20 Gor 2022

Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn wedi cyhoeddi heddiw ei fod wedi sicrhau £271,000 o gyllid ychwanegol gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder a fydd yn mynd tuag at gynyddu a chryfhau gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Yn ogystal â’r cyllid hwn, mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd wedi sicrhau cyllid o £30,882 ar gyfer Ymynghorydd Trais Rhywiol Annibynnol Plant.

Mae cefnogi dioddefwyr yn un o dair blaenoriaeth allweddol Cynllun Heddlu a Throseddu y Comisiynydd Dafydd Llywelyn ar gyfer 2021-25. Dywedodd Mr Llywelyn, “Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi nodi bod angen swm sylweddol o adnoddau o hyd i fynd i’r afael â’r galw am ddiogelu, yn enwedig Cam-drin Domestig.

“O ganlyniad, mae’n gyfrifoldeb arnaf i sicrhau bod gwasanaethau priodol ar gael i ddiwallu anghenion pob dioddefwr, a’n bod yn blaenoriaethu buddsoddiad mewn gwasanaethau i ddioddefwyr troseddau rhywiol difrifol.

“Rwy’n falch fy mod wedi gallu sicrhau’r cyllid ychwanegol hwn gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, a fydd yn cynyddu ac yn cryfhau’r gwasanaethau cymorth sydd ar gael.

“Yn anffodus, dim ond tua 25% o gyfanswm ein cyllid y gofynnwyd amdano gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder a ddyfarnwyd inni, ac felly bu’n rhaid i ni ail-flaenoriaethu ac ail-gyfrifo sut y gallwn wneud y mwyaf o’r hyn rydym yn ei gyflawni o ddyraniad cyllid llai.

 “Fodd bynnag, dylid dal croesawu unrhyw gynnydd mewn cyllid gan y bydd yn galluogi mynediad pellach at wasanaethau i’r rhai sydd â’r angen mwyaf, felly rwy’n falch o gyhoeddi’r £271,000 ychwanegol hwn.”

Bydd y cyllid yn cael ei ddosbarthu rhwng y sefydliadau canlynol; Eiriolaeth ar ôl Cam-drin Domestig Angheuol (AAFDA), Calan DVS, Gwasanaethau Cam-drin Domestig Caerfyrddin Cyf, Pobl yn Gyntaf Sir Benfro, Cefnogaeth Twf Addysg Rhieni (PEGS), Dewis Choice, Goleudy, a Bawso. Mae New Pathways hefyd wedi derbyn y £30,882 ar gyfer Cynghorydd Trais Rhywiol Annibynnol Plant.

Mae PEGS yn fenter gymdeithasol sy'n canolbwyntio ar Gam-drin Plant i Rieni. Dywedodd y Cyfarwyddwr, Michelle John: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi derbyn y cyllid hwn gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu i’n galluogi i gefnogi mwy o rieni yn yr ardal trwy sesiynau un i un, rhith-sesiynau galw heibio, a rhaglenni a gweithdai pwrpasol.

“Yn anffodus mae Cam-drin Plant i Rieni yn effeithio ar o leiaf 3% o gartrefi, felly rydym yn falch bod y Comisiynydd wedi cydnabod yr effaith y mae’r mater hwn yn ei gael ar unigolion, teuluoedd a chymunedau, ac mae’n ein helpu i fod yn rhan o’r ateb drwy ddarparu’r cymorth y mae dirfawr ei angen. y mae rhieni, gwarcheidwaid a gofalwyr yn chwilio amdanynt.”

 

DIWEDD

Gwybodaeth bellach:

Gruff Ifan

Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Gruffudd.ifan@dyfed-powys.police.uk