02 Awst 2022
Heddlu Dyfed-Powys, Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn cyhoeddi cydweithio cyffrous newydd ar hyfforddiant swyddogion, yn Eisteddfod Tregaron
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn falch i gyhoeddi bydd y swyddogion newydd dan hyfforddiant sy’n dechrau eu hyfforddiant yn Mis Medi 2022 yn gallu gwneud hynny, mor bell a phosib, trwy gyfrwng y Gymraeg, os ydynt yn dymuno.
Mae’r llu yn cydweithio gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol De Cymru I gynyddu’r cyfleoedd I recriwtiaid sy’n siarad Cymraeg i wneud cymaint o’r hyffoddiant yn Gymraeg ag sy’n bosib. Mae gan swyddogion dan hyfforddiant gyfnod cychwynnol pan eu bod yn y Pencadlys ar gyfer hyfforddiant cychwynnol, a chyfnod dilynol lle eu bod yn hyfforddi yn y swydd yn ein Hardaloedd Plismona Lleol. Trwy gydol y cyfnod cychwynnol yn y Pencadlys maent yn cael mewnbynnau cyfreithiol, ymarferol ac academig.
Dywedodd Prif Gwnstabl Dr Richard Lewis: “Mae’r iaith Gymraeg yn rhan annatod o nifer fawr o’r cymunedau rydym yn plismona yn ardal Dyfed-Powys, ac mae’n bwysig dros ben i ni ddangos parch i’n cymuedau Cymraeg a Chymreig trwy fedru cynnig gwasanaeth plismona cwbwl ddwyieithog i nhw. Rydym yn hynod falch I fod yn mewn sefyllfa i gynnig hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg i’r recriwtiaid newydd fydd yn cychwyn eu taith gyda ni yn Mis Medi – fel bod nhw’n gallu cael eu hyfforddi yn eu dewis iaith a bod yn hyderus ar ol yr hyfforddiant yn cyfathrebu yn y Gymraeg. Bydd yna hefyd ddisgwyl i’r rhai sy’n medru’r Gymraeg gefnogi ac annog y swyddogion dan hyfforddiant di-Gymraeg neu dysgwyr fel bod nhw hefyd yn gallu datblygu eu sgiliau iaith Gymraeg. Mae hyn yn dddatblygiad cyffrous iawn i’r llu, ac rwyf wedi ymrwymo i wneud bob dim posib i hybu’r iaith Gymraeg yn Heddlu Dyfed-Powys.”
Trwy’r cyfnod dilynol (blwyddyn dau a tri) mae’r swyddogion dan hyfforddiant yn parhau I dderbyn mewnbynnau academig lle mae’n ofynnol iddynt barhau â thrafodaethau proffesiynol gyda darlithwyr, a gwneud cyflwyniadau academig fel aseiniadau a thraethodau.
Mae yna gyfran uchel o’r boblogaeth yn ardal Dyfed-Powys yn siarad Cymraeg iaith gyntaf, ac rydym wedi ymrwymo I gyflawni ein dyletswydd I gynnig gwasanaeth dwyieithog i’r gymuned hynny, ac I fedru cyfathrebu yn hyderus gyda’r cyhoedd yn Gymraeg neu Saesneg.
Dywedodd Dr Dafydd Trystan, Cofrestrydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Mae datblygu gweithlu dwyieithog yn rhan allweddol o gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg sy'n defnyddio'r Gymraeg yn rheolaidd. Mae’r Coleg yn falch iawn i fod yn cydweithio gyda Heddlu Dyfed Powys a Phrifysgol De Cymru i ehangu'r hyfforddiant dwyieithog sydd ar gael i ddarpar heddweision, Mae agwedd rhagweithiol Heddlu Dyfed Powys, y Prif Gwnstabl a'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn esiampl i'w dilyn gan eraill ar draws y sector gyhoeddus.”
Ychwanegodd Comsiynydd Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn: “Rwy’n falch iawn o’r camau sy’n cael eu cymeryd er mwyn datblygu gweithlu dwyieithog o fewn Heddlu Dyfed-Powys. Mae canran uchel o boblogaeth ardal Dyfed-Powys yn siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf, ac felly mae dyletswydd arnom ni i sicrhau ein bod yn gallu darparu gwasanaeth dwyieithog yn ddi-os, a bod gennym weithlu sydd a’r sgiliau i gyfathrebu gyda’r cyhoedd yn hyderus yn y Gymraeg a’r Saeseg. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am ddarparu arweiniad a chefnogaeth i ni wrth gynllunio i ddatblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar raglenni hyfforddiant swyddogion yr heddlu., ac am gefnogi gweledigaeth y Prif Gwnstabl a minnau.”
Bydd deunydd dysgu ar gyfer mewnbynnau cyfreithiol ar gael I’r swyddogion dan hyfforddiant, mewnbynnau ymarferol yn cael eu datblygu ar gyfer chwarae rôl, hyfforddi gyrru a chyfweld yn Gymraeg, ac o ran y mewnbynnau academig mae Prifysgol De Cymru yn cynnyddu’r cyfleoedd ar gyfer myfyrwyr I ymgysylltu â nhw yn Gymraeg. Byddant yn gallu cyflwyno eu gwaith yn Gymraeg, cael trafodaethau proffesiynol yn Gymraeg, a deunydd academig yn cael eu darparu yn Gymraeg.
Bydd myfyrwyr yn gallu gwneud cais am fwrsari o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol lle gellir profi bod traean o’u cymhwyster academig wedi ei gyflawni yn Gymraeg.
Bydd swyddogion dan hyfforddiant di-Gymraeg neu dysgwyr hefyd yn cael cyfleoedd I ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg trwy senarios ymarferol lle bydd angen I nhw ymgysylltu yn Gymraeg, gweithdai ychwanegol I ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg, a bydd y swyddogion dan hyfforddiant sy’n siarad Cymraeg yn actio fel mentoriaid I nhw trwy gydol y rhaglen.
DIWEDD
Yn y llun cyntaf (chwith i’r dde): Dr Dafydd Trystan, Prif Gwnstabl Dr Richard Lewis, a Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn
Yn yr ail lun: Prif Gwnstable Dr Richard Lewis