05 Awst 2021
Heddiw mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn wedi lansio cynllun grantiau bach Strydoedd Mwy Diogel ar gyfer prosiectau sydd yn gweithio i leihau troseddau caffael.
Mae hyd at £2000 ar gael trwy'r cynllun ar gyfer elusennau, sefydliadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol mewn ardaloedd penodol o fewn wardiau Elli a Tyisha yn Llanelli. Mae map o'r ardaloedd penodol sy'n gymwys ar gael o fewn y pecyn ymgeisio.
Mae'r cynllun grantiau bach yn rhan o'r fenter Strydoedd Mwy Diogel, (Safer Streets Initative) sef cyllid a sicrhawyd o’r Swyddfa Gartref yn gynharach eleni gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd mewn partneriaeth â Phartneriaeth Cymunedau Mwy Diogel Sir Gaerfyrddin.
Bydd yr arian yn cefnogi datblygiad prosiectau sy'n cael effaith uniongyrchol ar y cymunedau lleol hyn o fewn Elli a Tyisha a fydd yn gwneud i breswylwyr deimlo'n fwy diogel ac yn lleihau'r galw ar yr heddlu.
Yn 2020, lansiodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn gynllun grantiau bach ar gyfer ardal yn Glanymor ac ardal arall o fewn ward Tyisha yn Llanelli. Yn dilyn yr arian ychwanegol hwn gan y Swyddfa Gartref, mae'r Comisiynydd bellach yn gallu lansio cynllun grantiau ar wahân ar gyfer ardaloedd eraill o fewn wardiau Elli a TyIsha.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn; “Rwy’n falch iawn I allu lansio’r gronfa grant fach ychwanegol hon heddiw sy’n rhan o’r cynllun cyllido Safer Street a sicrheais yn gynharach eleni.
“Mae sicrhau diogelwch a thrigolion yn flaenoriaeth i mi - mae pawb yn haeddu byw’n ddiogel, ac yn rhydd o niwed.
“Troseddau caffael yw’r troseddau y mae’r cyhoedd yn fwyaf tebygol o ddod ar eu traws, ac amcangyfrifir eu bod yn costio biliynau o bunnoedd i gymdeithas bob blwyddyn. Mae tystiolaeth gref y gellir atal y troseddau hyn trwy dactegau sydd naill ai'n dileu cyfleoedd i gyflawni trosedd neu'n gweithredu fel ataliad trwy gynyddu'r siawns y bydd troseddwr yn cael ei ddal.
“Rwyf wedi buddsoddi’n sylweddol yn yr ardal dros y blynyddoedd diwethaf gyda grantiau cymunedol a roddais ar gael yn ychwanegol at y system teledu cylch cyfyng newydd sydd ar waith ledled y dref. Bydd yr arian ychwanegol newydd hwn yn adeiladu ymhellach ar fy ngwaith dros y blynyddoedd diwethaf a gobeithio y bydd y preswylwyr yn teimlo gwahaniaeth cadarnhaol yn eu cymunedau.”
Dywedodd y Cynghorydd Ann Davies, Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig a Chadeirydd y Bartneriaeth Gymunedol Ddiogelach: “Mae'r Cyngor a'r Bartneriaeth Cymunedau Mwy Diogel yn falch iawn o fod wedi gallu gweithio gyda'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd i sicrhau'r cyllid hwn. Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o'r fenter hon i helpu ein preswylwyr i fod yn fwy diogel a theimlo'n fwy diogel, gan adeiladu ar ein gwaith parhaus yn y cymunedau hyn i fynd i'r afael â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
“Mae'r Bartneriaeth yn cynnwys partneriaid lleol sydd i gyd yn anelu at wneud Sir Gaerfyrddin yn fwy diogel, gan gynnwys y Cyngor, yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân ac Achub, Prawf ac Iechyd. Byddwn yn hapus i gefnogi sefydliadau lleol i'n helpu ni i gyd i gyflawni'r nod hwnnw, felly cysylltwch â ni gyda'ch syniadau cyn 17 Medi."
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw'r 17eg o Fedi. Gellir lawrlwytho canllawiau cyllido a ffurflen gais o wefan Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yma.
DIWEDD
GWYBODAETH BELLACH
Jessica Williams
Rheolwr Cyllid Allanol
jessica.williams@dyfed-powys.pnn.police.uk