26 Mai 2022

Gofynnir i drigolion ardal Dyfed-Powys gymryd ychydig funudau i ddweud wrth benaethiaid yr heddlu am eu profiadau o wasanaethau 101 a 999, yn ogystal â'u dymuniadau ar ddulliau cyswllt yn y dyfodol.

Agorodd Arolwg Cyswllt yr Heddlu ar Mai 16 ac mae’n rhedeg tan hanner nos ddydd Sul, Mehefin 26.

Gofynnir cyfres o gwestiynau i gyfranogwyr sy’n profi eu dealltwriaeth o systemau adrodd brys a di-argyfwng, yn ogystal â ffyrdd newydd o gysylltu â’r heddlu, fel gwe-sgwrs, ffurflenni ar-lein a negeseuon dros gyfryngau cymdeithasol.

Bydd yr arolwg, sy’n cael ei redeg gan Gymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, yn helpu i hysbysu heddluoedd, y Swyddfa Gartref a chomisiynwyr lleol am unrhyw heriau sy’n ymwneud ag adrodd i’r heddlu a chynorthwyo i lunio cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn: “Mae adrodd drwy linellau 101 a 999 yn parhau i fod yn faes busnes heriol i heddluoedd. Rhaid deall anghenion y rhai sy'n cysylltu ac mae'n rhaid i heddluoedd flaenoriaethu'r rhai sydd â'r angen mwyaf, sy'n golygu weithiau nad ymatebir i gyswllt am eitemau arferol mor gyflym ag y byddai pobl yn dymuno.

“Yn ogystal, mae technoleg newydd a ddefnyddir gan rai heddluoedd yn cyflwyno cyfleoedd sylweddol i gyflymu ymatebion ac agor llinellau cyfathrebu â phobl nad ydynt efallai'n gyfforddus i ddefnyddio dulliau traddodiadol. Fel llais y cyhoedd  ar faterion plismona, mae Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn awyddus iawn i ddeall barn eu hetholwyr ar y materion hyn yn well a byddant yn annog cymaint o bobl â phosibl i ymateb i’r arolwg.”

Gellir cwblhau'r arolwg trwy glicio ar y ddolen yma.