28 Awst 2013

Bydd 25 menter yn elwa o gynllun grantiau £80,000 a lansiwyd gan Christopher Salmon, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys.





Maent yn amrywio o glwb ieuenctid ym Mhowys, sy’n derbyn £200 er mwyn prynu offer, i brosiect bwyd-a-hwyl i blant yn Sir Gaerfyrddin, sy’n derbyn £5,000.

Mae mentrau eraill yn cynnwys prosiect yn Sir Benfro sydd wedi’i anelu at atal pobl ifainc rhag cyflawni troseddau, sy’n derbyn £1,890, a rhaglen o weithgareddau yng Ngheredigion ar gyfer pobl ifainc sydd mewn perygl o droseddu, sy’n derbyn £4,000.

Roedd rownd gyntaf o gymorth o Gronfa’r Comisiynydd yn cynnig grantiau o hyd at £5,000 ar gyfer elusennau, sefydliadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol er mwyn iddynt ddatblygu syniadau sydd ag effaith gadarnhaol ar yr ardal maen nhw’n gwasanaethu.

Mae Mr Salmon yn gobeithio y bydd y cynllun yn helpu i wella bywydau pobl ledled y rhanbarth.

Mae’r prosiectau’n adlewyrchu – mewn rhyw ffordd – Cynllun Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys 2013-18 Mr Salmon.

Dywedodd y Comisiynydd, a etholwyd y llynedd i gadw cymunedau’n ddiogel rhag trosedd, “Diolchaf i bawb a weithiodd mor galed ar eu ceisiadau ar gyfer y rownd gyntaf o grantiau Cronfa’r Comisiynydd. Rwy’n hynod falch ein bod ni wedi medru cynnig grantiau o bron i £85,000.

“Rwy’n llongyfarch y rhai sy’n gysylltiedig â’r ceisiadau llwyddiannus gan fod nifer ac ansawdd y ceisiadau yn rhyfeddol; denodd y rownd hon geisiadau a ddaeth i gyfanswm o dros £575,000! Rwy’n mawr obeithio bod y rhai a fu’n aflwyddiannus y tro hwn yn deall bod gennym gyllid cyfyngedig a bod asesiad o’r ceisiadau wedi’i gynnal mewn modd tryloyw.

“Rwyf wrth fy modd y bydd miloedd o bunnoedd yn cael eu rhannu ledled y rhanbarth er mwyn helpu i wella bywydau’r bobl yn ein cymunedau.”

Mae Mr Salmon yn credu bod gan bawb ran i’w chwarae o ran gwneud cymdogaethau’n fwy diogel; mae cannoedd o unigolion a sefydliadau eisoes yn gwirfoddoli’n frwd neu’n gweithio’n galed er mwyn helpu’r broses hon.

Mae Cronfa’r Comisiynydd yn darparu cymorth pellach. Ariennir y gronfa gan elw troseddau a roddir i’r heddlu yn dilyn gwerthu eiddo y daethpwyd o hyd iddo nas hawliwyd.

Nid y cyhoedd na sefydliadau a enwebodd y prosiectau cymunedol, ond yn hytrach, swyddogion rheng flaen a staff Heddlu Dyfed-Powys. Fe’u cymeradwywyd gan uwch swyddogion a asesodd y ceisiadau yn erbyn meini prawf megis yr angen ar gyfer y prosiect a nifer y rhai a fyddai’n elwa.

Dywedodd Mr Salmon, “Mae Cronfa’r Comisiynydd yn anelu i leihau’r galw am wasanaethau heddlu drwy wneud defnydd ardderchog o’r arian a thrwy helpu i leihau trosedd. Enwebodd swyddogion a staff heddlu ar draws y rhanbarth brosiectau addas.

Disgwylir y bydd ail rownd o geisiadau Cronfa’r Comisiynydd yn agor tua diwedd y flwyddyn.

