10 Maw 2021
Mae miloedd wedi gwylio’r darllediad byw o Gynhadledd Dioddefwyr Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys.
Ar ddydd Gwener 5 Mawrth 2021, cynhaliodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, ei bumed gynhadledd Gŵyl Ddewi flynyddol, a oedd yn canolbwyntio ar ddioddefwyr a
Cynhaliwyd cynadleddau Gŵyl Ddewi blaenorol Mr Llywelyn ym Mhencadlys Heddlu Dyfed-Powys yng Nghaerfyrddin, gyda ffocws ar reolaeth drwy orfodaeth (2017), iechyd meddwl yn y maes plismona (2018), seiberdroseddu (2019), a throseddau gwledig (2020).
Oherwydd cyfyngiadau COVID-19, cynhaliwyd cynhadledd Gŵyl Ddewi 2021 ar-lein; cafodd ei darlledu’n fyw ar Facebook. Agorodd hyn fynediad i Gynhadledd y Comisiynydd, ac arweiniodd at amrediad llawer ehangach o bobl a sefydliadau’n medru ymuno ac ymgysylltu ar lwyfan lle y trafodwyd dioddefwyr a gwasanaethau ar gyfer dioddefwyr.
Darlledwyd y gynhadledd yn fyw ar www.facebook.com/DPOPCC, ac mae pob un o’r 5 sesiwn dal ar gael i’w gwylio.
Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu: “Roedd y diwrnod ei hun yn llwyddiant mawr. Diolch i bawb a gymerodd ran, ac i’m tîm a weithiodd tu ôl i’r llenni er mwyn sicrhau rhediad esmwyth y digwyddiad.
Mae’n hollbwysig fod dioddefwyr yn gwybod pa wybodaeth a chymorth sydd ar gael iddynt, ac roedd fy nghynhadledd yn gyfle i hyrwyddo gwasanaethau cymorth, a chlywed gan weithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y maes hwn.
Braint oedd croesawu’r Comisiynydd Dioddefwyr, y Fonesig Vera Baird, a’m siaradwyr gwadd eraill. Cawsom drafodaethau pwysig iawn, a thynnwyd sylw at faterion allweddol o gwmpas gwasanaethau dioddefwyr.”
Yn ogystal â’r Comisiynydd Dioddefwyr, croesawodd Mr Llywelyn gynrychiolwyr o fudiad Dewis, Emma Ackland – Dirprwy Brif Gwnstabl Dros Dro Heddlu Dyfed-Powys, Hugh Simkiss - Pennaeth Trosedd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM Cymru, ac Anne Campbell o’r elusen Embrace Child Victims of Crime, fel ei siaradwyr gwadd.
Ychwanega Mr Llywelyn: “Yr wyf wrth fy modd i adrodd bod y darllediad byw o’m Cynhadledd Dioddefwyr wedi’i wylio bron 10,000 o weithiau. Diolch i bawb a ymunodd â mi ar y diwrnod, ac sydd wedi gwylio’r fideos ers hynny.”