24 Chw 2021

Dyfarnu Marc Ansawdd Tryloywder i Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd am y drydedd flwyddyn yn olynol

Am y drydedd flwyddyn yn olynol, dyfarnwyd y Marc Ansawdd Tryloywder i Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, arwydd o safonau ansawdd uchel mewn perthynas â thryloywder strwythurau llywodraethu a chyhoeddi gwybodaeth.

Bob blwyddyn er 2013, mae CoPaCC, arbenigwyr llywodraethu’r heddlu, wedi asesu sut mae swyddfeydd comisiynwyr heddlu a throseddu (SCHTh) yn cyflawni eu rhwymedigaethau statudol ar gyfer tryloywder fel sy’n ofynnol gan y ffactorau tryloywder statudol sydd wedi’u cynnwys yn y Gorchymyn Cyrff Plismona Lleol Etholedig (Gwybodaeth Benodedig) 2011 , yn seiliedig ar y wybodaeth a gyflwynir trwy wefannau SCHTh.

Bob blwyddyn mae'r SCHTh hynny y bernir eu bod yn cyrraedd safon foddhaol yn cael Marc Ansawdd Agored a Thryloyw CoPaCC. Dros y blynyddoedd mae proses, meini prawf a thrylwyredd yr asesiad wedi'u mireinio a'u cryfhau, er mwyn cefnogi SCHTh i wella safonau tryloywder.

Aseswyd SCHTh yn ystod Tachwedd 2020 ac Ionawr 2021 gan ymchwilydd CoPaCC yn gweithredu fel ‘siopwr cudd’, gan adolygu gwefannau i bennu sut mae Comisiynwyr yn cyflawni eu cyfrifoldebau statudol. Eleni, dyfarnwyd y marc Ansawdd Tryloywder i'r nifer uchaf erioed o 39 SCHTh, gan gynnwys Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, “Rwy’n falch iawn I dderbyn y Marc Ansawdd hwn ar ran y swyddfa. Mae bod yn agored ac yn dryloyw yn elfen allweddol o rôl Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd ac yn rhywbeth yr wyf i a'r Swyddfa yn ei gymryd o ddifrif.

“Wrth dderbyn y Marc Ansawdd hwn am y drydedd flwyddyn yn olynol, gallwch fod yn hyderus fy mod yn cyflawni fy nghyfrifoldebau cyhoeddi. Mae'r swyddogaeth gydymffurfio yn fy swyddfa yn sicrhau y gweithredir ar unrhyw newidiadau a diweddariadau i ddeddfwriaeth a bod gan aelodau'r cyhoedd lwybr i ofyn am wybodaeth sydd gennym.

“Fel un o’r 39 swyddfa y cyflwynir y wobr iddynt, mae fy swyddfa wedi profi eu bod yn darparu gwybodaeth cyson a chlir sy'n dangos eu hymrwymiad i dryloywder.

Mae Grant Thornton, y prif ddarparwr sicrwydd heddlu, yn noddi dadansoddiad Marc Ansawdd Agored a Thryloyw CoPaCC a’r gwobrau cysylltiedig. Dywedodd Paul Grady, Pennaeth Heddlu Grant Thornton: “Mae tryloywder yn rhan hanfodol o’r broses ddemocrataidd. Er mwyn i'r cyhoedd allu mesur pa mor llwyddiannus yw eu CHTh wrth gyflawni eu mandad etholiadol, mae angen iddynt gael mynediad at wybodaeth sy'n hygyrch, yn hawdd ei deall ac yn addas at y diben. Mae Grant Thornton yn falch o fod yn cefnogi’r Gwobrau Tryloywder hyn unwaith eto ac rydym yn llongyfarch pawb sydd wedi llwyddo i gyrraedd y safonau gofynnol.”

 

DIWEDD

Rhagor o fanylion:

Gruff Ifan

Ymgynghorydd Polisi ac Ymgysylltu: Gruffudd.ifan@dyfed-powys.pnn.police.uk