Astudiaethau Achos: Ceisiadau llwyddiannus

Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro, Powys

Cymorth i Ddioddefwyr £3,000

Mae’r cais hwn ar gyfer ariannu’r hyfforddiant arbenigol i wirfoddolwyr ar gyfer cefnogi dioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ardal Heddlu Dyfed-Powys. Ar hyn o bryd, nid oes cymorth arbenigol ar gyfer dioddefwyr y math hwn o drosedd. Bwriedir hyfforddi 10 gwirfoddolwyr er mwyn bodloni’r angen hwn.

Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro

Gwasanaeth Cwnsela Seren £3,870

Bydd y fenter hon yn darparu cwnsela arbenigol ar gyfer oedolion a dioddefodd cam-drin rhywiol pan oeddent yn blant. Bydd timoedd bychain o gwnsleriaid yn cwnsela cleientiaid sy’n hunangyfeirio neu’n cael eu cyfeirio gan amryw o asiantaethau. Mae cleientiaid yn cael cynnig asesiad, ac yn dilyn hynny, byddant yn derbyn deuddeg sesiwn un-i-un pythefnosol. Ar hyn o bryd, mae’r prosiect wedi’i leoli yng Nghaerfyrddin, Aberystwyth, Aberteifi a Hwlffordd.

Sir Gaerfyrddin, Ceredigion

Age Cymru Sir Gâr £4,500

Bydd yr arian yn helpu Age Cymru Sir Gâr i gynnal digwyddiadau ar gyfer codi ymwybyddiaeth yng Ngheredigion a Sir Gaerfyrddin, ac yn cynorthwyo o ran atal pobl hŷn mewn cymunedau gwledig rhag dioddef lladradau olew a sgamiau gwledig. Bydd y digwyddiadau’n rhai amlasiantaethol gan ddod â phartneriaid ynghyd er mwyn tynnu sylw at y materion sy’n ymwneud â throseddau gwledig ac yn cynorthwyo pobl hŷn sy’n fwy agored i niwed o ran atal trosedd.

Sir Gaerfyrddin

Ymatebwyr Cyntaf Cymuned Rhydaman £500

Mae’r cais hwn yn cefnogi Grŵp Ymatebwyr Cyntaf Rhydaman sy’n gweithio’n agos â Gwasanaeth Ambiwlans Cymru o ran cyflwyno cymorth cyntaf uwch a thriniaeth sy’n achub bywydau i’r cyhoedd. Grŵp gwirfoddol ydynt, ac maent yn dymuno ehangu a gwella eu gwasanaeth i’r gymuned. Ar hyn o bryd mae wyth o aelodau, ac mae’r grŵp wedi ymateb i dros 90 o alwadau ers mis Mawrth 2013. Mae’r grŵp hefyd wedi derbyn dau lythyr o gymeradwyaeth am eu gwasanaeth i’r gymuned. Oherwydd diffyg Ambiwlansiau, fel arfer, Ymatebwyr Cyntaf yw’r cyntaf i gyrraedd lleoliad, ac maen nhw’n helpu’r heddlu i drin y claf.

Breaking Cycles £5,000

Mae bwlch mawr o ran cefnogi tadau tra’u bod nhw yn y carchar ac ar ôl iddynt gael eu rhyddhau. Bydd y prosiect hwn gan Gymdeithas Ieuenctid a Phlant Sir Gaerfyrddin yn darparu cymorth o ran magu plant yn ogystal â mentora’r plant gan eu bod hwythau hefyd mewn perygl mawr o droseddu. Does dim corff statudol sydd â’r cyfrifoldeb o gefnogi plant carcharor. Bydd y prosiect hwn yn cynnig rhaglen hyfforddi i dadau tra’u bod nhw yn y carchar; bydd yn cael ei chyflwyno gan therapydd cymwys. Bydd mentor cymwys hefyd yn gweithio gyda’r plentyn, gan fynd i’r afael ag unrhyw faterion a allai ddod i’r amlwg. Bydd hyn yn datblygu nerth y teulu ac yn lleihau’r perygl o ail-droseddu.

