28 Awst 2020

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn yn cefnogi galwadau gan elusen NSPCC am fuddsoddiad gan y Llywodraeth mewn cynllunio adferiad a fydd yn darparu adnoddau i bartneriaethau amlasiantaethol lleol i adnabod ac ymateb i'r risgiau y mae plant a phobl ifanc wedi'u profi yn ystod y cyfnod clo.

Yr wythnos diwethaf cyhoeddodd NSPCC eu hadroddiad blynyddol ‘How safe are our children?, sy'n arolwg cynhwysfawr ar ddiogelwch pobl ifanc ledled y DU, ac sydd hefyd yn cynnwys adran ar effaith coronafirws ar ddiogelwch plant.

Yn ystod cyfnod clo y coronafirws, cynyddodd adroddiadau o gam-drin corfforol i'r NSPCC 53%. Derbyniodd ei linell gymorth 1,066 o alwadau ynghylch cam-drin corfforol ar gyfartaledd bob mis rhwng Ebrill a Gorffennaf, o'i gymharu â chyfartaledd misol o 696 cyn y cyfnod cloi. Un o'r galwadau polisi allweddol y mae'r NSPCC wedi'u nodi mewn ymateb i ganfyddiadau'r arolwg yw'r angen am fuddsoddiad i ymateb i'r risgiau y mae plant a phobl ifanc wedi eu hwynebu yn ystod y cyfnod cloi.

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn, wedi gweithio’n angerddol yn ystod ei amser yn y Swyddfa i ddiogelu pobl bregus ac i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed. Mae'r Comisiynydd hefyd yn Ymddiriedolwr elusen Embrace - Child Victims of Crime.

Dywedodd y Comisiynydd Dafydd Llywelyn, “Mae cam-drin plant gwbl annerbyniol ac yn drosedd na ddylid ei goddef. Mae plant a phobl ifanc yn un o'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, ac mae sicrhau bod cefnogaeth ddigonol ar gael i bob plentyn sydd wedi ac sydd yn dioddef wrth i ni ddod allan o’r cyfnod cloi yn allweddol.

“Mae’r cyfnod clo wedi bod yn gyfnod anodd i lawer o blant a phobl ifanc, ac mae canfyddiadau’r adroddiad hwn gan yr NSPCC yn peri pryder mewn sawl ffordd. Mae'r adroddiad yn nodi'r angen am fuddsoddiad sylweddol mewn cynllunio adferiad i gefnogi plant sydd wedi dioddef yn ystod y misoedd diwethaf, ac rwy'n gefnogol i'r galwadau hyn.

“Bydd Ysgolion a Cholegau nawr yn dechrau ailagor yr wythnos nesaf, ac rwy’n pledio ar athrawon a gofalwyr i fod yn wyliadwrus ac i gadw llygad am unrhyw arwyddion o gam-drin ac i sicrhau eu bod yn llywio ac yn cyfeirio pryderon ac achosion at yr asiantaethau cymorth lleol priodol.”

Dywedodd Peter Wanless, Prif Weithredwr NSPCC: “Nid oes unrhyw un nad ydynt wedi ei effeithio gan yr ansicrwydd yr ydym yn byw drwyddo. I bobl ifanc, sydd eisoes yn wynebu efallai cyfnod mwyaf heriol eu bywydau, mae'r effaith yn debygol o fod yn sylweddol ac, mewn rhai achosion, yn hirdymor.

“Wrth i ddisgyblion ddychwelyd i addysg, mae angen i ni fod yn barod i sicrhau bod ysgolion ac athrawon, gofalwyr cymdeithasol plant a phartneriaid diogelu eraill yn barod i gefnogi pob person ifanc sydd wedi dioddef yn ystod y cyfnod cloi.”

Ychwanegodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn, “Mae sicrhau cefnogaeth effeithiol i ddioddefwyr wedi bod yn flaenoriaeth i mi fel Comisiynydd. Un o fy mlaenoriaethau ers bod yn y Swyddfa fu archwilio opsiynau ar gyfer mentrau amlasiantaethol i atal ac amddiffyn pobl ifanc rhag camfantais a cham-drin, gan ganolbwyntio ar fentrau ymyrraeth gynnar i gyfyngu ar y difrod a achosir gan brofiadau niweidiol plentyndod.

“Yn ystod y misoedd diwethaf, ynghyd â staff yn fy swyddfa, rwyf wedi gweithio’n galed i sicrhau cyllid ychwanegol gan y Llywodraeth ar gyfer sefydliadau lleol sy’n darparu cefnogaeth i ddioddefwyr trais domestig a rhywiol yn Dyfed-Powys i’w cynorthwyo gyda chostau cysylltiedig â COVID 19.

“Byddaf yn awr yn ceisio cefnogi’r galwadau gan yr NSPCC am fuddsoddiad gan y llywodraeth mewn cynllunio adferiad, ac edrychaf ymlaen at drafod ymhellach gyda chydweithwyr o’r NSPCC ac asiantaethau a sefydliadau eraill i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt”.

DIWEDD

Adroddiad 2020 NSPCC ‘How safe are our children?’:

https://learning.nspcc.org.uk/media/2287/how-safe-are-our-children-2020.pdf

 

Rhagor o fanylion:

Gruff Ifan

Ymgynghorydd Polisi ac Ymgysylltu

Gruffudd.Ifan.OPCC@dyfed-powys.pnn.police.uk