13 Maw 2015

Roedd gwirfoddolwyr cynllun ieuenctid a masnachwyr lleol ymhlith y rhai a gafodd ymweliad gan Christopher Salmon, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, ym Mhowys.

Yn ystod ei ddiwrnod Eich Llais yn Llanandras a Threfyclo, siaradodd ag unigolion yn breifat hefyd mewn cyfarfodydd 20 munud o hyd.

Roedd materion a godwyd yn cynnwys fandaliaeth, dyfodol Gorsaf Heddlu Trefyclo ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Dywedodd Mr Salmon: “Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn falltod ar fywydau pobl ac rwy’n falch fy mod i wedi lansio gwasanaeth gyda’r arbenigwyr cymorth tai Gwalia er mwyn mynd i’r afael a’r broblem.

“Mae Gorsaf Heddlu Trefyclo dal ar agor; rwy’n edrych ar opsiynau ar gyfer dyfodol canolfannau heddlu, ond ni fyddaf yn gwneud unrhyw benderfyniad lleol hyd nes yr ymgynghorir â phreswylwyr. Rwy’n croesawu barn a syniadau’r cyhoedd ynghylch unrhyw faterion sy’n ymwneud â materion plismona a throseddu.”

Ymhlith y rhai fu'n cwrdd â Mr Salmon yn Llanandras oedd aelodau o Grŵp Hunangymorth Llanandras a Threfyclo ar gyfer Pobl â Nam ar eu Golwg, cynghorwyr tref Llanandras a Norton a gwirfoddolwyr Prosiect Ieuenctid Llanandras.

Yn Nhrefyclo, cyfarfu â SCCH Simon Caine, staff siop Tuffins a chynghorwyr tref.

Mae'r Comisiynydd yn goruchwylio cyllideb flynyddol o tua £96 miliwn ar gyfer plismona yn Nyfed-Powys. Ac yntau'n llais etholedig y cyhoedd, mae'n sicrhau bod yr heddlu'n atebol i'r cymunedau a wasanaethir ganddo.

Mae’n gweithio mewn partneriaeth ar draws amrediad eang o asiantaethau er mwyn sichrau ymagwedd gydlynedig tuag at atal a lleihau trosedd.

Yn ystod ei 2 flynedd gyntaf yn y swydd, mae ei gyflawniadau allweddol yn cynnwys mwy o heddweision, gwella mynediad at yr Heddlu, lleihau costau plismona a lansio Cronfa’r Comisiynydd ar gyfer mentrau cymunedol.

Mae Mr Salmon wedi trefnu 12 diwrnod Eich Llais yn 2015 – tri ym mhob un o siroedd Dyfed Powys, sef Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro, a Phowys.

Mae’r amserlen yn cynnwys: Llanelli a Phorth Tywyn; Tyddewi ac Abergwaun; Aberystwyth; Caerfyrddin a Sanclêr; Llanfair-ym-Muallt ac Aberhonddu; Cei Newydd ac Aberaeron. Ym mis Ionawr, ymwelodd â De Sir Benfro, a mis diwethaf, galwodd heibio i ardal Llanbedr Pont Steffan yng Ngheredigion.