03 Awst 2021
Ar ddydd Gwener 30 Gorffennaf, cyhoeddodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, ei Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2020-2021 ar ôl ei gyflwyno i aelodau Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys.
Mae’r Adroddiad Blynyddol yn dangos y gwaith a wnaed gan y Comisiynydd a’i dîm yn ystod y flwyddyn ariannol 2020-2021 wrth barhau i gyflawni yn erbyn blaenoriaethau ei Gynllun Heddlu a Throseddu.
Dywedodd Dafydd Llywelyn; “Newidiodd yr haint COVID-19 a gohiriad dilynol Etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu 2020 y rhaglen waith yn sylweddol ar gyfer fy Swyddfa yn 2020-2021.
“Yr wyf yn falch o gyflwyno fy Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2020-2021, sydd yn edrych nôl ar y ffordd y newidiodd y swyddfa ei gweithrediadau beunyddiol yn ystod y pandemig, a’r ffordd y parhawyd i ryddhau swyddogaethau statudol Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn ystod y flwyddyn heriol hon.”
Cyhoeddwyd yr Adroddiad Blynyddol yn electronig ar wefan y Comisiynydd: https://www.dyfedpowys-pcc.org.uk/cy/y-comisiynydd/adroddiad-blynyddol-comisiynydd-heddlu-a-throseddu/, ac mae copïau caled hefyd ar gael i’r cyhoedd drwy Swyddfa’r Comisiynydd.
Mae llwyddiannau ac adegau mwyaf nodedig y flwyddyn fel a ganlyn:
- Parhau i ddarparu gwasanaethau i helpu i atal troseddu, cefnogi'r rhai sy'n agored i niwed a mynd i'r afael â materion cymunedol;
- Sicrhau cyllid ychwanegol hanfodol i sefydliadau lleol sy'n cefnogi dioddefwyr trais domestig a rhywiol drwy gydol y pandemig;
- Sicrhau cyllid gan Gronfa Strydoedd Mwy Diogel y Swyddfa Gartref i fynd i'r afael â throseddu mewn dwy o ardaloedd mwyaf difreintiedig yr Heddlu;
- Llwyddiant y rhaglen ariannu cymunedol newydd - Cyllidebu Cyfranogol - ar draws ardal Dyfed-Powys;
- Cau Canolfan Llety Lloches Penalun yn dilyn ymgyrch lwyddiannus y Comisiynydd i lobïo'r Swyddfa Gartref;
- Mabwysiadu dull digidol o ymgysylltu â'r cyhoedd yn effeithiol;
- Cynnal Cynhadledd Dewi Sant flynyddol y Comisiynydd yn ddigidol, gan ganolbwyntio ar ddioddefwyr; a
- Pharhau i roi llais i bobl ifanc a dioddefwyr drwy waith y Fforwm Ymgysylltu â Phobl Ifanc a Fforwm Ymgysylltu â Dioddefwyr Dyfed-Powys.
Ychwanegodd Mr Llywelyn; “Gan adlewyrchu ar y flwyddyn, ynghyd â’m tîm, Heddlu Dyfed-Powys a phartneriaid niferus, yr ydym wedi gweithio’n galed i sicrhau llwyddiannau a datblygiadau sylweddol ar gyfer ein cymunedau.
“Yr wyf yn edrych ymlaen yn awr at ailgychwyn ymgysylltu â’n cymunedau wyneb yn wyneb, a gweithio gyda’r Prif Gwnstabl newydd, Richard Lewis, ar ddatblygu Cynllun Heddlu a Throseddu newydd sy’n bodloni anghenion a disgwyliadau ein cymunedau ni yma yn ardal Dyfed-Powys. Mae blwyddyn gyffrous o’n blaenau.”
DIWEDD
Rhagor o wybodaeth:
Hannah Hyde
Ymgynghorydd Polisi ac Ymgysylltu