15 Ion 2021
Heddiw, mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn wedi cyhoeddi datganiad yn dilyn y protestiadau diweddar sydd wedi digwydd o amgylch Canolfan Llety Lloches Penalun.
Yn ei ddatganiad, cadarnhaodd y Comisiynydd ei fod wedi cyfarfod â Phrif Arolygydd Lloches a Mewnfudo, i drafod cynnal arolygiad annibynnol o'r Ganolfan a fydd yn digwydd yn y dyfodol agos. Cadarnhaodd y Comisiynydd hefyd ei fod yn pwyso am gyllid gan y Swyddfa Gartref i gefnogi adnoddau lleol sydd wedi cael eu rhoi o dan bwysau o ganlyniad i'r penderfyniad i ddefnyddio gwersyll y Weinyddiaeth Amddiffyn fel canolfan loches.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn: “Mae'r sefyllfa yng Nghanolfan Llety Lloches Penalun yn gymhleth ac yn sensitif, a hoffwn sicrhau cymunedau lleol Penalun a Dinbych-y-pysgod, fy mod yn cael fy niweddaru'n rheolaidd gan Brif Swyddogion Heddlu Dyfed-Powys o ddatblygiadau yn y Ganolfan ac o'i chwmpas.
“Rwy’n ymwybodol bod yr Heddlu yn bresennol yn ystod protestiadau sydd wedi digwydd yr wythnos hon, ac roeddwn yn falch o glywed bod y protestiadau’n heddychlon a dim adroddiadau o unrhyw drwbwl.
“Mae'r rhain yn amseroedd anodd dros ben i bob un ohonom. Rwyf wedi gweld o lygad y ffynnon yr amgylchiadau anodd y mae unigolion sy'n preswylio yn y ganolfan yn dod ar eu traws ac rwyf wedi cyfarfod â'r Prif Arolygydd Lloches a Mewnfudo, a roddodd sicrwydd imi ynghylch arolygiad annibynnol a fydd yn digwydd yn y dyfodol agos.
“Fodd bynnag, nid nawr yw’r amser i fod yn ymgynnull i gynnal protestiadau, a gallaf ddeall rhwystredigaethau’r cymunedau lleol wrth weld digwyddiadau o’r fath.
“Mae swyddogion yn, ac wedi bod yn gweithredu yn briodol pan mae rheoliadau Covid-19 yn cael eu torri, ac rwy’n ymwybodol fod yr Heddlu wedi bod mewn cyswllt â’r tîm rheoli safle i’w haddysgu o ddulliau ac egwyddorion yr Heddlu wrth blismona’r rheoliadau, sef ymgysylltu, egluro, annog a gorfodi.
“Rwyf hefyd yn pwyso am gyllid ychwanegol gan y Swyddfa Gartref i gefnogi adnoddau lleol sydd wedi cael eu rhoi o dan bwysau o ganlyniad i’r penderfyniad i ddefnyddio’r gwersyll fel canolfan loches. Yn y cyfamser, rydym yn parhau i fod mewn cysylltiad rheolaidd â phartneriaid la darparwyr gwasanaethau lleol, gan fonitro pob sefyllfa o amgylch y cyfleuster.”
DIWEDD
Rhagor o fanylion:
Gruff Ifan
Ymgynghorydd Polisi ac Ymgysylltu
Gruffudd.ifan@dyfed-powys.pnn.police.uk