18 Maw 2021

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn wedi sicrhau cyllid o £880,000 gan Salix Finance, ar gyfer datblygiadau penodol a fydd yn symud Heddlu Dyfed-Powys tuag at bod yn sefydliad eco-gyfeillgar, gan gefnogi'r nod i leihau effeithiau newid hinsawdd.

Mae Salix Finance yn darparu cyllid gan y Llywodraeth i'r sector cyhoeddus i wella effeithlonrwydd ynni, lleihau allyriadau carbon a biliau ynni is. Bydd y gronfa grant o £880,0000 gan Salix Fianance a sicrhawyd gan y Comisiynydd yn caniatáu i newidiadau datgarboneiddio sylweddol gael eu gwneud o fewn ystadau Heddlu Dyfed-Powys. Bydd rhai o'r newidiadau hyn yn cynnwys gosod goleuadau LED ar draws y prif adeiladau yn y Pencadlys, sicrhau lefelau inswleiddio digonol yn ei holl adeiladau ynghyd â rheolyddion gwresogi, oeri a dŵr poeth ychwanegol a fydd yn lleihau'r defnydd ac allyriadau carbon.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, “Rwy’n croesawu’r newyddion am y cyllid hwn yr ydym wedi’i sicrhau gan Salix Funding. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod gennym sefydliad cynaliadwy yma yn Dyfed-Powys a'n bod yn cymryd agwedd ecogyfeillgar tuag at blismona ar gyfer y dyfodol.

“Byddwn nawr yn gweld cryn dipyn o uwchraddiadau effeithlonrwydd ynni yn cael eu gwneud o ganlyniad i'r cyllid hwn. Bydd yr uwchraddiadau hyn yn cael effaith sylweddol ar ôl troed carbon Heddlu Dyfed-Powys, ac rydym hefyd yn rhagweld y bydd arbedion ariannol tymor hir i'r Heddlu o ganlyniad i'r buddsoddiadau y byddwn yn eu gwneud”.

Dywedodd Liam Gillard, Rheolwr Rhaglen Salix Finance: “Rydym yn falch iawn bod Heddlu Dyfed-Powys wedi elwa o Gynllun Dadgarboneiddio’r Sector Cyhoeddus a’n bod wedi gallu eu cefnogi gyda’u cynlluniau rheoli cynaliadwyedd a charbon parhaus. Rydym yn edrych ymlaen at ddilyn eu taith amgylcheddol wrth iddynt barhau i weithredu prosiectau effeithlonrwydd ynni. ”

Fe wnaeth y Comisiynydd Dafydd Llywelyn yn gynharach eleni hefyd ymrwymo i fuddsoddi mewn 11 o gerbydau trydan i'r Heddlu, gyda'r nod o dorri allyriadau carbon a gweithio tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy. Cyn bo hir, bydd Timau Plismona Bro ar draws yr heddlu yn croesawu'r cerbydau newydd, a fydd yn cael eu defnyddio ar gyfer ymgysylltu â'r gymuned a gwaith datrys problemau wedi'i dargedu.

Mae gorsaf wefru e-Feic hefyd yn y broses o gael ei gosod yng Ngorsaf Heddlu Aberystwyth yn dilyn cyllid gan Gyngor Sir Ceredigion, a derbyniwyd tystysgrif yn ddiweddar i gydnabod bod trydan a brynir gan yr Heddlu yn cael ei gyflenwi'n gyfan gwbl trwy ffynonellau adnewyddadwy.

Dywedodd y Comisiynydd Dafydd Llywelyn: “Fel sefydliad, mae'n bwysig ein bod yn parhau i nodi ffyrdd o gymryd camau pellach sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd i leihau ein hôl troed carbon, lleihau'r defnydd o danwydd, a phrofi buddion ynni adnewyddadwy hefyd.

“Rwy’n hynod falch o’r modd y mae ein cynlluniau rheoli carbon wedi datblygu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac edrychaf ymlaen yn awr i weld yr uwchraddiadau effeithlonrwydd ynni yn cael eu gwneud yn ein hystadau trwy gyllid Salix Finance”.

 

DIWEDD

Rhagor o fanylion:

Gruff Ifan

Ymgynghorydd Polisi ac Ymgysylltu

Gruffudd.ifan@dyfed-powys.pnn.police.uk