23 Maw 2015

Roedd myfyrwyr a chynghorwyr ymhlith y rhai a gafodd ymweliad gan Christopher Salmon, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, yn Llanelli.

Yn ystod ei ddiwrnod Eich Llais yn Llanelli ar 19 Mawrth, cyfarfu ag unigolion yn breifat hefyd mewn sesiynau 20 munud o hyd.

Roedd materion a godwyd yn cynnwys teledu cylch cyfyng a darpariaeth ar gyfer pobl ifainc yn Llanelli.

Dywedodd Mr Salmon: “Cyfrifoldeb y cyngor sir yw teledu cylch cyfyng cyhoeddus yn bennaf. Rwy’n hapus i’w helpu nhw ac eraill â chyllidebau teledu cylch cyfyng i ystyried yr opsiynau gorau ar gyfer y dyfodol.

“Rwyf eisiau diogelu pobl sy’n agored i niwed ac annog gweithgarwch sy’n gwneud ein cymunedau’n fwy diogel; mae Cronfa’r Comisiynydd yn un ffordd y medraf wneud hynny.”

Mae Cronfa’r Comisiynydd, a lansiwyd 18 mis yn ôl, yn cynnig grantiau o hyd at £5,000 er mwyn i elusennau, sefydliadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol ddatblygu syniadau sydd ag effaith gadarnhaol ar yr ardal maen nhw’n gwasanaethu.

Ymhlith y rhai fu'n cwrdd â Mr Salmon yn Llanelli oedd myfyrwyr Ysgol Bryngwyn a disgyblion yn Ysgol Gynradd Maes y Morfa. Hefyd, cyfarfu ag aelodau o Gyngor Tref Llanelli a SCCH lleol. Y diwrnod cynt, cyfarfu ag aelodau o Siambr Fasnach Llanelli a chynghorwyr tref Pen-bre a Phorth         Tywyn.

Mae'r Comisiynydd yn goruchwylio cyllideb flynyddol o tua £96 miliwn ar gyfer plismona yn Nyfed Powys. Ac yntau'n llais etholedig y cyhoedd, mae'n sicrhau bod yr heddlu'n atebol i'r cymunedau a wasanaethir ganddo.

Mae'n gweithio mewn partneriaeth ar draws ystod o asiantaethau i sicrhau ymagwedd gydlynedig tuag at atal a lleihau troseddu.

Yn ystod ei ddwy flynedd gyntaf yn y swydd, mae ei gyflawniadau'n cynnwys mwy o heddweision, gwella mynediad y cyhoedd at yr Heddlu, lleihau costau plismona, a lansio Cronfa'r Comisiynydd ar gyfer mentrau cymunedol.

Mae Mr Salmon yn trefnu 12 o ddiwrnodau Eich Llais yn ystod 2015 - tri ym mhob un o siroedd Dyfed Powys, sef Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro, a Phowys.

Mae’r amserlen yn cynnwys: Tyddewi ac Abergwaun; Aberystwyth; Caerfyrddin a Sanclêr; Llanfair-ym-Muallt ac Aberhonddu; Cei Newydd ac Aberaeron. Ym mis Ionawr, ymwelodd â De Sir Benfro, a mis diwethaf, galwodd heibio i ardal Llanbedr Pont Steffan yng Ngheredigion. Mae e hefyd wedi ymweld â Llanandras, Powys, yn ddiweddar.