn marcio eu dewis cyntaf ar y papur pleidleisio ac yn gallu - os dymunant, nid yw'n orfodol - marcio eu hail ddewis ar y papur pleidleisio hefyd.
Os yw ymgeisydd yn derbyn mwy na hanner yr holl bleidleisiau dewis cyntaf, caiff ei ethol ar unwaith.
Roedd canlyniadau etholiadau Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys fel a ganlyn:
Rownd 1af
Jon Burns (Ceidwadwyr); 69,112
Dafydd Llywelyn (Plaid Cymru); 68208
Philippa Thompson (Llafur): 48033
Glyn Preston (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) 17649
2il Rownd
Jon Burns: 8209
Dafydd Llywelyn: 26280
Hwn oedd y trydydd tro i etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddu gael eu cynnal. Yn wreiddiol, roedd yr etholiad i fod i gael ei gynnal ym mis Mai 2020 ond cafodd ei ohirio oherwydd pandemig COVID-19.
Mae tymor newydd y CHTh yn dechrau ddydd Iau 13eg o Fai 2021.
DIWEDD
Am ragor o fanylion:
Gruff Ifan
Ymgynghorydd Polisi ac Ymgysylltu