07 Meh 2022

Fel rhan o wythnos Gwirfoddolowyr, bu i Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys gyfarfod ag Ymwelwyr Annibynnol â’r Ddalfa yn y Ddalfa yn Aberystwyth.

Mae hi wedi bod yn Wythnos Genedlaethol Gwirfoddolwyr dros yr wythnos ddiwethaf rhwng y 1af a’r 7fed o Fehefin, ac yn ystod yr wythnos, bu’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn yn cysylltu â rhai o’i wirfoddolwyr yn Aberystwyth, sy’n gwirfoddoli fel Ymwelwyr Annibynnol â’r Ddalfa.

Gwirfoddolwyr o’r gymuned leol yw Ymwelwyr Annibynnol â’r Ddalfa (ICVs) sy’n ymweld â dalfeydd yr heddlu mewn parau, yn ddirybudd, i wirio lles carcharorion ac i sicrhau bod eu hawliau’n cael eu cynnal.

Yna mae'r gwirfoddolwyr yn adrodd am unrhyw faterion, os o gwbl, trwy adroddiad i'r Comisiynydd ac edrychir ar y rhain er mwyn gwneud gwelliannau.

Ar y 1af o Fehefin, ymunodd y Comisiynydd â’r gwirfoddolwyr i gysgodi eu gwaith yn ystod ymweliad dalfa yng Ngorsaf Heddlu Aberystwyth.

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn, “Roeddwn yn falch o’r cyfle i gwrdd â rhai o’r Ymwelwyr Annibynnol â’r Ddalfa yng Ngheredigion yn ystod wythnos y gwirfoddolwyr eleni i’w cysgodi ar ymweliad â dalfa yng Ngorsaf Heddlu Aberystwyth.

“Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’r Ymwelwyr Annibynnol â’r Ddalfa am y gwaith gwych y maent yn ei wneud i helpu i sicrhau bod carcharorion yn cael eu trin yn deg, a bod ein dalfeydd yma yn Nyfed-Powys yn cynnig amgylchedd diogel i bawb.

“Roedd yn galonogol gweld bod popeth mewn trefn ac fel y dylai fod yn nalfa Aberystwyth, ac nad oedd unrhyw faterion wedi’u nodi.”

Yn ogystal â’r grwpiau gwirfoddolwyr Ymwelwyr Annibynnol â’r Ddalfa, mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys ar hyn o bryd yn cynnal tri chynllun gwirfoddoli arall, sy’n cynnwys, Ymwelwyr Lles Anifeiliaid, Panel Sicrwydd Ansawdd, a’r Fforwm Ieuenctid.

Mae gwirfoddolwyr y Cynllun Lles Anifeiliaid yn aelodau o'r gymuned leol gyda phrofiad o gŵn gwaith a gweithwyr proffesiynol o sefydliadau lles anifeiliaid. Mae lles cŵn heddlu yn bwysig; rhaid i'r modd y cânt eu trin fod yn effeithiol, yn drugarog, yn foesegol ac yn dryloyw. Mae gwirfoddolwyr yn fy Nghynllun Lles Anifeiliaid yn arsylwi, yn gwneud sylwadau ac yn adrodd ar les a chyflwr cŵn yr heddlu o ran sut y maent yn cael eu cartrefu, eu hyfforddi, eu cludo a’u lleoli.

Mae’r Panel Sicrhau Ansawdd yn adolygu ansawdd cyswllt yr heddlu â’r cyhoedd, mewn modd tryloyw ac annibynnol, ar ran ein cymunedau lleol.

Mae'r Panel wedi adolygu meysydd Plismona fel digwyddiadau Defnyddio Grym, digwyddiadau Stopio a Chwilio, Troseddau Casineb, achosion cwynion, diweddariadau i ddioddefwyr a galwadau 101 a 999. Mae'r gwaith hwn yn hanfodol i sicrhau'r safonau uchaf yn Nyfed-Powys.

Mae gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd hefyd wirfoddolwyr ifanc o gefndiroedd amrywiol sy’n rhan o’r Fforwm Ieuenctid. Bydd y Comisiynydd yn cyfarfod â’r Fforwm Ieuenctid yn rheolaidd i gael eu barn ar faterion plismona, ac i sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed.

Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu I Dyfed-Powys ar hyn o bryd yn chwilio am aelodau Panel Sicrwydd Ansawdd newydd ac Ymwelwyr Annibynnol â'r Ddalfa i ymweld â dalfeydd Aberhonddu a'r Drenewydd. I gael rhagor o wybodaeth am y cynlluniau hyn ewch i: Cynlluniau Gwirfoddoli (dyfedpowys-pcc.org.uk)

Ychwanegodd CHTh Dafydd Llywelyn: “Mae gwirfoddolwyr o fy holl grŵp gwirfoddol yn chwarae rhan bwysig wrth fy helpu i ddwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif a chwarae rhan bwysig o fewn swyddogaeth graffu fy swyddfa. Rwy’n ddiolchgar iawn i bob un sy’n gwirfoddoli i’m helpu i gyflawni’r cynlluniau hanfodol hyn fel y Cynllun Ymwelwyr Annibynnol.”

DIWEDD

Rhagor o fanylion:

Gruffudd Ifan

Yngyghorydd Polisi ac Ymgysylltu

Gruffudd.ifan@dyfed-powys.police.uk

CHTh Dafydd Llywelyn yn Nalfa Ceredigion yng Nghorsaf Heddlu Aberystwyth gyda gwirfoddolwyr o'i gynllun Ymelwyr Dalfa Annibynnol

CHTh Dafydd Llywelyn yn Nalfa Ceredigion yng Nghorsaf Heddlu Aberystwyth gyda gwirfoddolwyr o'i gynllun Ymelwyr Dalfa Annibynnol