09 Maw 2021

Heddiw, 09 Mawrth 2021, bu’r Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn yn cadeirio cyfarfod strategol gyda rhanddeiliaid allweddol i adnabod cyfleoedd cydweithredol i fynd i’r afael â throseddau gwledig a bywyd gwyllt yn ardal Dyfed-Powys.

Yn dilyn cyfarfod gyda’r Undebau Ffermio yng Nghymru yn gynharach eleni, mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn wedi bod yn awyddus i sefydlu Gweithgor Partneriaeth Strategol gyda rhanddeiliaid allweddol a fydd yn anelu at adnabod ffyrdd o weithio ar y cyd i fynd i’r afael â rhai o’r materion troseddau gwledig a bywyd gwyllt yn Dyfed-Powys.

Yn ddiweddar, mae Heddlu Dyfed-Powys wedi penodi Rhingyll ar gyfer y Tîm Troseddau Gwledig, ac mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn awyddus i ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol i gael mewnbwn gan bartneriaid i gefnogi datblygiad Strategaeth Troseddau Gwledig newydd ar gyfer yr Heddlu.

Ymhlith y Rhanddeiliaid Allweddol a wahoddwyd i fod yn rhan o'r grŵp strategol mae undebau NFU Cymru ac FUW, yn ogystal ag awdurdodau lleol, Parciau Cenedlaethol, RSPCA a llawer o asiantaethau eraill.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn: "Cefais drafodaethau cadarnhaol gyda chynrychiolwyr o'r ddau undeb yn gynharach eleni i dynnu sylw at rai o'r materion troseddau gwledig yn ardal Dyfed-Powys.

"Un o'r blaenoriaethau a nodwyd oedd yr angen i gymryd dull cydweithredol o fynd i'r afael â Throsedd gwledig a bywyd gwyllt, ac roedd y cyfarfod heddiw yn gyfle i gwrdd â sawl partner allweddol i ddatblygu trafodaethau a syniadau ymhellach".

Yn gynharach ym mis Mawrth, cyhoeddodd CHTh Dafydd Llywelyn fwletin Troseddau Gwledig, sy'n tynnu sylw at rywfaint o'r gwaith sydd wedi digwydd yn ddiweddar yn ardal Dyfed-Powys, a hefyd fentrau cydweithredol trawsffiniol.

Nododd CHTh Dafydd Llywelyn fod y grwp amlasiantaeth hwn yn anelu at adeiladu ar rywfaint o'r gwaith sydd eisoes yn digwydd, a dywedodd; “Daw’r cyfarfod hwn flwyddyn wedi’r Gynhadledd lwyddiannus Dydd Gŵyl Dewi a oedd a ffocws ar Drosedd Gwledig a gynhaliais ym Mhencadlys yr Heddlu y llynedd. Nid yw'r 12 mis diwethaf wedi bod yn hawdd i neb, ond yn anffodus mae troseddau a digwyddiadau sy'n effeithio ar y gymuned wledig wedi parhau.

“Roedd y cyfarfod Strategol amlasiantaethol heddiw yn gyfle i gyflwyno’r Rhingyll newydd ar gyfer y tîm arbenigol, ac i drafod gwefan newydd yr ydym yn ei datblygu mewn partneriaeth â Heddlu Gogledd Cymru i ddarparu negeseuon atal troseddau allweddol i’r diwydiant amaethyddol – menter y Future Farms Cymru.

"Rwy'n ddiolchgar i'r holl bartneriaid a fynychodd y cyfarfod heddiw, ac rwy'n edrych ymlaen yn awr at ystyried yr holl sylwadau wrth i ni geisio ailfywiogi ac ail-ffocysu gwaith Tîm Troseddau Gwledig Dyfed Powys."

 

DIWEDD

Bwletin Troseddau Gwledig Mawrth 2021 ar gael yma.

Rhagor o fanylion:

Gruff Ifan

Ymgynghorydd Polisi ac Ymgysylltu

Gruffudd.ifan@dyfed-powys.pnn.police.uk