Fforwm Cam-drin Domestig Sir Gaerfyrddin £4,987

Mae Fforwm Cam-drin Domestig Sir Gaerfyrddin yn cefnogi dioddefwyr cam-drin domestig. Mae’r fforwm yn cefnogi nifer o wasanaethau yn Sir Gaerfyrddin drwy sicrhau bod gan sefydliadau’r offer, hyfforddiant ac anghenion priodol er mwyn cefnogi dioddefwyr. Rhwng 2011 a 2012, cefnogodd y fforwm 1,800 o ddioddefwyr; riportiwyd 800 o’r digwyddiadau hyn i’r heddlu, gan adael 1,000 o ddioddefwyr heb riportio digwyddiadau o’r fath. Mae’r fforwm yn ceisio codi ymwybyddiaeth dioddefwyr er mwyn rhoi’r hyder iddynt i riportio digwyddiadau o’r fath i’r heddlu. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio er mwyn prynu larymau diogelwch personol i gefnogi dioddefwyr, ac er mwyn i ddioddefwyr fynychu cyrsiau diogelwch personol.

Gay Ammanford £946.60

Mae Gay Ammanford yn cynnig amrediad o wasanaethau cymorth gan gynnwys LHDT, trais domestig, troseddau casineb ac iechyd rhywiol. Mae’r grŵp yn y broses o ehangu er mwyn cynnwys Sir Gaerfyrddin gyfan, ac yn y pen draw, Dyfed-Powys gyfan. Er mwyn gwneud hyn, bydd yr arian yn cynorthwyo’r grŵp â phroses ail-frandio yn ogystal â’u helpu i broffesiynoli eu gwasanaethau fel bod modd i gynulleidfa ehangach eu cyrraedd. Nod y prosiect yw codi ymwybyddiaeth ynglŷn â’r gwasanaethau sydd ar gael i’r gymuned, a diogelu pobl sy’n agored i niwed.

Clwb Cinio Lifeshare £5,000

Fel estyniad o fanc bwyd/dillad/celfi Lifeshare, bydd y prosiect yn cyfrannu tuag at gynnal plant a fyddai’n gymwys ar gyfer cinio ysgol am ddim yn ystod y gwyliau ysgol trwy ddarparu cyfleoedd iddynt chwarae ym man castell neidio Crazy Maisie’s a chael pryd o fwyd cynnes. Byddem hefyd yn bwydo’r rhieni sydd yn aml yn mynd heb ddim er mwyn bwydo eu plant. Bydd y prosiect yn cynnal 35 sesiwn dwy awr o hyd (40 plentyn y sesiwn), ac yn y tymor hir, yn galluogi’r rhieni i redeg y clwb. Byddai hyn yn rhoi cyfle i Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu ayyb i ymgysylltu â phlant sy’n agored i niwed yn yr ardal a’u teuluoedd.

Prosiect Motocross y Bwlch £3,180

Wedi’i leoli yn Llanelli, mae hwn yn brosiect cyffrous ac arloesol gan Fforwm Ieuenctid Morfa sy’n cynnig addysg amgen, hyfforddiant a gwaith ieuenctid i bobl ifainc yn Sir Gaerfyrddin. Fe’i sefydlwyd pedair blynedd yn ôl gyda chymorth Ymddiriedolaeth y Tywysog a Chymunedau’n Gyntaf er mwyn ceisio mynd i’r afael â phobl ifainc yn creu niwsans drwy reidio’n anghyfreithlon yn Llanelli. Mae’r prosiect yn defnyddio motocross fel arf i ymgysylltu â phobl ifainc a datblygu eu sgiliau yn gyffredinol, yn ogystal ag adeiladu eu hunan-barch, eu hyder a’u hymddygiad. Erbyn hyn, mae angen offer newydd yn lle’r offer sydd ganddynt ar hyn o bryd.

