24 Meh 2022
Heddiw (24.06.22) cynhaliodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn ddigwyddiad drws agored ar gyfer rhanddeiliaid lleol ar safle Dalfa a Hwb Plismona newydd Dyfed-Powys, sy’n cael ei adeiladu ar hyn o bryd yn Nafen, Llanelli, Sir Gaerfyrddin.
Rhoddwyd caniatâd cynllunio i Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu gan Gyngor Sir Caerfyrddin yn ôl ym mis Ebrill 2021 ar gyfer y datblygiad arfaethedig, a fydd yn adeiladwaith cynaliadwy uchelgeisiol, gyda sgôr rhagoriaeth BREEAM.
Mae Wilmott Dixon, sef y Contractwr Adeiladu, wedi bod ar y safle ers yr hydref yn paratoi ar gyfer y camau adeiladu cyntaf, gyda chynnydd penodol wedi ei wneud yn y datblygiad hyd yma y bwriedir ei gwblhau erbyn mis Mai 2023.
Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn; “Mae hwn yn fuddsoddiad mawr i ni a fydd yn gweld canolfan blismona uchelgeisiol, modern, cynaliadwy ac addas at y diben a dalfa a fydd yn cwrdd ag anghenion a disgwyliadau plismona modern.
“Yn ystod y broses ceisiadau cynllunio rhwng 2020 a 2021, fe wnaethom ymgysylltu’n eang â’r gymuned leol, ac roedd hi’n bleser cael agor y drws, a chroesawu cynrychiolwyr y gymuned leol i’r safle adeiladu heddiw, i ddangos y cynnydd sydd wedi’i wneud hyd yma.
“Rwyf wedi gweithio’n galed iawn gyda phartneriaid dros y blynyddoedd diwethaf i sicrhau ein bod yn cyrraedd y sefyllfa hon ac edrychaf ymlaen yn awr at weld y gwaith adeiladu’n parhau i ddatblygu’n gyflym dros y flwyddyn.”
Gan ei fod yn ddatblygiad sy'n gysylltiedig â mar safon BREEAM, bydd yr adeilad newydd yn cynnig amgylchedd mwy cynaliadwy, sy'n anelu at wella llesiant y bobl sy'n gweithio ynddo, a helpu i ddiogelu adnoddau naturiol.
Ymhlith rhai o nodweddion cynaliadwy'r adeilad newydd bydd paneli pŵer solar ffotofoltäig i leihau ôl troed carbon yr adeilad; cyfleuster cynaeafu dŵr glaw ar gyfer toiledau, a chyfleusterau gwefru ceir trydan.
Dywedodd y Prif Arolygydd Richard Hopkin, arweinydd gweithredol Heddlu Dyfed-Powys ar yr adeilad newydd: “Rydym yn teimlo’n ffodus iawn i gael dalfa a hwb newydd yn dod i Lanelli.
“Mae ein hystâd bresennol yn Llanelli yn hen, felly mae gweld adeilad newydd sy’n cael ei ddylunio gyda’r fath ystyriaeth i’r amgylchedd a lles ein staff a’r gymuned y mae’n eistedd ynddi yn gadarnhaol iawn.
“Bydd y datblygiad yn darparu datrysiad addas i’r diben sy’n addas ar gyfer y dyfodol a fydd yn ategu sylfaen Tîm Plisomona Bro canol y dref.”
Dywedodd Ian Jones, Cyfarwyddwr yn Willmott Dixon, “Dyma’r prosiect cyntaf i ni weithio arno gyda Heddlu Dyfed Powys, ac fel rhan o’r hyn sydd wedi bod yn bartneriaeth gydweithredol, rydym yn falch iawn o gael y cyfle i gyflawni’r datblygiad hwn.
“Mae hon yn ddalfa bwrpasol, newydd i gymryd lle ac ategu’r ddarpariaeth dalfa yn Sir Gaerfyrddin a fydd yn darparu cyfleusterau rhagorol i ddiwallu anghenion gorfodi’r gyfraith fodern a lles carcharorion ar gyfer Heddlu Dyfed Powys.
“Roeddem wrth ein bodd yn cael y cyfle i groesawu gwesteion i’r safle i ddangos iddynt yn uniongyrchol sut mae’r gwaith adeiladu yn dod yn ei flaen.”
DIWEDD
Rhagor o fanylion:
Gruff Ifan
Pennaeth Cyfathrbeu ac Ymgysylltu