30 Tach 2021

Mewn llythyr at y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James MS, sydd â chyfrifoldeb dros Bolisi Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn wedi croesawu Adroddiad Llywodraeth Cymru ar gyflawniad cam cyntaf eu hymgynghoriad ar ffordd yr A40 rhwng Caerfyrddin a Sancler.

Mae'r adroddiad a gyhoeddwyd ar 22 Tachwedd 2021 yn amlinellu rhestr hir o opsiynau ac amcanion cynllunio trafnidiaeth i'w hystyried wrth baratoi tuag at ail gam y broses ymgynghori.

Mae'r A40 yn llwybr allweddol ar y rhwydwaith priffyrdd strategol yn ne Cymru, gan gysylltu Abergwaun yn y gorllewin â Mynwy yn y dwyrain, trwy nifer o aneddiadau cyflogaeth a phreswyl sylweddol ar hyd y rhanbarth.

Mae'r ffordd hefyd yn llwybr allweddol rhwng Sancler â'r porthladdoedd fferi strategol allweddol yn Sir Benfro a chanolfannau poblogaeth ranbarthol pwysig fel Hwlffordd yn y gorllewin, a Chaerfyrddin yn y dwyrain, gan gysylltu â'r A48 ac wedi hynny yr M4.

Dros gyfnod o ond pum mlynedd, rhwng 2014 a 2019, bu cyfanswm o 65 o wrthdrawiadau ar y darn 15km o’r A40 rhwng Caerfyrddin a Sancler, 11 o’r rhain wedi’u categoreiddio fel gwrthdrawiadau difrifol, a 2 wrthdrawiad angheuol.

Yn ei lythyr at y Gweinidog Newid yn yr Hinsawdd, dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn; “Hoffwn fynegi fy mhryderon mewn perthynas â'r rhan hon o ffordd yr A40, a'm cefnogaeth barhaus at y gwaith sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru ac Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru.

“Yn hanesyddol mae'r nifer o wrthdrawiadau difrifol ar hyd y rhan hon o'r ffordd yn dangos bod cyfran uchel yn cael ei phriodoli i gyffyrdd ac ardaloedd croesi neu'n agos atynt lle mae cerbydau wedi dod i lwybr eraill sy'n teithio ar gyflymder uchel yn y ffordd ddeuol.  Mae’r gwrthdrawiadau hyn wedi arwain at anafiadau difrifol ac angheuol, sy’n anghymesur o farwolaethau mewn ardal o'r fath.

“Mae’r adroddiad diweddar yn amlinellu rhestr hir o opsiynau ac amcanion cynllunio trafnidiaeth gyda’r nod o bennu rhestr fer ar gyfer adroddiad Cam dau WeITAG. Gofynnaf i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu hyn ac rwy’n cynnig cefnogaeth lawn fy swyddfa i gynorthwyo gyda hyn, a’n bod yn rhan o ail gam yn y broses ymgynghori”.

DIWEDD

Rhagor o fanylion:

Gruff Ifan

Ymgynghorydd Polisi ac Ymgysylltu

Gruffudd.ifan@dyfed-powys.pnn.police.uk