30 Gor 2021

Mewn cyfarfod arbennig ar brynhawn Gwener 30 Gorffennaf, mae Panel Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys wedi datagn cefnogaeth unfrydoI i benderfyniad y Comisynydd Dafydd Llywelyn i benodi Dr. Richard Lewis yn Brif Gwnstabl ar Heddlu Dyfed-Powys.

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn: “Rwy’n falch iawn o allu cyhoeddi Dr. Richard Lewis fel Prif Gwnstabl newydd Heddlu Dyfed-Powys, yn dilyn cefnogaeth unfrydol gan y Panel Heddlu a Throsedd heddiw.

"Pan ddechreuais ar y broses hon, roedd yn bwysig fy mod yn recriwtio Prif Swyddog a allai ddod â'r weledigaeth, y penderfyniad a'r gwytnwch sy'n ofynnol i arwain yr Heddlu yma yn Nyfed-Powys. Fe berfformiodd Richard yn dda iawn trwy gydol yr holl broses asesu a dangos sgiliau arwain gwych. Mae ei brofiad a'i ddealltwriaeth helaeth o blismona ynghyd â'i wybodaeth am ardal Dyfed-Powys yn ei roi mewn lle da i gefnogi'r blaenoriaethau yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd.

“Fel Prif Gwnstabl gweledigaethol, bydd Richard yn adeiladu ar y gwaith rhagorol a wnaed gan ei ragflaenydd, Mark Collins a ymddeolodd yn gynharach eleni, i wella ansawdd ein gwasanaeth yn barhaus, amddiffyn ein cymunedau a chwrdd â disgwyliadau'r cyhoedd.

“Mae ganddo hanes gwych o ymladd troseddau a rheoli plismona cymunedol ac edrychaf ymlaen yn fawr at weithio gyda Richard i gadw ein cymunedau’n ddiogel ac i ddatblygu Llu sy’n gwasanaethu ar gyfer heddiw ac sy’n addas ar gyfer y dyfodol.”

Ar hyn o bryd Dr. Richard Lewis yw Prif Gwnstabl Heddlu Cleveland.

Yn wreiddiol o Sir Gaerfyrddin, cychwynnodd ei yrfa yn y gwasanaeth heddlu yn 2000 fel cwnstabl heddlu yn Dyfed Powys. Bu Richard yn gweithio mewn amryw o rolau mewn iwnifform a CID yn ystod ei 18 mlynedd yn Heddlu Dyfed Powys. Gwasanaethodd ym mhob safle hyd at (ac yn cynnwys) Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Dyfed Powys, gan weithio ym mhob un o'r pedair sir yn ardal Dyfed Powys. Mae Richard hefyd wedi bod yn Bennaeth yr Adran Safonau Proffesiynol ac wedi cadeirio Gweithgor Gwrth-lygredd Cymru.

Yn 2010, enillodd Richard Ysgoloriaeth Fulbright, rhaglen addysgol fawreddog, ym Mhrifysgol Talaith Pennsylvania lle bu’n astudio lleoli Taser sy’n arwain at ddigwyddiadau niweidiol. Cynhaliwyd y gwaith mewn asiantaethau plismona mor amrywiol ag Adrannau Heddlu Dallas, Seattle ac Efrog Newydd. Treuliodd mwyafrif ei amser yn yr Unol Daleithiau yn gweithio gydag Uned Gwasanaeth Brys NYPD, a leolir yn Brooklyn.

Ar hyn o bryd, Richard yw arweinydd Moeseg Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC) ac mae’n cadeirio’r Pwyllgor Moeseg Cenedlaethol ac yn ddiweddar mae wedi cwblhau ei PhD gyda Phrifysgol Caerfaddon.

Dywedodd Dr Richard Lewis “Mae’n anrhydedd imi gael fy newis fel ymgeisydd llwyddiannus y Comisiynydd Dafydd Llywelyn ar gyfer swydd y Prif Gwnstabl yn Dyfed-Powys

“Rwyf wedi mwynhau fy amser yn Heddlu Cleveland yn fawr. Mae'n ardal sy'n fy atgoffa o adref ac mae'r croeso a gefais yma wedi bod yn ysgubol.

“Mae’r staff yn Cleveland ymhlith y gorau rydw i wedi gweithio gyda nhw yn genedlaethol a diolchaf iddyn nhw am eu gwaith caled parhaus a’r gefnogaeth maen nhw wedi’i dangos i mi ers i mi gyrraedd yn gynnar yn 2019.

“Mae'r cyfle i ddychwelyd adref ac arwain fy llu cartref yn un na allwn fforddio ei golli. Rwy'n addo rhoi popeth yn fy misoedd sy'n weddill yn Cleveland ac i gymunedau Dyfed-Powys am weddill fy ngwasanaeth.

“Hoffwn ddiolch i Gomisiynydd Steve Turner o Cleveland sydd wedi bod yn hynod gefnogol ac i’r Comisiynydd Dafydd Llywelyn am y ffydd y mae wedi'i rhoi ynof."

Dywedodd y Cynghorydd Alun Lloyd Jones, Cadeirydd Panel Heddlu a Throsedd, "'Ry ni'n falch iawn i groesawu Dr. Richard Lewis yn ol i Heddlu Dyfed-Powys ac rydym yn edrych ymlaen i gydweithio ag ef er budd pobl yr ardal yr ydym yn eu cynrychioli".

Ychwanegodd y Comisiynydd Dafydd Llywelyn: "Rwy'n ddiolchgar iawn i Claire Parmenter am ei chefnogaeth a'i harweinyddiaeth dros y misoedd diwethaf yn y rôl fel Prif Gwnstabl Dros Dro ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda Thîm Prif Swyddogion y dyfodol i sicrhau mai Heddlu Dyfed Powys yw'r Llu eithriadol yr wyf yn hyderus y gall fod".

CHTH Dafydd Llywelyn a Phrif Gwnstabl newydd Heddlu Dyfed-Powys, Dr. Richard Lewis

CHTH Dafydd Llywelyn a Phrif Gwnstabl newydd Heddlu Dyfed-Powys, Dr. Richard Lewis