23 Maw 2015

Mae’r cyhoedd wedi pleidleisio dros wario oddeutu £300,000 ar ddiogelwch y ffyrdd ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.

Gofynnodd pôl ar-lein gan Christopher Salmon, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, sut oedd y cyhoedd eisiau gweld yr arian yn cael ei wario. Dywedon nhw: “Cadwch ef ar gyfer diogelwch y ffyrdd.”

Dywedodd Mr Salmon: “Mae’r arian hwn yn weddill o gyrsiau ymwybyddiaeth cyflymder a fynychwyd gan fodurwyr sy’n euog o oryrru. Mae trefniadau newydd yn golygu bod yr arian hwn yn dod yn syth at Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu.

“Fy ngwaith i yw gwrando ar yr hyn y mae’r cyhoedd eisiau. Maen nhw wedi dweud wrthyf am gadw’r arian ar gyfer diogelwch y ffyrdd, felly dyna a wnaf.”

Bydd y Comisiynydd yn ystyried sut i rannu’r arian yn awr. Mae’n debygol y bydd yn gwahodd cynigion ar gyfer mentrau a fydd o fudd i Ddyfed-Powys gyfan.

Mae miloedd o bobl yn Nyfed-Powys sy’n cael eu bwcio am oryrru yn dewis mynychu cwrs addysgiadol. Mae’r rhai sy’n cael eu dal yn goryrru o fewn terfynau penodol yn cael dewis pwyntiau ar eu trwydded a dirwy o £100 – neu gwrs am gost o £85.

Yng Nghymru, mae’r £85 hwnnw yn cael ei wario fel a ganlyn: Mae £5 yn mynd tuag at weinyddu cronfa ddata genedlaethol sy’n cofnodi pwy sydd wedi ymgymryd â’r cwrs ac ymhle; mae £35 yn mynd tuag at GanBwyll, partneriaeth rhwng yr heddlu, llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru – nhw’n sy’n cynnal camerâu cyflymder; mae £22.31 yn mynd tuag at sefydlu’r cyrsiau – canolfannau, tiwtoriaid ac ati.

Mae hynny’n gadael £22.69 yn weddill fesul cwrs. Yn Nyfed-Powys, bydd y Comisiynydd yn derbyn yr arian o eleni ymlaen. Fis diwethaf, gwelodd pôl Mr Salmon yn gofyn i’r cyhoedd pa un ai a fyddai’n well ganddynt i’r arian gael ei wario ar ddiogelwch y ffyrdd, neu fentrau atal trosedd eraill.

O fis Mai tan ddiwedd Ionawr, mynychodd 7,432 gyrrwr gwrs ymwybyddiaeth cyflymder yn Nyfed-Powys gan gynhyrchu bron £170,000.