05 Mai 2020

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn wedi rhyddhau dogfennau cynllunio ar gyfer adeiladu Hwb Plismona ac Ystafell Ddalfa newydd ar gyfer Heddlu Dyfed Powys, i'w hadeiladu ar dir i'r gorllewin o Heol Aur, Dafen, Llanelli.

Mae'r adeilad arfaethedig yn adeilad cynaliadwy uchelgeisiol, gyda marc safon rhagoriaeth BREEAM. Mae datblygiadau sy’n gysylltiedig â rhagoriaeth BREEAM yn cynnig amgylcheddau sy’n fwy cynaliadwy ac sy'n well i iechyd a lles y bobl sy'n byw ac yn gweithio ynddynt, tra hefyd yn gymorth i amddiffyn adnoddau naturiol.

Ymhlith rhai o gymwysterau cynaliadwy'r adeilad newydd bydd system pŵer solar ffotofoltäig i leihau ôl troed carbon yr adeilad; cyfleuster cynaeafu dŵr glaw ar gyfer toiledau a dŵr na ellir ei yfed, a chyfleusterau pweru ceir trydan.

Yn gynharach yn 2019, cymeradwyodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn benderfyniad i fynd ati i brynu safle gwerth £150,000 a oedd dan berchnogaeth Llywodraeth Cymru yn Dafen, at ddibenion adeiladu'r hwb plismona newydd.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd; “Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol i ni a fydd yn gweld hwb plismona uchelgeisiol, modern, cynaliadwy addas i bwrpas a fydd yn diwallu anghenion a disgwyliadau plismona modern.

“Mae hi dal yn ddyddiau cynnar o ran y broses caniatâd cynllunio, ond rwy’n falch fy mod wedi cyrraedd y pwynt hwn yn y broses. Rwyf wedi gweithio'n hynod o galed gyda phartneriaid dros y blynyddoedd diwethaf i gyrraedd y pwynt hwn, ac i allu cyhoeddi'r dogfennau cais cynllunio cychwynnol ar gyfer yr adeilad arfaethedig”.

Yn ogystal â'r dogfennau ymgynghori, mae cynlluniau adeiladu arfaethedig a dogfennau ategol hefyd ar gael fel rhan o ymgynghoriad cyhoeddus. Mae'r ymgynghoriad yn rhoi cyfle i'r rheini a allai fod â diddordeb yn y cynigion weld y pecyn cais drafft a mynegi eu barn.

Fel arfer, byddai'r holl ddogfennau ymgynghori a cheisiadau cynllunio ar gael i'r cyhoedd yn eu llyfrgell leol ac ar-lein. Fodd bynnag, oherwydd yr amgylchiadau presennol gyda'r llywodraeth yn gorfodi mesurau pellter cymdeithasol oherwydd COVID-19, mae llyfrgelloedd yn yr ardal leol ar gau. O'r herwydd, gall unrhyw un sy'n dymuno gweld y pecyn cais ymweld â gwefan Asbri Planning i weld yr holl ddogfennau; www.asbriplanning.co.uk/statutory-pre-application-consultation, neu i gysylltu â'u swyddfa ar 02920 732652.

Mae ymgynghoriadau cyhoeddus ar geisiadau cynllunio fel arfer yn para am 28 diwrnod, ond oherwydd yr amgylchiadau presennol, mae'r cyfnod ymgynghori wedi ei ymestyn bum niwrnod gwaith i 35 diwrnod, i gyfrif am unrhyw oedi sy'n gysylltiedig â'r amgylchiadau.

Rhaid i unrhyw un sy'n dymuno cyflwyno sylwadau am y datblygiad arfaethedig hwn wneud hynny erbyn 25 Mehefin 2020.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, “Mae'r holl ddogfennau cynllunio hyn bellach ar gael fel rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus. Rwy’n annog trigolion lleol yn Llanelli a’r gymuned ehangach i geisio copi o’r pecyn cais cynllunio gan Asbri Planning, ac os hoffent gyflwyno unrhyw sylwadau, gallant wneud hynny trwy ysgrifennu’n swyddogol at ein cydweithwyr yn Asbri. ”

Bydd yr Ystafelloedd Dalfa newydd hyn yn un o saith Dalfa ar draws ardal yr heddlu gydag eraill wedi'u lleoli yn y Drenewydd, Rhydaman, Aberhonddu, Aberteifi, Aberystwyth a Hwlffordd.

Dywedodd y Prif Arolygydd Richard Hopkin, arweinydd gweithredol Heddlu Dyfed-Powys ar yr adeilad newydd: “Rydym yn teimlo’n ffodus iawn ein bod yn cael ystafell ddalfa a hwb plismona newydd i Lanelli.

“Mae ein hystâd yn Llanelli yn hen – ac felly mae gweld adeilad newydd sy'n cael ei ddylunio gyda'r fath ystyriaeth i'r amgylchedd a lles ein staff a'r gymuned y mae'n eistedd ynddo yn gadarnhaol iawn.

“Ni fydd yr adeilad hwn yn disodli presenoldeb presennol ein tîm plismona cymunedol yng nghanol y dref yn Llanelli, ond bydd yn gwella’r gwasanaeth ledled y dref a’r gymuned ehangach yn hytrach.”

Unwaith y bydd caniatad cynllunio wedi ei warantu, y nod yw cwblhau'r gwaith o adeiladu'r adeilad newydd o fewn cyfnod o ddwy flynedd.

Dywedodd Heddwyn Thomas, Cyfarwyddwr Ystadau yn Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn Dyfed Powys, “Bydd y datblygiad yn darparu datrysiad addas i bwrpas i’r dyfodol a fydd yn ategu at leoliad Tim Plismona Cymunedol canol y dref. Mae'r broses hon yn dod â ni gam arall yn nes at gyflawni datblygiad y cyfleuster newydd. ”

 

D I W E DD

Am ragor o fanylion cysylltwch â

Gruff Ifan

Ymgynghorydd Polisi ac Ymgysylltu

Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys

Gruffudd.ifan.opcc@