18 Maw 2020
Yn ystod yr amseroedd ansicr hyn, mae’n bosibl y bydd staff Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (SCHTh) yn cael eu defnyddio gan Heddlu Dyfed-Powys yn ôl yr angen i gefnogi swyddogaethau rheng flaen. Gan hynny, mae’n bosibl y byddwch yn profi rhywfaint o oedi mewn perthynas â’ch cysylltiad â SCHTh yn ystod y cyfnod hwn.
Hoffai SCHTh gymryd y cyfle hwn i ddiolch i chi am eich dealltwriaeth, a gofynnwn i chi barhau i edrych ar ôl eich hun a’ch gilydd.
Diolch o galon,
Dafydd Llywelyn
Comisiynydd Heddlu Throseddu