02 Rhag 2020

Heddiw, mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn wedi rhybuddio Cynghorwyr Sir, Tref a Chymuned lleol, ynghyrd a’r cyhoedd, o weithgaredd twyllodrus posib wrth i sawl aelod o’r cyhoedd gael eu targedu gan droseddwyr.

Mae manylion cyswllt cynghorwyr ar gael am ddim ar-lein, ac o ganlyniad maent yn cael eu targedu’n gyson gan dwyllwyr. Mae twyll o'r fath yn cynnwys e-byst gwe-rwydo sy'n annog rhoddion i sefydliadau ffug, tanysgrifiadau a dolenni i dudalennau sy'n dwyn eu gwybodaeth, ac ad-daliadau treth ffug.

Mae'r e-byst hyn yn ceisio twyllo cynghorwyr a'r cyhoedd i agor atodiadau maleisus a allai arwain at dwyllwyr yn dwyn gwybodaeth bersonol pobl, manylion mewngofnodi e-bost a chyfrineiriau, a manylion bancio.

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn galw ar Gynghorwyr a’r cyhoedd i fod yn hynod wyliadwrus, yn enwedig yn y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig, a dywedodd; “Rydyn ni wedi gweld cynnydd sylweddol mewn seiberdroseddu eleni - yn bennaf o ganlyniad i'r pandemig. Mae troseddwyr wedi bod yn manteisio ar y coronafeirws a'r clomawr, er mwyn twyllo'r cyhoedd, a'n Cynghorwyr lleol yn benodol i drosglwyddo arian a gwybodaeth bersonol.

“Mae Uned Seiberdroseddu Heddlu Dyfed-Powys wedi bod yn gweithio’n agos gydag Un Llais Cymru - y sefydliad ar gyfer cynghorau cymunedol a thref yng Nghymru, i sicrhau bod Cynghorwyr yn cael gwybod am unrhyw sgamiau newydd cyn gynted â phosibl.

“Mae'r Uned Seiberdroseddu hefyd wedi bod yn derbyn nifer o alwadau sy'n honni bod cynghorwyr yn e-bostio etholwyr yn gofyn iddynt brynu talebau a chardiau rhodd. Mae hyn eto yn enghraifft arall o sgam ar-lein, ond mae rhai pobl yn debygol o'i gredu.

“Yn yr wythnos ddiwethaf, mae preswylwyr Dyfed Powys wedi colli miloedd o bunnoedd i bobl sy’n honni eu bod yn dod o’r heddlu neu o’u banc. Yn y cyfnod cyn y Nadolig, bydd troseddwyr yn manteisio ar bob cyfle i geisio twyllo a dwyn arian oddi wrth trigolion onest Dyfed Powys.

Dywedodd DC Gareth Jordan o Uned Seiberdroseddu Heddlu Dyfed-Powys: “Cymerwch bump bob amser wrth ateb galwad neu e-bost. Gallai fod yn bum eiliad, pum munud neu bum niwrnod.

“Dim ond er mwyn rhoi stop ar yr hyn rydych yn ei wneud, rhowch y ffôn i lawr a gofyn i chi’ch hun‘ a yw’r alwad hon yn ddilys ’?

“Ffoniwch y banc eich hun, peidiwch â chymryd yn ganiataol bod y banc wedi eich ffonio chi.

“Os ydych yn caniatáu i droseddwr symud arian o’ch cyfrif neu os cewch yr arian allan ar gyfer y troseddwr, mae’n debygol iawn na fyddwch yn cael yr arian yn ôl gan y banc.”

Ychwanegodd y Comisiynydd Dafydd Llywelyn: “Mae sgamwyr yn unigolion didostur, diegwyddor nad ydyn nhw'n poeni am effaith eu gweithredoedd. Rwy’n apelio ar bobl i fod yn wyliadwrus, yn enwedig pan fyddant ar-lein. Ni allwch byth fod yn rhy ofalus.

“Byddwch yn wyliadwrus o gysylltiadau heb wahoddiad fel hyn.

“Cymerwch bump, meddyliwch ddwywaith, meddyliwch twyll”.

I adrodd am dwyll neu i gael help a chyngor ar atal twyll, cysylltwch â Heddlu Dyfed-Powys trwy 101 neu ewch i Action Fraud ar-lein neu ffôniwch: 0300 1232040.

 

DIWEDD

Am ragor o fanylion, cysylltwch a Gruff Ifan

Ymgynghorydd Polisi ac Ymgysylltu

Gruffudd.ifan.OPCC@dyfed-powys.pnn.police.uk