Llwybrau Newydd £4,964

Pob blwyddyn, mae Llwybrau Newydd yn derbyn dros 300 o gyfeiriadau gan bobl sy’n byw yn ardal Dyfed-Powys. Yn anffodus, mae ganddynt restr aros hir o bobl sydd wir angen eu cymorth oherwydd eu bod wedi dioddef cam-drin yn y gorffennol. Bydd yr arian yn galluogi Llwybrau Newydd i gyflogi cwnsler pwrpasol i weithio un diwrnod yr wythnos yng Nghanolfan Gyfeirio Ymosodiadau Rhyw Caerfyrddin. Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i’w gwasanaeth drwy ddarparu oddeutu 230 sesiwn cwnsela yn ystod y flwyddyn i ddioddefwyr trais rhyw a cham-drin rhywiol lleol.

Parc Sglefrio Ramps £5,000

Nodwyd yr angen am y cyfleuster hwn yn Llanelli drwy nifer y digwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol a gofnodwyd yn y lleoliad cyfredol, y cyfleuster awyr agored a oedd heb adnoddau priodol, fandaliaeth o’r isadeiledd adfywio newydd, a galwadau oedolion sy’n agored i niwed o’r ganolfan siopa. Gan weithio gyda phartneriaid allweddol megis Cyngor Sir Caerfyrddin, fforymau ieuenctid, y Grŵp Gweithredu Cymunedau Diogelach a Choleg Sir Gâr, datblygodd grŵp llywio’r prosiect Parc Sglefrio Ramps, ac mae’r arian a roddwyd wedi cyfrannu tuag at brynu offer iechyd a diogelwch sglefrio hanfodol.

Grŵp Datblygu’r Scarlets £5,000

Bydd y grant yn helpu i hwyluso a chyflwyno Prosiect Rygbi Stryd Llanelli i ardaloedd mwyaf cymdeithasol ddifreintiedig y dref. Bydd y prosiect hwn yn ffordd arbennig i’r bobl ifainc yn y cymunedau weld Undeb Rygbi Cymru a’r heddlu mewn golau cadarnhaol oherwydd byddan nhw’n gweld y ddau sefydliad yn cyflwyno gweithgareddau cyffrous, heriol, llawn hwyl a fydd yn helpu i’w cael nhw i gymryd rhan a chael effaith gadarnhaol ar y cymunedau lle maent yn byw.

WISPA £4,900

Mae gan Gymorth i Fenywod Llanelli fenter newydd o’r enw WISPA; rhaglen ydyw sy’n cefnogi dynion sy’n cyflawni trais domestig. Mae’r rhaglen yn 36 wythnos o hyd, gyda grwpiau o hyd at wyth aelod yn cwrdd yn wythnosol am ddwy awr. Rhedir y grwpiau ar sail dreigl; hynny yw, pan mae aelod o’r grŵp yn gorffen y rhaglen, neu’n gadael, gall aelod newydd ymuno â’r grŵp. Bydd yr arian ar gyfer y prosiect yn galluogi staff i ymgymryd â’r hyfforddiant i gyflwyno’r rhaglen, a chyflwyno’r prosiect am un rhaglen 38 wythnos o hyd yn Sir Gaerfyrddin.

Ceredigion

Clwb Ieuenctid Llangybi £1,000

Bydd y prosiect yn edrych ar ymagwedd bartneriaeth tuag at fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac ar arwain pobl ifainc sydd mewn perygl o droseddu drwy ariannu pum sesiwn gyda’r Academi Celfyddydau Creadigol er mwyn i blant a phobl ifainc gymryd rhan bositif mewn dewisiadau amgen ar gyfer gweithgareddau dargyfeiriol.

