11 Ion 2022

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd wedi croesawu’r newyddion bod pedwar sefydliad yn ardal Dyfed-Powys wedi llwyddo yn ddiweddar i sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru i ddarparu gweithgareddau i’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs).

Ym mis Hydref 2021, agorodd Llywodraeth Cymru gynllun grant o £200,000 ar gyfer unigolion a sefydliadau ledled Cymru sy'n ymgymryd â gweithgareddau gyda'r rhai sydd, neu sydd wedi cael eu heffeithio gan ACEs.

Hyrwyddwyd a dosbarthwyd gwybodaeth am y grant i sefydliadau trwy Swyddfeydd Comisiynwyr Heddlu a Throsedd yng Nghymru.

Nod y cynllun oedd hybu mentrau sy'n cefnogi unigolion sy'n tyfu i fyny, neu'n byw mewn cartrefi, lle mae cam-drin domestig neu gamddefnyddio sylweddau yn digwydd, yn ogystal â'r rhai sy'n darparu cefnogaeth ymarferol i deuluoedd i'w helpu i ddelio â materion fel cyllid teulu, neu magu plant, i wella gwytnwch.

Roedd ymgeiswyr llwyddiannus o ardal Dyfed-Powys yn cynnwys Ysgol Gynradd Gatholig Sant Ffransis, Ysgol VA St Marks, Cyngor Esgobaeth Cymdeithasol Dewi Sant, Plant Dewi, ac elusen profedigaeth Sandy Bear.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd: “Rwy’n falch o weld bod pedwar sefydliad yma yn ardal Dyfed-Powys wedi llwyddo i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.

“Gall profiadau niweidiol yn ystod plentyndod niweidio ymennydd plant ac arwain at newidiadau yn y ffordd y maent yn ymateb i straen. Mae’n gallu niweidio eu systemau imiwnedd mor ddwys fel bod yr effeithiau'n ymddangos ddegawdau yn ddiweddarach. Gall ACEs hefyd achosi clefyd cronig, a salwch meddwl, ac maent wrth wraidd y mwyafrif o drais.

“Rwyf felly yn hynod falch o weld y pedwar sefydliad hyn yn arwain y ffordd yma yn Dyfed-Powys wrth geisio cefnogi unigolion a theuluoedd trwy ddarparu gweithgareddau a fydd yn anelu at wella iechyd meddwl a chorfforol, ac annog ein cymunedau i adeiladu eu cryfder a'u cefnogaeth i'w gilydd.”

Sesiynau Ymgysylltu â Rhieni

Derbyniodd Ysgol Gynradd Gatholig St Francis £6,000 trwy’r grant.

Bydd yr ysgol yn defnyddio'r cyllid i gynnal eu sesiynau ymgysylltu â rhieni Springboard.

Nod y sesiynau ymgysylltu â rhieni yw cynnig sesiynau am ddim i deuluoedd er mwyn caniatáu iddynt ail-gysylltu rhieni â bywyd ysgol yn dilyn cyfyngiadau COVID-19 a achosodd i rieni deimlo'n ynysig ac allan o gysylltiad.

Gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned deuddeg wythnos

Derbyniodd Ysgol VA St Marks £5,487 o arian grant.

Bydd yr arian yn rhoi cyfle i grŵp o ddisgyblion sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod gael mynediad at gyfleoedd ymgysylltu personol â'r gymuned dros gyfnod o ddeuddeg wythnos, gan gynnwys crochenwaith, gweithgareddau chwaraeon a llawer mwy.

‘Prosiect rhiant ifanc’ a ‘Banc bwndel babanod’

Derbyniodd Cyngor Esgobaethol Cyfrifoldeb Cymdeithasol Dewi Sant: Plant Dewi, sy'n cynnig cymorth i deuluoedd ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro drwy sawl prosiect, £,605 o'r grant.  Bwriedir defnyddio’r arian tuag at datblygu’r prosiectau rhiant ifanc a Banc bwndel babanod sy'n cefnogi rhieni sydd wedi cael Profiadau Niweidiol pan yn ifanc.

Mae'r rhieni hyn yn profi sawl her sydd wedi dod yn fwy i’r amlwg oherwydd pwysau'r pandemig.

Cefnogaeth Profedigaeth Plant

Nod Elusen Profedigaeth Plant Sandy Bear yw gwella canlyniadau bywyd plant ac oedolion ifanc sydd mewn profedigaeth oherwydd colli rhywun arwyddocaol yn eu bywydau. Derbyniwyd £10,500 o gyllid y grant, a byddant yn defnyddio'r arian i ehangu'r elusen, a gwasanaethau yn benodol ar gyfer plant dan 6 oed ac ar gyfer plant 6-11 oed.

DIWEDD

Rhagor o wybodaeth:

Ffion Davies

Myfyriwr Interniaeth

ffion.davies@dyfed-powys.police.uk