16 Maw 2021

16.03.21

Datganiad i'r wasg

Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn yn croesawu newyddion am gau Gwersyll Penally ar unwaith

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn wedi croesawu’r newyddion am benderfyniad y Swyddfa Gartref i gau’r ganolfan llety I geiswyr lloches ym Mhenalun, Sir Benfro, gyda’r holl geiswyr lloches i gael eu symud o’r gwersyll erbyn 21 Mawrth 2021.

Galwodd y Comisiynydd Dafydd Llywelyn yr wythnos diwethaf am gau’r llety lloches ar unwaith yn dilyn adroddiad arolygu damniol gan Arolygiaeth Carchardai EM (HMIP) a phrif arolygydd annibynnol Ffiniau a Mewnfudo (ICIBI).

Yn ogystal â diffyg pryderon amddiffyn Covid, diogelwch tân ac amodau byw, canfu'r arolygwyr nad oedd gan reolwyr y profiad na'r sgiliau i redeg llety cymunedol ar raddfa fawr ac nad oedd y Swyddfa Gartref yn goruchwylio'n ddigonol. Mae'r adroddiad hefyd yn datgelu bod llawer o drigolion y ganolfan wedi dweud bod ganddyn nhw broblemau iechyd meddwl.

Wythnos yn ddiweddarach i gyhoeddi’r adroddiad damniol, mae'r Swyddfa Gartref wedi cyhoeddi y bydd y Ganolfan ym Mhenalun yn cael ei chau, ac y bydd yr holl geiswyr lloches yn cael eu symud o'r safle erbyn 21 Mawrth 2021.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd; “Rwy’n hynod falch o glywed y cyhoeddiad heddiw, ac o’r diwedd y byddwn yn gweld cau’r ganolfan loches ym Mhenalun.

“Rwyf wedi bod yn barhaus yn fy meirniadaeth o benderfyniad y Swyddfa Gartref i ddefnyddio’r gwersyll i gartrefu ceiswyr lloches ers mis Medi y llynedd, ac mae fy mhryderon yn cael eu cyfiawnhau yn dilyn canfyddiadau adolygiad annibynnol a gyhoeddwyd mewn adroddiad damniol yr wythnos diwethaf.

“Bydd y newydd yn rhyddhad ac yn cael ei groesawu nid yn unig gan drigolion lleol ym Mhenalun a’r ardal gyfagos, ond hefyd i’r ceiswyr lloches yn y ganolfan.

“Rwy’n ddiolchgar i’r holl asiantaethau lleol sydd wedi gweithio’n ddiflino i wneud y gorau o’r sefyllfa anodd hon. Rwy'n gobeithio bod y Swyddfa Gartref wedi dysgu gwers arall am ba mor bwysig yw hi iymgynghori â chymunedau lleol a rhanddeiliaid allweddol.

“Rwyf wedi gweld o lygad y ffynnon yr amgylchiadau anodd y mae unigolion sy'n byw yn y ganolfan yn eu hwynebu. Ym mis Ionawr, cyfarfûm â David Bolt, Prif Arolygydd Lloches a Mewnfudo, a roddodd sicrwydd imi ar y pryd y byddai'r archwiliad annibynnol o'r Ganolfan yn cael ei gynnal yn gynnar eleni.

“Amlygodd canfyddiadau’r adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yr un pryderon a’r ofnau yr wyf i a rhanddeiliaid lleol eraill wedi’u codi gyda’r Swyddfa Gartref ar sawl achlysur.

“Mae’r diffyg cynllunio strategol ynghylch defnyddio’r gwersyll ers mis Medi 2020, ynghyd â’r diffyg ymgysylltu â’r gymuned wedi bod yn hynod rwystredig. Mae hyn wedi arwain at roi pwysau diangen ar adnoddau lleol ar adeg pan rydym yn ceisio amddiffyn ein cymunedau rhag pandemig byd-eang.

“Rwy’n falch o weld bod synnwyr cyffredin wedi trechu, a bod cynlluniau’n cael eu rhoi ar waith i adleoli pob ceisiwr lloches mor gynnar â’r wythnos nesaf, ac y bydd y gwersyll yn cau unwaith ac am byth.”

 

DIWEDD

Gwybodaeth bellach

Gruffudd Ifan

Cynghorydd Polisi ac Ymgysylltu

Gruffudd.ifan@dyfed-powys.pnn.police.uk