Fforwm Cymunedol Penparcau £4,000

Bydd Fforwm Cymunedol Penparcau a’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, ynghyd â’r heddlu, yn datblygu rhaglen o weithgareddau ar gyfer yr hydref i bobl ifainc sydd mewn perygl o droseddu. Bydd y prosiect yn galluogi’r bobl ifainc i gymryd rhan mewn gweithgareddau na fyddent yn cael mynediad iddynt fel arfer megis syrffio, arforgampau ayyb. Mae’r rhaglen yn anelu i adeiladu hunan-barch a hyder mewn pobl ifainc drwy fwynhau’r awyr agored a darganfod eu potensial eu hunain.

Prosiect Plant a Theuluoedd Cymorth i Fenywod Gorllewin Cymru £4,970

Bydd yr arian yn cynorthwyo Cymorth i Fenywod Gorllewin Cymru i gyflwyno prosiect a fydd yn helpu plant a phobl ifainc sydd wedi profi neu wedi gweld cam-drin domestig yn digwydd. Bydd y prosiect yn galluogi grwpiau bychain a theuluoedd i gymryd rhan mewn amrediad o weithgareddau a gwyliau byr lle y gallant ddechrau ailadeiladu perthnasau mam a phlentyn ac ymgysylltu â modelau rôl gwrywaidd cadarnhaol. Bydd hyn yn darparu profiadau newydd a chadarnhaol mewn amgylchedd diogel a strwythuredig.

Sir Benfro

Hafan Cymru £5,000.00

Bydd yr arian yn cyfrannu tuag at y rhaglen Rhyddid, gan ariannu dau gwrs 12 wythnos o hyd yn Sir Benfro. Bydd un cwrs yn cychwyn ym mis Medi 2013, a’r ail yn cychwyn ym mis Ionawr 2014. Y nod yw rhoi cyfle i ddioddefwyr trais domestig benywaidd sy’n agored i niwed archwilio’r profiadau maen nhw wedi cael, effeithiau trais domestig ar eu plant, a gwybodaeth i’w cynorthwyo i adnabod perthnasau camdriniol, drwy gyfrwng grŵp. Nod y rhaglen yw eu dysgu i adnabod ymddygiad camdriniol a’u hatal rhag mynd mewn i berthnasau camdriniol yn y dyfodol fel y gellir torri’r cylch trais.

Bugeiliaid Stryd Hwlffordd £2,030.28

Bydd yr arian yn cyfrannu tuag at Fugeiliaid Stryd Hwlffordd a fydd yn ymgysylltu â phobl ar y stryd er mwyn gofalu amdanynt, gwrando arnynt, a rhoi negeseuon ynglŷn â diogelwch iddynt. Gwirfoddolwyr yw Bugeiliaid Stryd sydd wedi’u hyfforddi’n bennaf i roi gofal a chymorth i bawb, yn arbennig pobl ifainc, a’r rhai sydd o dan ddylanwad alcohol/cyffuriau, fel arfer ar benwythnosau a’r rhai sydd allan yn hwyr y nos. Mae’r cynllun wedi profi’n werthfawr iawn o ran helpu i leihau’r niwed sy’n gysylltiedig â throsedd ac anhrefn yn yr economi nos, yn arbennig digwyddiadau sy’n gysylltiedig ag alcohol.

Ieuenctid Aberdaugleddau o Bwys £5,000

Darpariaeth ieuenctid targedig ar gyfer pobl ifainc 14 i 25 o Aberdaugleddau. Bydd y gwaith y bwriedir ei gyflawni yn cynnwys pedwar pwnc allweddol a nodwyd sy’n ymwneud â’r gymuned hon yn benodol, gan gynnwys diogelwch cymunedol, canfyddiad troseddau, ymddygiad gwrthgymdeithasol a phobl sy’n agored i niwed. Bydd gweithdai a phrosiectau amlasiantaethol yn cael eu cynnal yn yr ysgol, y ganolfan ieuenctid ac yn y gymuned fel gweithgareddau addysgiadol dargyfeiriol. Gall y bobl ifainc sy’n cymryd rhan gael eu cyfeirio gan asiantaethau partner, neu medrant fynychu ar sail wirfoddol.

