05 Ion 2021

Heddiw, mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys Swyddogion Heddlu ar restr blaenoriaeth Brechu Covid-19 fel y gellir eu hamddiffyn rhag y feirws ar frys.

Cafodd deiseb yn galw am i hyn ddigwydd gael ei sefydlu’n ddiweddar gan rhiant i Swyddog Heddlu a aeth yn sâl yn dilyn arestio dyn a oedd wedi’i heintio gan y feirws. Gyda dros 6000 o lofnodion eisoes ar y ddeiseb, mae cefnogaeth gan Unison, yr NPCC ynghyd â Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr, a bellach mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod swyddogion rheng flaen yn cael eu brechu fel blaenoriaeth.

Dywedodd y Comisiynydd Dafydd Llywelyn; “Fel pob Ymatebydd Cyntaf arall, ynghyd a staff y GIG, mae Swyddogion a staff yr Heddlu yn peryglu eu bywydau bob dydd er mwyn cadw’r cyhoedd yn ddiogel, ac maent mewn mwy o berygl o ddal a throsglwyddo COVID-19 oherwydd eu lefel uwch o amlygiad gyda’r cyhoedd a diffyg profion rheolaidd.

 “Mae gennym ni sefyllfa ym Mhencadlys yr Heddlu yn Llangynnwr, Caerfyrddin lle rydyn ni'n darparu adnoddau i gefnogi Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i hwyluso proses frechu eu staff sydd wedi'u lleoli yn y Pencadlys, sy'n wych. Ond, rwy'n ei chael hi'n rhwystredig, er ein bod yn rhoi adnoddau ar waith i gyflawni'r broses frechu yn y Pencadlys, ei bod hi dal yn aneglur, pryd y bydd y brechiad ar gael inni i’w gyflwyno i'n Swyddogion.

“Mae Swyddogion a staff yr Heddlu yn weithwyr hanfodol, maen nhw mewn cysylltiad wyneb yn wyneb â’r cyhoedd yn ddyddiol, yn delio â sefyllfaoedd anodd a chymhleth, ac o ganlyniad mae’n hanfodol eu bod yn cael eu cynnwys ar y rhestr flaenoriaeth fel Ymatebwyr Cyntaf eraill”

“Rydw i nawr yn galw ar Lywodraeth Cymru am rywfaint o eglurder ar yr amserlen gyflwyno, a bod Swyddogion a staff yr Heddlu yn cael yr un flaenoriaeth â gwasanaethau brys eraill fel bod y cyhoedd yn hyderus eu bod yn ddiogel pan ddônt i gysylltiad â’r Heddlu. ”

 

DIWEDD

Am rhagor o fanylion

Gruff Ifan

Ymgynghorydd Polisi ac Ymgysylltu

Gruffudd.ifan@dyfed-powys.pnn.police.uk