10 Tach 2020

Disgwylir i sawl grŵp Cymunedol ar draws ardal Dyfed-Powys elwa o gronfa o £140,000, dros yr wythnosau nesaf wrth i sawl digwyddiad cyllidebu cyfranogol gael eu cynnal ar draws ardal Heddlu Dyfed-Powys trwy Dimau Plismona Cymunedol.

Mae’r buddsoddiad o £140,000 wedi ei sicrhau drwy Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys Dafydd Llywelyn, sydd wedi ymrwymo cyllideb o £10,000 i bob ardal plismona cymunedol. Mae nifer o'r Timau Plismona Cymunedol wedi llwyddo i sicrhau arian ychwanegol gan bartneriaid a sefydliadau lleol, sydd wedi arwain at fwy o arian ar gyfer grwpiau cymunedol I ymgeisio amdano.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd; “Rwy’n falch iawn o weld bod y dull arloesol hwn o ariannu cyllid cymunedol wedi cael dechrau mor wych. Mae nifer o’r Timau Plismona Cymdunedol wedi llwyddo i fwy na dyblu’r cyllid yr wyf wedi’i ddyrannu i bob un ohonynt, sy’n newyddion gwych i gymunedau gan ei fod yn golygu y byddwn yn gweld mwy o brosiectau a mentrau gwych yn cael eu hariannu.

“Rwyf wedi ymrwymo i ariannu’r dull cyllido cyfranogol newydd hwn gan fy mod yn credu ei bod yn hanfodol bod trigolion lleol yn cael dweud eu dweud ynghylch sut mae arian yn cael ei wario yn eu hardal. Nhw yw’r rhai sydd yn y sefyllfa orau i weithio gyda'r heddlu, ac asiantaethau partner eraill, i nodi lle mae angen yr arian a beth fyddai fwyaf buddiol i'r cymunedau lleol. ”

Ychwanegodd yr Uwcharolygydd Ifan Charles, arweinydd yr heddlu ar gyfer cyllidebu cyfranogol: “Mae sawl un o’r digwyddiadau hyn bellach yn cael eu cynnal ar draws ardal Dyfed-Powys, ac rydym yn falch iawn gyda’r lefel o ddiddordeb gan grwpiau sydd wedi, ac yn dymuno, gwneud cais i gymryd rhan.

“Mae'n ofynnol i sefydliadau ddangos sut y gallai eu prosiect wella diogelwch cymunedol a hyrwyddo cymuned iachach a mwy diogel yn eu hardal a bydd y cymunedau eu hunain yn penderfynu pa gynigion fyddai fwyaf buddiol i bobl sy'n byw ym mhob ardal.

“Wrth ei wneud fel hyn, rydyn ni’n rhoi mwy o lais i bobl o ran sut mae eu cymuned yn esblygu.”

“Mae cyllidebu cyfranogol wedi gweithio’n dda iawn mewn mannau eraill ac rwy’n gyffrous i arwain ar y broses o gyflwyno’r dull hwn yma.”

Mae'r holl ddigwyddiadau cyfranogi yn digwydd ar Zoom, lle gofynnir i grwpiau cymunedol sy'n ceisio am arian gyflwyno fideo yn arddangos eu syniadau prosiect. Ychwanegodd y CHTh Mr Llywelyn; “Mae wedi bod yn wych gweld pa brosiectau sydd wedi bod yn llwyddiannus yn yr ardaloedd hynny lle mae’r digwyddiadau eisoes wedi cael eu cynnal.

“Rydyn ni nawr yn edrych ymlaen at weld canlyniadau’r holl bleidleisio ym mhob ardal, a darganfod pa brosiectau fydd yn gallu cefnogi’r gymuned gyda’u gwaith da.

“Rwy’n gobeithio yn y Flwyddyn Newydd y byddaf yn gallu ymweld â sawl un o’r grwpiau hyn i weld sut mae eu cymunedau wedi elwa o’r cyllid”.

DIWEDD

Amserlen digwyddiadau cyllidebu cyfranogol sydd wedi ac ar fin digwydd dros yr wythnos nesaf:

Llandrindod Wells

31/10/2020

Ammanford

07/11/2020

Burry Port and Pembrey

14/11/2020

Carmarthen

28/11/2020

Ystradgynlais

03/12/2020

Cardigan

05/12/2020

 

Rhagor o fanylion:

Gruff Ifan

Ymgynghorydd Polisi ac Ymgysylltu

Gruffudd.Ifan.OPCC@dyfed-powys.pnn.police.uk