Canolfan Antur Sir Benfro £1,890

Darperir arian er mwyn cyfrannu tuag at gynnal y Gwersyll Gwyllt yn Sir Benfro. Prosiect dargyfeiriol amlasiantaethol yw’r Gwersyll Gwyllt, a’i nod yw atal pobl ifainc rhag troseddu ac ymddwyn yn wrthgymdeithasol. Anelir y prosiect at bobl ifainc sydd mewn perygl o droseddu, neu’r rheiny o gefndiroedd difreintiedig. Bydd Canolfan Antur Sir Benfro yn cynnig diwrnod o arforgampau/caiacio, a sesiwn abseilio gyda’r hwyr.

SUDDS £4,995.96

Bydd yr arian yn ehangu cyrhaeddiad addysg, gwybodaeth ac ymwybyddiaeth ynghylch cyffuriau ac alcohol i bobl Dyfed-Powys drwy wasanaeth SUDDS. Bydd yr arian yn helpu’r sefydliad i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â’r niwed a achosir i gymunedau drwy gamddefnyddio sylweddau, a chynnal gweithgaredd atal ac addysgu gyda phobl ifainc drwy ddatblygu technegau rhyngweithiol i geisio cyswllt â phobl ifainc y gymuned a’u diddori.

Powys

Clwb Bocsio Aberhonddu £2,865

Mae’r arian ar gyfer cynorthwyo â chostau cynnal Clwb Bocsio Aberhonddu, sy’n darparu gweithgareddau dargyfeiriol i ieuenctid Aberhonddu. Bydd yr arian hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer prynu offer newydd fel bod y grŵp yn medru cynyddu nifer y bobl ifainc sy’n mynychu’r clwb.

Clwb Rygbi Gwernyfed £800

Bydd yr offer a brynir gan y grant yn helpu i ehangu hygyrchedd y clwb. Mae’r adran ar agor i fechgyn a merched o 7 i 18 oed, a chredir mai hwn yw’r unig glwb ym Mhowys sy’n cynnig rygbi i ferched. Bydd yr offer yn helpu i wella’r cyfleoedd i blant o’r ddau ryw o 7 i 18 oed gymryd rhan mewn chwaraeon yn ardal Talgarth.

Grŵp Ieuenctid Machynlleth £200

Darparu offer newydd yn lle hen offer ar gyfer y clwb ieuenctid, gan ddarparu ar gyfer y rhai sydd eisoes yn mynychu’r clwb, ac annog plant eraill o Fachynlleth a’r pentrefi cyfagos i ddod i’r clwb a gwneud ffrindiau newydd a dysgu sgiliau newydd. Ar hyn o bryd, mae 20-45 o blant yn elwa o’r cynllun ac mae’r clwb yn gobeithio annog mwy o bobl ifainc lleol i fynychu.

Prosiect Ieuenctid Llanandras £1,000

Bydd yr arian yn cyfrannu at redeg Prosiect Ieuenctid Llanandras. Cychwynnwyd y prosiect yn 2009 mewn ymateb i’r nifer cynyddol o bobl ifainc a oedd yn cyflawni fandaliaeth yn Llanandras, ac yn dilyn cau’r hen ganolfan ieuenctid. Byddai’r angen i wneud rhywbeth ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael ei drin drwy ddarparu cyfleuster addas yn y dref a fyddai’n gweithredu fel grŵp ffocws ar gyfer pobl ifainc yn y gymuned. Byddai’n rhoi rhywle iddynt fynd ddwy noson yr wythnos, a datblygu rhwydwaith cymorth o gyfeillion ifainc, ynghyd ag arweiniad oedolion.