01 Hyd 2020

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys heddiw yn mynnu bod y Swyddfa Gartref yn ymddiheuro’n gyhoeddus i drigolion Sir Benfro am y diffyg ymgysylltiad cyhoeddus ynghylch defnyddio gwersyll y weinyddiaeth amddiffyn yn Penalun i gartrefu ceiswyr lloches.

Ers i’r newyddion dorri am y cynlluniau i ddefnyddio’r gwersyll fel lleoliad i gartrefu 230 o geiswyr lloches dros dro, mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn wedi bod yn galw am fwy o ymgysylltiad cymunedol a chynllunio strategol manwl i sicrhau bod trigolion lleol yn gwbl ymwybodol o ddatblygiadau.

Fodd bynnag, mae Mr Llywelyn wedi bod yn rhwystredig gyda’r sefyllfa oherwydd y diffyg cyfathrebu gan y Swyddfa Gartref mewn perthynas â'r datblygiadau, a dywedodd; “Mae’r diffyg cynllunio, cyfathrebu, ymgynghori a gwybodaeth, yn gwbl annerbyniol, ac yn dangos diffyg parch nid yn unig at y trigolion lleol ym Mhenalun a’r ardal gyfagos yn Sir Benfro, ond hefyd diffyg parch at ddarparwyr gwasanaethau lleol a phartneriaid.

“Ni fu unrhyw eglurder ynghylch y cynlluniau ac ymgysylltu annigonol i sicrhau ein bod yn cefnogi ac yn diogelu’r unigolion bregus hyn tra’n mynd i’r afael â phryderon lleol hefyd, ac rwyf bellach yn mynnu bod y Swyddfa Gartref yn ymddiheuro i’r trigolion lleol am eu diffyg parch”.

Dros y pythefnos diwethaf, mae'r CHTh wedi mynychu sawl cyfarfod amlasiantaethol sy'n cynnwys cydweithwyr yn yr Heddlu, yr Awdurdod Unedol, Iechyd a Llywodraeth Cymru, i sicrhau yr ymatebir yn effeithlon ac yn effeithiol i'r penderfyniad hwn a wnaed heb ymgynghoriad cyhoeddus.

Dywedodd Mr Llywelyn: “Mae wedi cael ei adael i’n hasiantaethau lleol gan gynnwys yr Heddlu i godi darnau’r oherwydd y penderfyniad anymarferol hwn gan y Swyddfa Gartref ac felly rwy’n gofyn am ymddiheuriad uniongyrchol. Nid yw’r ffordd yma o weithio yn dderbyniol. Byddaf yn parhau i fod yn rhagweithiol ac I gynnwys fy hun yn y datblygiadau hyn i gefnogi cymuned leol Penalun a Sir Benfro a sicrhau bod yr unigolion bregus hyn yn cael eu diogelu ac yn cael gwasanaethau digonol ”.

DIWEDD

Am ragor o fanylion:

Gruff Ifan

Ymgynghorydd Polisi ac Ymgysylltu

Gruffudd.ifan.OPCC@dyfed-powys.pnn.police.uk