30 Meh 2022
Mae pobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion a Phowys yn cael eu hannog i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed ar faterion plismona trwy wneud cais i ddod yn aelodau o Fforwm Ieuenctid Comisiyydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys, Dafydd Llywelyn.
Mae'r Comisiynydd Hedllu a Throsedd yn awyddus I recriwtio hyd at 20 o aelodau fforwm ieuenctid, rhwng 14 a 25 oed, i ymuno â'i Fforwm Ieuenctid i sicrhau bod o leiaf un aelod o bob un o'r 14 ardal Tîm Plismona Cymunedol yn Nyfed-Powys ar y Fforwm.
Sefydlwyd y Fforwm yn wreiddiol gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn yn 2018. Mae aelodau’r Fforwm Ieuenctid yn cael eu hadnabod fel Llysgenhadon Ieuenctid ac yn cynrychioli barn eu cyfoedion o fewn eu grŵp/cymdeithas ieuenctid. Yn ogystal â chymryd rhan mewn trafodaethau yn ystod cyfarfodydd y Fforwm, mae Llysgenhadon Ieuenctid yn ymgynghori â phobl ifanc ar lawr gwlad ar faterion Heddlu a Throseddu amserol, ac yn adrodd yn ôl ar eu barn.
Yn 2021, bu aelodau presennol y Fforwm Ieuenctid yn gweithio gyda chwmni cyfryngau i ddatblygu fideo i rannu profiadau pobl ifanc o gyswllt â’r heddlu yn Nyfed-Powys. Derbyniodd y fideo ganmoliaeth uchel gan y Comisiynydd Plant ar y pryd, Sally Holland, a Heddlu Dyfed-Powys, ac mae bellach yn cael ei ddefnyddio fel adnodd dysgu gan adran Dysgu a Datblygu Heddlu Dyfed-Powys fel rhan o ddarpariaeth hyfforddi eu Swyddogion Heddlu.
Mae’r Comisiynydd Dafydd Llywelyn eisiau adeiladu ar waith y Fforwm hyd yma, er mwyn sicrhau bod gan Ddyfed-Powys Fforwm o Lysgenhadon Ieuenctid sy’n barod i ‘ddylanwadu’ a ‘herio penderfyniadau’, er mwyn sicrhau bod cymunedau Dyfed-Powys wasanaeth Heddlu sy'n diogelu plant a phobl ifanc yn llwyddiannus ac yn hybu eu lles.
Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn: “Rwyf wastad wedi bod yn frwdfrydig dros feithrin perthynas gref gyda phobl ifanc, ac rwyf am ddeall yn well beth sy’n arwain rhai pobl ifanc at droseddu ac anhrefn a sut y gellir eu helpu i wneud dewisiadau cadarnhaol mewn bywyd.
“Rwyf am sicrhau bod gan bob person ifanc lais yn nyfodol plismona yn Nyfed-Powys. Rwyf am wybod beth ddylai fod yn flaenoriaethau i ni, a beth yw eu barn nhw? Pa effaith mae trosedd yn ei chael arnyn nhw a'u cymuned? Beth sydd angen i ni ei newid?
“Bydd fy Llysgenhadon Ieuenctid yn cynrychioli lleisiau pobl ifanc o bob cefndir, ac yn fy nghefnogi gyda fy ngwaith craffu trwy herio penderfyniadau, darparu argymhellion, a dylanwadu ar newidiadau er budd pobl ifanc yn ein hardal.”
“Byddwn yn annog pobl ifanc o bob cefndir i lawrlwytho’r manylion o’n gwefan, a chysylltu am gymorth os ydynt yn dymuno gwneud cais”.
Arolwg Ieuenctid i adnabod blaenoriaethau
Fel rhan o’r ymgyrch recriwtio, mae’r Comisiynydd Dafydd Llywelyn wedi lansio arolwg ieuenctid i ddeall yn well amgyffrediad pobl ifanc o blismona yn eu hardal. Bydd canfyddiadau'r arolwg yn helpu i nodi tri maes blaenoriaeth i'r Fforwm Ieuenctid ganolbwyntio arnynt ar gyfer 2022/23.
Ychwanegodd y Comisiynydd Dafydd Llywelyn; “P’un a oes gennych ddiddordeb mewn bod yn aelod o’r Fforwm Ieuenctid ai peidio, byddwn yn annog pob person ifanc i gymryd yr arolwg byr, fel y gallwn nodi blaenoriaethau ar gyfer fy fforwm i weithio gyda ni o fis Medi ymlaen ar ran holl bobl ifanc ein hardal.”
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Llun 9fed o Awst. Gellir lawrlwytho gwybodaeth oddi ar wefan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd drwy’r cod QR canlynol.
Bydd yr arolwg ar gyfer pobl ifanc hefyd ar agor tan 9fed o Awst, a gellir cael mynediad ato drwy'r ddolen yma, neu drwy’r cod QR canlynol.
DIWEDD
Gwybodaeth bellach
Gruff Ifan
Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu
Gruffudd.ifan@dyfed-powys.police.uk