29 Ebr 2022

Trwy waith Fforwm Ymgysylltu â Dioddefwyr Dyfed-Powys, mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn, wedi rhoi llais i ddioddefwyr o fewn hyfforddiant yr heddlu, drwy weithio’n agos gyda rhai o aelodau’r fforwm I gynhyrchu fideo a fydd yn cael ei ymgorffori o fewn hyfforddiant Heddlu Dyfed-Powys.

Un o’r blaenoriaethau yng Nghynllun Heddlu a Throseddu 2021-2025 Mr Llywelyn yw bod ‘dioddefwyr yn cael eu cefnogi’. Mae’r Comisiynydd am sicrhau bod dioddefwyr yn cael eu cydnabod a’u cefnogi, trwy eu cynnwys mewn arferion plismona yn y dyfodol a thrwy ddysgu o’u profiadau.

Cafodd aelodau'r Fforwm Ymgysylltu â Dioddefwyr eu cyfweld am eu profiadau gyda Heddlu Dyfed-Powys. Rhoddodd pob un ohonynt adborth ar yr hyn aeth yn dda a'r hyn nad aeth yn dda, yn ogystal â'r cyngor y byddent yn ei roi i swyddogion sy'n delio ag achos tebyg i'w un nhw, a sut mae eu profiad wedi effeithio ar y ffordd y byddant yn rhyngweithio â'r Heddlu yn y dyfodol.

Mae’r cyfweliadau wedi’u tynnu ynghyd i mewn i un fideo hyfforddi a fydd yn cael ei ymgorffori ym mhecyn hyfforddiant Heddlu Dyfed-Powys.

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn, “Rwy’n falch o gyflwyno’r fideo dioddefwyr i Adran Dysgu a Datblygu Heddlu Dyfed-Powys, ac rwy’n wirioneddol ddiolchgar i’r unigolion sydd wedi rhoi o’u hamser i rannu eu profiadau gyda ni.”

“Bydd y fideo hwn yn helpu i sicrhau bod swyddogion a staff yr heddlu yn cael persbectif bywyd go iawn o farn dioddefwyr am y gwasanaeth plismona.”

Meddai’r Uwcharolygydd Craig Templeton, Pennaeth Dysgu a Datblygu, “Mae’r fideo hyfforddi a grëwyd drwy’r Fforwm Ymgysylltu â Dioddefwyr yn adnodd mor hanfodol ac effeithiol i ni ei gael. Mae’n bwysig bod ein swyddogion heddlu a staff heddlu newydd a phresennol yn clywed am brofiadau dioddefwyr gan y dioddefwyr eu hunain.”

“Byddwn yn defnyddio’r fideo hwn ochr yn ochr â’r fideo sy’n darlunio profiadau pobl ifanc o gyswllt â’r heddlu, a ddatblygwyd gan Lysgenhadon Ieuenctid y Comisiynydd Heddlu a Throseddu. Diolch i bawb a gymerodd ran.”

Soniodd aelod o’r Fforwm Ymgysylltu â Dioddefwyr a gymerodd ran yn y prosiect hwn am eu profiad: “Rwy’n falch iawn fy mod wedi’i wneud, os gall helpu eraill mewn unrhyw ffordd. Rwy’n sylweddoli bod yna bethau y gall dim ond rhywun sydd wedi bod trwy’r math hwn o droseddu eu datgelu i helpu eraill i’w hadnabod.”

“Rwy’n cael trafferth weithiau i leisio fy meddyliau a’m teimladau yn enwedig o flaen eraill, ond mae’r holl broses hon yn helpu. Gallaf weld fy mod wedi gwella, ar ôl cymryd rhan yn y prosiect hwn, a pha mor bell yr wyf wedi dod.”

“Mae’r gefnogaeth a gefais gan Dîm Goleudy hefyd wedi bod yn amhrisiadwy ac mor bwysig.”

Mae Goleudy yn gorff sy’n darparu cymorth i ddioddefwyr a thystion ar draws Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion, a Phowys. Mae’n wasanaeth hanfodol a ariennir gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, y gall dioddefwyr a thystion ei gyrchu p’un a ydynt wedi riportio’r drosedd i’r heddlu ai peidio.

Dyma sut i gysylltu â Goleudy: 0300 1232996 / goleudy@dyfed-powys.pnn.police.uk

Ychwanega Mr Llywelyn, “Mae mor bwysig bod dioddefwyr a goroeswyr yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt, a bod eu profiadau personol yn cael eu clywed er mwyn dylanwadu, hysbysu, a helpu i wella gwasanaethau heddlu lleol.”

 

Diwedd

Gwybodaeth bellach

Cynllun Heddlu a Throseddu 2021-25: https://www.dyfedpowys-pcc.org.uk/media/11089/cynllun-heddlu-a-throseddu-2021-2025-dyfed-powys.pdf

Fforwm Ymgysylltu â Dioddefwyr Dyfed-Powys: https://www.dyfedpowys-pcc.org.uk/cy/atebolrwydd-a-thryloywder/fforwm-ymgysylltu-a-dioddefwyr/

Datganiad i’r wasg: Fideo gan ieuenctid sy’n rhannu profiadau pobl ifanc o gyswllt heddlu yn derbyn canmoliaeth genedlaethol (Gorffennaf 2021)

 

Manylion Cyswllt

Hannah Hyde, Cynghorydd Polisi ac Ymgysylltu, hannah.hyde@dyfed-powys.police.uk