09 Maw 2021

Heddiw mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn yn galw am gau’r llety lloches yn Penalun, Sir Benfro ar unwaith yn dilyn adroddiad adolygu damniol gan Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi (HMIP) a phrif arolygydd annibynnol Ffiniau a Mewnfudo (ICIBI).

Yn ogystal â pryderon am ddifyg diogelu ac amddiffyn rhag Covid, pryderon o ran diogelwch tân ac amodau byw, canfu'r arolygwyr nad oedd gan reolwyr y profiad na'r sgiliau i redeg llety cymunedol ar raddfa fawr ac nad oedd y Swyddfa Gartref yn goruchwylio'n ddigonol. Mae'r adroddiad hefyd yn datgelu bod llawer o drigolion y ganolfan wedi dweud bod ganddyn nhw broblemau iechyd meddwl.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd; “Yn dilyn yr adroddiad annibynnol hwn, a’i feirniadaeth ddamniol, rwy’n galw am gau’r ganolfan loches yn Penalun, Sir Benfro ar unwaith.

“Rwyf wedi bod bod yn feirniadol o benderfyniad y Swyddfa Gartref i ddefnyddio’r gwersyll i gartrefu ceiswyr lloches ers mis Medi y llynedd, ac mae fy mhryderon yn cael eu cyfiawnhau yn dilyn canfyddiadau cychwynnol yr Arolygydd Annibynnol a gyhoeddwyd yr wythnos hon.

“Rwyf wedi gweld o lygad y ffynnon yr amgylchiadau anodd y mae unigolion sy'n byw yn y ganolfan yn eu hwynebu. Ym mis Ionawr, cyfarfûm â David Bolt, Prif Arolygydd Lloches a Mewnfudo, a roddodd sicrwydd imi ar y pryd y byddai'r arolygiad annibynnol hwn o'r Ganolfan yn cael ei gynnal.

“Rwy’n falch nawr bod canfyddiadau’r adroddiad yn tynnu sylw at y pryderon a’r ofnau yr wyf i a rhanddeiliaid lleol eraill wedi’u codi gyda’r Swyddfa Gartref ar sawl achlysur.

“Mae’r diffyg cynllunio strategol ynghylch defnyddio gwersyll ers mis Medi 2020, ynghyd â’r diffyg ymgysylltu â’r gymuned wedi bod yn hynod rwystredig. Mae hyn wedi arwain at roi pwysau diangen ar adnoddau lleol ar adeg pan ydym yn ceisio amddiffyn ein cymunedau rhag pandemig byd-eang.

“Rydw i nawr yn galw ar y Swyddfa Gartref i wneud trefniadau amgen a'n bod ni'n gweld cau'r Ganolfan unwaith ac am byth”.

DIWEDD

Rhagor o fanylion:

Gruff Ifan

Ymgynghorydd Polisi ac Ymgysylltu

Gruffudd.ifan@dyfed-powys.pnn.police.uk