13 Ebr 2022
Heddiw (13.04.22), mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTH) Dafydd Llywelyn yn ymweld a Cheredigion fel rhan o ddiwrnod ymgysylltu cymunedol, lle bydd yn cyfarfod â nifer o bartneriaid allweddol, darparwyr gwasanaethau, ac aelodau’r cyhoedd.
Fel rhan o’r diwrnod ymgysylltu cymunedol, bydd y CHTh Dafydd Llywelyn yn ymweld â Phrifysgol Aberystwyth i arsylwi a phrofi teclyn rhith-realiti y maent wedi’i greu o amgylch cam-drin domestig.
Bydd CHTh Llywelyn hefyd yn ymweld â Chanolfan Cyfiawnder Aberystwyth i ymweld â’r Ystafell Tystion a’r Llys yn ogystal â chwrdd â rhai o’r staff sy’n cynnig cymorth i helpu tystion i roi’r dystiolaeth orau.
Yn ogystal ag ymweld â rhai o’i Wasanaethau Comisiynu, DDAS, sy’n darparu gwasanaeth cymorth camddefnyddio sylweddau i oedolion, a New Pathways, sy’n darparu gwasanaethau cymorth mewn argyfyngau treisio a cham-drin rhywiol, bydd CHTh Dafydd Llywelyn hefyd yn ymweld ag eiddo a gynigir drwy ei gynllun peilot Tai sy’n rhan o raglan Rheoli Troseddwyr Integredig yng Ngheredigion – prosiect sy’n darparu cymorth adsefydlu brys, hanfodol i droseddwyr.
Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn; “Mae Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn fater sy’n fwy perthnasol nawr nag erioed o’r blaen, ac yn un y mae’n rhaid i ni weithredu’n gyflym i fynd i’r afael ag ef.
“Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i ymweld â Phrifysgol Aberystwyth heddiw ac edrychaf ymlaen at ddysgu mwy am eu teclyn rhith-realiti cam-drin domestig, ac yna hefyd dal i fyny â rhai o’m gwasanaethau comisiynu yng Ngheredigion am ddiweddariadau allweddol.
“Byddaf hefyd yn cwrdd â Swyddogion Rheoli Troseddwyr Integredig Heddlu Dyfed-Powys i weld effaith gadarnhaol y prosiect peilot yr wyf wedi’i ariannu dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r prosiect wedi bod yn hynod fuddiol i nifer o droseddwyr, ac mae gan bob un ohonynt anghenion cymhleth.
“Mae’r prosiect wedi dod ag asiantaethau ynghyd, ac wedi rhoi ffocws i’r troseddwr i adsefydlu. Hyd yn hyn, nid oes yr un o’r troseddwyr wedi mynd ymlaen i droseddu ymhellach, sy’n un o’r canlyniadau cadarnhaol y prosiect hwn, ac edrychaf ymlaen at ddysgu mwy am weddill o’i ganlyniadau llwyddiannus.”
DIWEDD
Rhagor o fanylion:
Gruff Ifan
Ymgynghorydd Polisi ac Ymgysylltu