01 Meh 2021
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn, wedi dechrau ymgynghori ar ei Gynllun Heddlu a Throsedd newydd ar gyfer yr ardal, a fydd yn ffocysu ar ei ail dymor yn y swydd.
Mae Mr Llywelyn yn ceisio barn preswylwyr, busnesau, grwpiau cymunedol, sefydliadau partner a dioddefwyr troseddau er mwyn cael ystod mor eang â phosibl o safbwyntiau ar eu blaenoriaethau a'u pryderon a fydd yn asgwrn cefn i'w gynllun ar gyfer 2022 i 2025.
Dros yr wythnos ddiwethaf, mae’r CHTh wedi bod yn ymweld â gorsafoedd heddlu yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Powys yn cyfarfod â swyddogion heddlu a staff i glywed eu barn ar droseddu a phlismona yn yr ardaloedd hynny, a hefyd ar benodi Prif Gwnstabl nesaf yr Heddlu. Yna bydd y Comisiynydd yn ymgynghori â sawl grŵp cymunedol ac yn awyddus i gael barn cymaint o unigolion â phosibl.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn: “Mae pobl Dyfed-Powys wrth galon popeth rwy’n ei wneud fel Comisiynydd. Wrth imi edrych ymlaen at ddatblygu fy Nghynllun Heddlu a Throsedd ar gyfer y tair blynedd nesaf, mae'n bwysig imi ddeall eich barn ar blismona yn yr ardal. Mae hwn yn ymgynghoriad hanfodol a gobeithio y gall cymaint o bobl â phosibl ymateb - bydd eich mewnbwn yn mynd yn bell o ran llywio blaenoriaethau fy Nghynllun Heddlu a Throsedd”.
Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i bob Comisiynydd gynhyrchu Cynllun Heddlu a Throsedd sy'n nodi blaenoriaethau ac a fydd yn sail ar gyfer sut maen nhw'n dwyn y Prif Gwnstabl a'r heddlu i gyfrif. Bydd y cynllun hwn yn gosod y cyfeiriad ar gyfer plismona a diogelwch cymunedol dros dymor swydd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys.
Bydd y CHTh yn benodol yn galw am farn a thystiolaeth ar themâu fel;
- Cefnogaeth i ddioddefwyr
- Hygyrchedd Gwasanaeth yr Heddlu
- Gweithgareddau Atal Troseddu
- Cyfiawnder
- Llesiant yn y Dyfodol
Dechreuodd yr ymgynghoriad ar 25 Mai 2021 gyda sawl sesiwn yn cael eu cynnal gyda grwpiau diddordeb arbennig. Bydd yr ymgynghoriad yn agor i'r cyhoedd yn ehangach yn nes ymlaen ym mis Mehefin. I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ffurfiol, e-bostiwch opcc@dyfed-powys.pnn.police.uk.
DIWEDD
Rhagor o fanylion;
Annere Creighton
Digital Communication and Engagement Apprentice