25 Tach 2021
Mae heddiw, 25 Tachwedd 2021, yn nodi Diwrnod Rhuban Gwyn, a dechrau 16 diwrnod o weithredu byd-eang i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched, gyda Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys Dafydd Llywelyn yn annog preswylwyr i gymryd rhan a chefnogi'r ymgyrch.
Nod elusen y Rhuban Gwyn – White Ribbon yw i bob dyn gyflawni Addewid y Rhuban Gwyn i beidio byth â chyflawni, esgusodi nac aros yn dawel am drais dynion yn erbyn menywod. Mae'r elusen yn annog pobl, yn enwedig dynion a bechgyn, i weithredu'n unigol ac ar y cyd i newid ymddygiad cymdeithas tuag at fenywod.
Unwaith eto, bydd Heddlu Dyfed Powys yn ogystal â Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn cefnogi’r ymgyrch eleni, drwy chwifio baner Rhuban Gwyn ym Mhencadlys yr Heddlu yng Nghaerfyrddin, i ddangos eu penderfyniad i sefyll yn gadarn, a mynd i’r afael â phob trais yn erbyn menywod fel mater o flaenoriaeth.
Bydd Diwrnod Rhuban Gwyn yn cychwyn ar 16 diwrnod o weithredu ar draws partneriaeth ranbarthol Dyfed Powys.
Mae DAS Threshold a Goleudy yn ddau sefydliad sy'n derbyn cefnogaeth ariannol gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn, a bydd y ddau ddarparwr gwasanaeth yng Nghanolfan Elli yn Llanelli rhwng 10am a 2pm ar Ddiwrnod y Rhuban Gwyn i siarad am Drais yn erbyn Menywod.
Bydd Heddlu Dyfed-Powys hefyd yn codi ymwybyddiaeth o Stelcio Seiber gyda phartneriaid a thimau cam-drin domestig fel eu bod yn gwybod sut i gynghori dioddefwyr i gadw'n ddiogel rhag y math hwn o gam-drin, a chwalu chwedlau ynghylch cam-drin pobl hŷn, er mwyn helpu i chwalu rhwystrau a’u hannog i adrodd.
Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn goleuo Neuadd y Sir mewn porffor i adlewyrchu lliwiau'r llinell gymorth Byw Heb Ofn, ac maent wedi creu fideo i godi ymwybyddiaeth - https://vimeo.com/643902376.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn: “Mae’r Ymgyrch Rhuban Gwyn yn tynnu sylw at neges bwysig i ni bob blwyddyn: Creu dyfodol heb drais dynion yn erbyn menywod.
“Mae'r math hwn o gam-drin yn effeithio ar blant yn ogystal â dioddefwyr, ac mae'r effeithiau'n aml yn para'n hir a gallent gynyddu bregusrwydd oedolion yn sylweddol.
“Mae’n flaenoriaeth inni weithio gyda phartneriaid i sicrhau eu bod yn cael y cymorth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.
“Ymunwch â ni i addo i beidio byth ag ymrwymo, cydoddef neu aros yn dawel am drais yn erbyn menywod. Rydym yn parhau i ddal ein statws achrededig Rhuban Gwyn y DU, gan weithio ar gynllun gweithredu i gyflawni'r gwasanaeth gorau i ddioddefwyr a goroeswyr”
Dywedodd y Prif Gwnstabl Dros Dro Claire Parmenter: “Rwy’n falch fy mod yn gwisgo fy rhuban gwyn heddiw ac yn cefnogi’r ymgyrch fyd-eang i ddod â thrais yn erbyn menywod i ben.
“Mae angen i ddioddefwyr fod â’r hyder i adrodd ar gam-drin domestig, ac mae hwn yn gyfle i ddangos fy ymrwymiad i weithio gyda phartneriaid i ddarparu’r cymorth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw. Rwy’n falch ein bod yn parhau â’n hachrediad Rhuban Gwyn, gan ddangos ein hymrwymiad i sefyll yn gadarn a mynd i’r afael â phob trais yn erbyn menywod.”
Mae partneriaid a thrigolion yn cael eu hannog i ddefnyddio'r diwrnod hwn a'r un diwrnod ar bymtheg o weithredu a fydd yn dilyn, i ddysgu am arwyddion cam-drin domestig ac i edrych allan amdanynt mewn eraill, a'u cynorthwyo i gael y cymorth sydd ei angen arnynt, pan fydd ei angen arnynt :
Gall dioddefwyr cam-drin domestig ddangos yr arwyddion hyn:
- Maent yn ymddangos yn ofnus o’u partner neu aelod o'r teulu, neu'n awyddus iawn i'w plesio
- Mae eu partner yn aml yn beirniadu neu'n bychanu'r llall o flaen pobl
- Gallant fod yn absennol o'r gwaith neu achlysuron cymdeithasol - cael eu hynysu oddi wrth ffrindiau, cydweithwyr a theulu
- Gallwch weld anafiadau corfforol (cleisiau, esgyrn wedi torri, ysigiadau, toriadau ac ati) ac efallai eich bod wedi cael esboniad annhebygol am anafiadau rheolaidd
- Maent yn amharod i adael plant gyda'u partner
- Tystiolaeth o ddifrod i'w heiddo
- Mwy o ddibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau
- Diffyg hunan-barch neu newidiadau mewn personoliaeth
- Mae eu partner yn gwirio arnynt yn gyson, yn negeseua, yn ffonio neu'n troi i fyny yn annisgwyl
Os ydych chi wedi dioddef y drosedd hon, neu'n poeni am rywun rydych chi'n ei adnabod, ffoniwch 101 neu ewch i wefan yr Heddlu.
Am gefnogaeth a chyngor:
- Ffoniwch llinell gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 8010 800 livefearfree.gov.wales
- Lawrlwythwch yr ap Brightsky am ddim - mae'n llawn gwybodaeth ac mae ganddo osodiad cyfrinachol i helpu i amddiffyn eich preifatrwydd
- Ewch i dudalen we Clares Law ar wefan Heddlu Dyfed Powys i ddysgu am gynllun lle gallwch ddarganfod a oes gan eich partner presennol neu ddarpar bartner hanes o gam-drin neu drais
- Am gymorth cyfrinachol am ddim, cysylltwch â Goleudy, gwasanaeth a gomisiynwyd ar gyfer dioddefwyr a thystion trosedd goleudy@dyfed-powys.pnn.police.uk neu ewch i www.goleudyvictimandwitnessservice.org.uk
Os yw'r cam-drin yn digwydd nawr, ffoniwch 999.
DIWEDD
Rhagor o fanylion: White Ribbon UK