16 Gor 2021

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn wedi cadarnhau iddo gael ei ethol yn Aelod o Fwrdd Gweithredol y Rhwydwaith Troseddau Gwledig Cenedlaethol.

Mae'r Rhwydwaith Troseddau Gwledig Cenedlaethol yn gydweithrediad unigryw rhwng y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd yng Nghymru a Lloegr ac ystod eang o sefydliadau sydd â diddordeb byw mewn diogelwch cymunedol a materion gwledig.

Fe'i ffurfiwyd yn 2014, ac mae'r Rhwydwaith yn gweithio i weld mwy o gydnabyddiaeth a dealltwriaeth o broblemau ac effaith troseddau mewn ardaloedd gwledig fel y gellir gwneud mwy i gadw pobl yn ddiogel.

Mae mynd i’r afael â Throsedd Gwledig a Bywyd Gwyllt wedi bod yn un o flaenoriaethau’r Comisiynydd Dafydd Llywelyn ers cael ei ethol yn Gomisiynydd ar Ddyfed-Powys. Ar ôl gweithio gyda’r Heddlu i ddatblygu Tîm Troseddu Gwledig yn Dyfed-Powys, yn fwy diweddar bu’n gweithio gyda phartneriaid o bob rhan o Gymru, i sefydlu rôl Cydlynydd Troseddau Gwledig a Bywyd Gwyllt genedlaethol i weithio gyda phob Llu yng Nghymru.

Mae’r Comisiynydd hefyd wedi ymrwymo i ariannu menter newydd ar y cyd gyda Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru - Future Farms Cymru, sy'n ceisio cynyddu'r defnydd o dechnoleg ar ffermydd gyda'r bwriad o leihau troseddu. Yn gynharach y mis hwn, ymwelodd y Comisiynydd ag un o ffermydd arddangos Future Farms Cymru yng Ngheredigion i weld effaith y dechnoleg ar ddiogelwch ffermydd, yn ogystal â lles anifeiliaid fferm.

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn: “Dyfed Powys yw’r ardal heddlu ddaearyddol mwyaf yng Nghymru a Lloegr, sy’n gorchuddio dros 4,100 milltir sgwâr gyda chymunedau gwledig helaeth, ac felly mae’n medru bod yn heriol I fynd i’r afael â throseddau gwledig a bywyd gwyllt.

“Rydym yn ymwybodol iawn bod pob trosedd yn brathu’n galed ar fywoliaeth rhywun ac yn achosi pryder yn y gymuned, ac mae ein tîm Troseddau Gwledig yma yn Dyfed-Powys yn gwneud gwaith rhagorol yn cefnogi’r gymuned amaethyddol.

“Mae unryw gam y gallwn ei gwneud i’w gwneud hi’n anoddach i droseddwyr, yn gam cadarnhaol I’r cyfeiriad cywir. Trwy gael fy ethol i fwrdd gweithredol y Rhwydwaith Troseddau Gwledig Cenedlaethol, byddaf nid yn unig yn gallu rhannu arfer da o'n gwaith yma yn Dyfed-Powys, ond bydd hefyd yn gyfle i ddod i ddeall mwy am y gwaith sy'n digwydd mewn rhannau eraill o'r DU.

“Edrychaf ymlaen at gwrdd ag aelodau eraill y Rhwydwaith yn ddiweddarach eleni fel y gallwn weithio ar y cyd i wneud ein cymunedau gwledig yn ddiogel”.

 

DIWEDD

Mwy o wybodaeth

Gruff Ifan

Ymgynghorydd Polisi ac Ymgysylltu

Gruffudd.ifan@dyfed-powys.pnn.police.uk