23 Hyd 2020
Heddiw mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn yn annog trigolion lleol i barchu’r rheoliadau clo newydd a fydd yn dod i rym am 6pm ddydd Gwener.
Mae nifer yr achosion Coronafeirws wedi parhau i gynyddu dros yr wythnosau diwethaf yng Nghymru, er gwaethaf cyfyngiadau lleol mewn rhai ardaloedd. O ganlyniad, yr wythnos hon, cyhoeddodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y bydd Cymru gyfan yn mynd i mewn i'r hyn y cyfeirir ato fel y ‘fire-break lockdown’ sef cyfnod clo ‘byr’ a ‘miniog,' am gyfnod o 17 diwrnod o ddydd Gwener ymlaen mewn ymgais i ffrwyno'r cynydd mewn achosion.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn fod gan bawb gyfraniad i'w wneud os yw hyn am fod yn llwyddiannus; “Nos Wener, byddwn yn cychwyn ar gyfnod clo newydd lle gofynnir inni unwaith eto aros adref er mwyn achub bywydau.
“Bydd Heddlu Dyfed-Powys allan ac yn weladwy yn ein cymunedau, yn ymgysylltu â’r cyhoedd ac yn eu haddysgu o ran y rheolau newydd, a byddant yn annog pobl i roi sylw i’r cyngor a ddarperir.
“Mae gan bob un ohonom ran bersonol i’w chwarae yn hyn, a chyfrifoldeb personol nid yn unig i barchu’r cyfyngiadau, ond hefyd i barchu ein gilydd. Gobeithio y bydd pawb yn gwrando ar y negeseuon allweddol ac yn aros yn ddiogel, ac yn holl bwysig, yn aros yn lleol. ”
I gael arweiniad a rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae'r cyfnod clo newydd yn ei olygu i chi, a'r atebion i'r mwyafrif o gwestiynau, ymwelwch â Chwestiynau Cyffredin Llywodraeth Cymru yma.
DIWEDD
Rhagor o wybodaeth:
Gruff Ifan
Ymgynghorydd Polisi ac Ymgysylltu: Gruffudd.ifan.OPCC@dyfed-powys.pnn.police.uk