20 Mai 2020

Ddydd Mercher, 27 Mai 2020, bydd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn yn cynnal cyfarfod cyhoeddus ar gyfer preswylwyr yn ardal Llanelli a’r gymuned ehangach fel rhan o Ymgynghoriad Cyhoeddus ar ddatblygiad Hwb Plismona ac Ystafell Ddalfa newydd i Sir Gaerfyrddin.

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal trwy ddulliau fideo-gynadledda lle bydd modd i’r cyhoedd ofyn cwestiynau neu godi unrhyw faterion sydd ganddyn nhw sy’n ymwneud gyda’r adeilad newydd. Bydd y Prif Arolygydd Richard Hopkin, arweinydd gweithredol Heddlu Dyfed-Powys ar yr adeilad newydd, a Chyfarwyddwr Ystadau, Heddwyn Thomas yn ymuno â Mr Llywelyn yn y cyfarfod i ateb cwestiynau’r cyhoedd, ynghyd â chynrychiolwyr o Asbri Planning yr Ymgynghorwyr Cynllunio.

Mae'r adeilad arfaethedig yn adeilad cynaliadwy uchelgeisiol, gyda marc safon rhagoriaeth BREEAM. Mae datblygiadau sy’n gysylltiedig â rhagoriaeth BREEAM yn cynnig amgylcheddau sy’n fwy cynaliadwy ac sy'n well i iechyd a lles y bobl sy'n byw ac yn gweithio ynddynt, tra hefyd yn gymorth i amddiffyn adnoddau naturiol.

Ymhlith rhai o gymwysterau cynaliadwy'r adeilad newydd bydd system pŵer solar ffotofoltäig i leihau ôl troed carbon yr adeilad; cyfleuster cynaeafu dŵr glaw ar gyfer toiledau a dŵr na ellir ei yfed, a chyfleusterau pweru ceir trydan.

Yn gynharach yn 2019, cymeradwyodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn benderfyniad i fynd ati i brynu safle gwerth £150,000 a oedd dan berchnogaeth Llywodraeth Cymru yn Dafen, at ddibenion adeiladu'r hwb plismona newydd.

Ar 6 Mai 2020, cafodd cynlluniau ar gyfer yr adeilad arfaethedig eu gwneud yn gyhoeddus trwy’r Ymgynghorwyr Cynllunio, Asbri Planning fel rhan o ymgynghoriad cyhoeddus a fydd yn para tan 10 Mehefin 2020.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd; “Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol i ni a fydd yn gweld hwb plismona uchelgeisiol, modern, cynaliadwy addas i bwrpas a fydd yn diwallu anghenion a disgwyliadau plismona modern.

“Mae hi dal yn ddyddiau cynnar o ran y broses caniatâd cynllunio, ond rwy’n falch fy mod wedi cyrraedd y pwynt hwn yn y broses. Rwyf wedi gweithio'n hynod o galed gyda phartneriaid dros y blynyddoedd diwethaf i gyrraedd y pwynt hwn, ac i allu cyhoeddi'r dogfennau cais cynllunio cychwynnol ar gyfer yr adeilad arfaethedig”.

“Bydd y cyfarfod cyhoeddus y byddaf yn ei gynnal yn rhoi cyfle i drigolion lleol godi unrhyw gwestiynau sydd ganddyn nhw mewn perthynas â’r adeilad newydd, ac edrychaf ymlaen i allu trafod llawer o’i gymwysterau.”

Bydd y Ddalfa newydd yn un o saith Dalfa ar draws ardal yr heddlu gydag eraill wedi'u lleoli yn y Drenewydd, Rhydaman, Aberhonddu, Aberteifi, Aberystwyth a Hwlffordd.

Dywedodd y Prif Arolygydd Richard Hopkin, arweinydd gweithredol Heddlu Dyfed-Powys ar yr adeilad newydd: “Rydym yn teimlo’n ffodus iawn ein bod yn cael ystafell ddalfa a hwb plismona newydd i Lanelli.

“Mae ein hystâd yn Llanelli yn hen – ac felly mae gweld adeilad newydd sy'n cael ei ddylunio gyda'r fath ystyriaeth i'r amgylchedd a lles ein staff a'r gymuned y mae'n eistedd ynddo yn gadarnhaol iawn.

“Ni fydd yr adeilad hwn yn disodli presenoldeb presennol ein tîm plismona cymunedol yng nghanol y dref yn Llanelli, ond bydd yn gwella’r gwasanaeth ledled y dref a’r gymuned ehangach yn hytrach.”

Mae ymgynghoriadau cyhoeddus ar geisiadau cynllunio fel arfer yn para am 28 diwrnod, ond oherwydd yr amgylchiadau presennol, mae'r cyfnod ymgynghori wedi ei ymestyn bum niwrnod gwaith i 35 diwrnod, i gyfrif am unrhyw oedi sy'n gysylltiedig â'r amgylchiadau.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, “Mae'r holl ddogfennau cynllunio bellach ar gael ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus, ac rwy'n annog trigolion lleol yn Llanelli a'r gymuned ehangach i geisio copi o’r pecyn cais cynllunio gan Asbri Planning.

“Mae’n bwysig i nodi, er bod y cyfarfod cyhoeddus yn gyfle i’r cyhoedd godi unrhyw gwestiynau neu faterion a allai fod ganddynt mewn perthynas â’r adeilad newydd, pe bai unrhyw un yn dymuno cyflwyno unrhyw sylwadau fel rhan o’r broses ymgynghori, dylent wneud felly trwy ysgrifennu'n ffurfiol at gydweithwyr yn Asbri Planning.”

Dylai unrhyw un a hoffai fynychu'r cyfarfod cyhoeddus ar 27 Mai gysylltu â Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys trwy e-bost ar OPCC.Communication@dyfed-powys.pnn.police.uk .

 

DIWEDD

Pecyn Cynllunio:

https://www.asbriplanning.co.uk/statutory-pre-application-consultation/dafen-custody-suite-dat bywyd-adeilad-dalfar-heddlu-ar-gwaith-c iawnedig-llanelli/

Mwy o wybodaeth:

Gruff Ifan – Gruffudd.ifan.OPCC@dyfed-powys.pnn.police.uk