30 Gor 2021
Yn dilyn ymweliad â Rhif 10 Downing Street ddydd Iau 29.07.21, mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn wedi lleisio ei bryderon ynghylch Cynllun Curo Trosedd (Beating Crime Plan) Llywodraeth y D.U. a gyhoeddwyd yn gynharach yr wythnos hon.
Mae’r Cynllun Curo Trosedd yn nodi cynllun y llywodraeth i gyflawni ‘y newid sydd ei angen ar Brydain, gyda llai o droseddu, llai o ddioddefwyr, a gwlad fwy diogel’. Fodd bynnag, mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn wedi codi pryderon gyda llawer o'i amcanion.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn; “Er fy mod yn croesawu ffocws y Llywodraeth ar droseddu, nid wyf wedi fy argyhoeddi o gwbl ag amcanion y Cynllun Troseddu Curo am sawl rheswm.
“Mae’n gynllun uchelgeisiol a phellgyrhaeddol nad yw’n rhoi ystyriaeth I ofynion cyfredol plismona, a gallu heddluoedd i gyflawni’r amcanion. Mae'r cynllun yn eang iawn ac yn symud tuag at ddelio â nifer y troseddau yn hytrach na blaenoriaethu bygythiad, risg a niwed.
“Nid yw’r bwriad i gyflwyno fframwaith cymharu perfformiad ar ffurf tablau cynghrair, yn adlewyrchu nac yn cydnabod y gwahaniaethau rhwng heddluoedd o ran anghenion lleol.
“Mae cyfeiriad at drais difrifol o fewn y cynllun hwn er enghraifft yn gysylltiedig â throseddau cyllyll, gynnau a’r farchnad gyffuriau, a reolir gan gangiau, tra bod achos sylweddol ein troseddau treisgar ni yn Nyfed-Powys yn gysylltiedig a thrais yn y cartref. Nid yw'r Cynllun Curo Trosedd yn gwahaniaethu rhwng y ddau fath.
“Ni allaf weld y bydd cynllun y Llywodraeth yn ychwanegu gwerth at yr hyn sydd eisoes gennym ar waith yma yn Dyfed-Powys o dan fy arweinyddiaeth i a’r Prif Gwnstabl, ac rwy’n ofni bydd y cyllid a nodant yn canolbwyntio ar flaenoriaethau cenedlaethol, sydd ar y cyfan yn broblemau trefol, yn hytrach nag anghenion a blaenoriathau cymunedau gwledig yma yn Dyfed-Powys.
“Mae’n siomedig bod y cynllun wedi’i ddatblygu heb broses ymgynghori ffurfiol gyda Lluoedd yr Heddlu a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throsedd, ac yn dilyn y cyhoeddiad o rewi cyflogau i’r heddlu yr wythnos diwethaf, rwy’n gweld cyhoeddi’r Cynllun hw braidd yn sarhaus ac yn rhagrithiol.
“Yn dilyn fy ymgynghoriad fy hun gyda’r cyhoedd a phartneriaid yn ystod yr wythnosau diwethaf, edrychaf ymlaen yn awr at ymgysylltu â’r Prif Gwnstabl newydd ar ddatblygu cynllun heddlu a throsedd newydd sy’n diwallu anghenion a disgwyliadau ein cymunedau yma yn Dyfed-Powys”.
DIWEDD
Rhagor o fanylion:
Gruff Ifan
Ymgynghorydd Polisi ac Ymgysylltu
gruffudd.ifan@dyfed-powys.pnn.police.uk