29 Ion 2021

Mae Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd (CHTh) wedi croesawu newyddion yr wythnos hon fod Prif Arolygydd Annibynnol y Gororau a Mewnfudo (ICIBI) wedi dechrau archwiliad o’r defnydd o westai a barics fel llety lloches wrth gefn, sy’n cynnwys Gwersyll Penalun yn Sir Benfro.

Mae CHTh Dafydd Llywelyn wedi bod yn galw am archwiliad annibynnol o’r gwersyll ers wythnosau yn dilyn protestiadau diweddar a gynhaliwyd gan unigolion o’r gwersyll, ac yn gynharach ym mis Ionawr, cyfarfu Mr Llywelyn â David Bolt, Prif Arolygydd Lloches a Mewnfudo i drafod ei bryderon.

Dywedodd CHTh Dafydd Llywelyn; “Rwy’n croesawu newyddion heddiw bod Prif Arolygydd Annibynnol y Gororau a Mewnfudo wedi dechrau arolygiad. Rwyf wedi gweld drosof fy hun yr amgylchiadau anodd y mae unigolion sy'n preswylio yn y ganolfan yn dod ar eu traws, ac ar y 5ed o Ionawr, cyfarfûm â David Bolt, Prif Arolygydd Lloches a Mewnfudo, a roddodd sicrwydd imi fod archwiliad annibynnol o'r Ganolfan ar y gweill.

“Bydd hwn yn rhyddhad fydd i’w groesawu nid yn unig gan drigolion y gymuned leol, ond hefyd gan yr unigolion sydd wedi bod yn preswylio yn y gwersyll”.

Bydd yr arolygiad yn archwilio'r defnydd a wneir o westai a mathau eraill o lety lloches wrth gefn, gan gynnwys Penally Camp a Napier Barics, ers dechrau 2020. Bydd yn canolbwyntio ar rolau a chyfrifoldebau'r Swyddfa Gartref a'r darparwyr gwasanaeth llety, a hefyd cyfathrebu rhwng y Swyddfa Gartref a rhanddeiliaid fel awdurdodau lleol, gwasanaethau iechyd, heddluoedd, y mae CSP Dafydd Llywelyn wedi eu beirniadu ar sawl achlysur.

Dywedodd CHTh Dafydd Llywelyn; “Mae’r diffyg cynllunio strategol ynghylch defnyddio gwersyll Penalun ers mis Medi 2020, yn ogystal â’r diffyg ymgysylltu â’r gymuned wedi bod yn hynod rwystredig. Mae hyn wedi arwain at bwysau diangen ar adnoddau lleol, pan rydym yn ceisio amddiffyn ein cymunedau rhag pandemig byd-eang. O ganlyniad, rwy'n falch y bydd yr arolygiad yn cynnwys ffocws ar gyfathrebu rhwng y Swyddfa Gartref a rhanddeiliaid.”

Mae CHTh Llywelyn wedi bod yn weithgar wrth geisio sicrhau bod adnoddau a chynllunio digonol ar waith yn Heddlu Dyfed Powys ers mis Medi 2020, ac mae wedi cadarnhau ei fod yn pwyso am arian ychwanegol gan y Swyddfa Gartref i gefnogi adnoddau lleol sydd wedi cael eu rhoi o dan bwysau o ganlyniad i'r penderfyniad i ddefnyddio'r gwersyll fel canolfan loches.

Mae ICIBI yn gwahodd unrhyw un sydd â gwybodaeth neu brofiad perthnasol o lety lloches wrth gefn y Swyddfa Gartref i gyflwyno eu tystiolaeth i chiefinspector@icibi.gov.uk . Bydd yr alwad am dystiolaeth yn parhau ar agor am bedair wythnos, tan 19 Chwefror 2021.

DIWEDD

Nodiadau i'r Golygydd:

Mae'r Prif Arolygydd Annibynnol ar Ffiniau a Mewnfudo (ICIBI) wedi dechrau archwiliad o'r defnydd o westai a barics fel llety lloches wrth gefn ac mae'n gwahodd unrhyw un sydd â gwybodaeth neu brofiad perthnasol i gyflwyno eu tystiolaeth i chiefinspector@icibi.gov.uk.

Bydd yr alwad am dystiolaeth yn parhau ar agor am bedair wythnos (tan 19 Chwefror 2021).

Call for evidence: An inspection of the use of hotels and barracks as contingency asylum accommodation - GOV.UK (www.gov.uk)

Mwy o wybodaeth:

Gruff Ifan

Cynghorydd Polisi ac Ymgysylltu

Gruffudd.ifan@dyfed-powys.pnn.police.uk