19 Hyd 2021

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn wedi sicrhau arian ychwanegol o dros £600,000 gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder i gynyddu'r gefnogaeth i ddioddefwyr cam-drin domestig a thrais rhywiol yn ardal Dyfed Powys.

Bydd y cyllid yn helpu i gefnogi dioddefwyr benywaidd a / neu wrywaidd, oedolion a phlant sydd wedi profi Cam-drin Domestig neu Drais Rhywiol ar unrhyw adeg yn eu bywyd.

Bydd y gefnogaeth annibynnol arbenigol ychwanegol a fydd ar gael nawr yn cael ei darparu gan ystod eang o sefydliadau cymorth yn y gymuned, yn dilyn cynnydd yn y galw am gefnogaeth o ganlyniad i'r pandemig, a'r ymateb i drasiedi ddiweddar Sarah Everard.

Bydd naw rôl ychwanegol yn cael eu creu o ganlyniad i'r cyllid. Maent yn cynnwys dwy rôl Cynghorydd Trais Rhywiol Annibynnol llawn amser ychwanegol, gweithiwr arbenigol Plant a Phobl Ifanc, cynghorydd Gwryw Arbenigol, a saith rôl Cynghorydd Trais Domestig Annibynnol, a bydd dwy ohonynt yn Gynghorwyr Trais Domestig Annibynnol Dynion arbenigol.

Bydd hyfforddiant arbenigol ar gyfer gweithwyr proffesiynol lleol hefyd yn cael ei ddarparu, gyda'r nod o adeiladu gallu o fewn llochesau cam-drin domestig fel ysgolion ac unedau atgyfeirio disgyblion, i alluogi plant i gael mynediad at ymyriadau cynnar gan oedolion y maent yn ymddiried ynddynt, mewn man diogel.

Cyfanswm yr arian ychwanegol sydd wedi'i sicrhau gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd ar gyfer 2021/22 yw £629,093 gydag ymrwymiad ychwanegol o £300,000 wedi'i sicrhau hyd yma ar gyfer 2022/23. Daw hyn â chyfanswm y buddsoddiad mewn gwasanaethau dioddefwyr i dros £ 1.7 miliwn yn ystod 2021/22, gan gyfuno cyllid craidd y Weinyddiaeth Gyfiawnder a Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn; “Rwy’n falch o gyhoeddi ein bod wedi llwyddo i sicrhau’r cyllid ychwanegol hwn gan Y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ddiweddar. Mae darparwyr gwasanaeth wedi profi cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sydd angen mynediad at wasanaethau cymorth arbenigol yn anffodus.

“Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn cael effaith uniongyrchol ar y gwasanaethau sydd ar gael, a bydd yn sicrhau bod dioddefwyr yn derbyn y gefnogaeth ofynnol i’w helpu i wella ac arwain at ddyfodol heb gamdriniaeth.

“Hoffwn ddiolch i’n holl ddarparwyr gwasanaeth yma yn ardal Dyfed-Powys am eu gwaith caled a’r gefnogaeth hanfodol y maent yn ei darparu i’r rhai sydd fwyaf mewn angen.”

“Rwy’n annog unrhyw un sy’n ei gael ei hun mewn sefyllfa neu berthynas ymosodol i roi gwybod amdano i’r Heddlu ar 101 neu 999 mewn argyfwng. Nid oes angen i chi ddioddef mewn distawrwydd.”

Mae Hafan Cymru yn un o'r darparwyr gwasanaeth yn Dyfed-Powys a fydd yn elwa o'r cyllid, a dywedodd Necia Lewis, Cyfarwyddwr Gweithrediadau'r sefydliad; “Mae'r cyllid ychwanegol wedi bod yn amhrisiadwy wrth gefnogi'r gwasanaeth trais domestig ar draws Dyfed Powys.

“Mae wedi caniatáu inni gefnogi’r nifer cynyddol o ddioddefwyr sy’n cyrchu’r gwasanaethau, gan ein galluogi i ddarparu gweithwyr arbenigol, fel gweithwyr Gwryw-benodol ledled y rhanbarth. Rydym wedi cynyddu ein hyfforddiant staff i sicrhau bod gennym sgiliau pellach a gwybodaeth berthnasol i gefnogi anghenion ein cleientiaid yn gadarn.

Dywedodd Mike Wilkinson, Dirprwy Brif Weithredwr New Pathways, sy’n darparu gwasanaethau arbenigol i ddioddefwyr trais rhywiol “Rydym yn falch iawn o dderbyn yr arian hwn a fydd yn darparu cefnogaeth ychwanegol y mae mawr ei hangen ar bobl sydd wedi’u heffeithio gan drais rhywiol a cham-drin rhywiol yn Dyfed-Powys.

“Rydym yn ddiolchgar iawn i Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd, sydd unwaith eto wedi dangos ei ymrwymiad i ariannu'r gwasanaethau hanfodol hyn oherwydd ei fod yn gwybod bod angen help a chefnogaeth ar lawer mwy o bobl leol.

“Mae ein gwasanaethau yno i gefnogi unrhyw un yr effeithiwyd arno gan drais rhywiol neu gam-drin rhywiol, waeth pa mor bell yn ôl y digwyddodd, a byddwn yn annog pobl i gysylltu â New Pathways yn gyfrinachol i weld sut y gallwn helpu.”

DIWEDD

Rhagor o fanylion:

Gruff Ifan

Ymgynghorydd Polisi ac Ymgysylltu

Gruffudd.ifan@dyfed-powys.pnn.police.uk