05 Awst 2022

Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn, wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol 2021-2022, sy’n adrodd ar y gwaith a gwblhawyd gan y Comisiynydd, ei dîm a’i bartneriaid yn ystod blwyddyn ariannol 2021-2022 wrth ymateb I flaenoriaethau a nodir yn ei Gynllun Heddlu a Throseddu 2021-25.

Dywedodd y Comisiynydd Dafydd Llywelyn; “Mae 2021-22 wedi bod yn flwyddyn gynhyrchiol, gyda phenodiad Prif Gwnstabl newydd ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys, datblygiad a lansiad fy Nghynllun Heddlu a Throseddu newydd ar gyfer 2021-25 a’r gwaith partneriaeth parhaus gyda gwasanaethau allweddol, rhanddeiliaid, a partneriaid ar lefel leol a rhanbarthol.”

Mae’r Adroddiad Blynyddol ar gael yn electronig ar wefan y Comisiynydd: https://www.dyfedpowys-pcc.org.uk/cy/y-comisiynydd/adroddiad-blynyddol-comisiynydd-heddlu-a-throseddu/ , a gellir cael copïau caled drwy gysylltu gyda Swyddfa'r Comisiynydd.

Mae’r Adroddiad Blynyddol yn adlewyrchu;r gwaith a wnaed i fodloni blaenoriaethau’r Comisiynydd: bod dioddefwyr yn cael eu cefnogi, bod niwed yn cael ei atal a bod ein system gyfiawnder yn fwy effeithiol, yn ogystal â sut mae’r Comisiynydd wedi parhau i hyrwyddo cydweithredu, atebolrwydd, cynaliadwyedd ac ymgysylltu.

Bu llawer o gyflawniadau allweddol yn ystod y flwyddyn, y mae’r Comisiynydd yn adrodd arnynt, megis, ond heb fod yn gyfyngedig o bell ffordd i:

  • Parhau i ddarparu gwasanaethau pwysig a gomisiynir – gwasanaethau a ariennir gan y Comisiynydd – sy'n helpu i atal troseddu, cefnogi'r rhai sy'n agored i niwed a mynd i'r afael â materion cymunedol.
  • Sicrhau rhagor o gyllid ‘Strydoedd Mwy Diogel’ y Swyddfa Gartref, gan arwain at gefnogaeth hanfodol barhaus i ardaloedd a ystyrir fel y rhai mwyaf difreintiedig yn Sir Gaerfyrddin.
  • Y grant o £300,000 a ddyfarnwyd gan y Comisiynydd i raglen Premier League Kicks Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe i gyflwyno sesiynau pêl-droed wythnosol am ddim i blant a phobl ifanc mewn pum lleoliad ar draws ardal yr heddlu.
  • Chweched Gynhadledd Gŵyl Ddewi flynyddol y Comisiynydd yn olynol, lle ymunodd nifer o unigolion allweddol ag ef yn bersonol ac ar-lein, i daflu goleuni ar yr heriau sy’n ein hwynebu a’r cyfleoedd sydd ar gael i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
  • Y cyfleoedd parhaus i unigolion yr effeithir arnynt gan drosedd i leisio eu barn drwy waith Fforwm Ymgysylltu â Dioddefwyr Dyfed-Powys. Roedd hyn yn cynnwys datblygu fideo hyfforddi yn darlunio profiadau bywyd go iawn dioddefwyr a goroeswyr sydd bellach yn cael ei ddefnyddio fel adnodd dysgu ar gyfer rhaglenni hyfforddi'r heddlu o fewn Heddlu Dyfed-Powys.

Ychwanega Mr Llywelyn; “Rwy’n ymfalchïo’n fawr yn yr hyn rydym wedi’i gyflawni dros y flwyddyn a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu a chefnogi ein hymdrechion dros y flwyddyn ddiwethaf.”

DIWEDD

Am ragor o wybodaeth:

Gruffudd Ifan

Pennaeth Ymgysylltu a Chyfathrebu

Gruffudd.ifan@dyfed-powys.police.uk