14 Ebr 2022
Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn wedi sicrhau cyllid ychwanegol o gronfa Strydoedd Mwy Diogel (Safer Streets) y Swyddfa Gartref i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched a Diogelwch Cymunedol mewn pedair ardal yn Nyfed-Powys.
Mae cyfanswm o £45,000 o gyllid ychwanegol wedi'i sicrhau i gynyddu diogelwch menywod a merched mewn ardaloedd economi nos prysur yn arbennig.
Bydd y cyllid yn mynd tuag at prynu a dosbarthu citiau diogelwch merched; ‘Pop-up’ Mannau Diogel Dros Dro cymunedol; a hyfforddiant ar gyfer Safleoedd Trwyddedig.
Pecynnau Diogelwch Merched
Bydd 2,000 o becynnau diogelwch merched yn cael eu prynu a’u dosbarthu mewn mannau economi nos prysur a phroblemus yn Aberystwyth, Caerfyrddin, Llanelli, Hwlffordd a’r Drenewydd. Bydd y pecynnau diogelwch yn cynnwys fflachlamp, larwm panig a gorchudd diod gwrth-bigyn. Bydd hefyd yn cynnwys Chwistrell Amddiffyn Personol SelectaDNA unigryw sy'n gweithio trwy chwistrellu'r troseddwr â hylif DNA synthetig anweledig sydd yn marcio croen a dillad am ddyddiau, wythnosau neu hyd yn oed fisoedd - gan gynyddu'r siawns o ddyfarniad euog.
Pop Up Mannau Diogel
Bydd nifer o gazeebos ‘pop-up’ wedi’u brandio, a chitiau eraill, megis gwefrwyr ffôn, ar gael i grwpiau cymunedol a phartneriaid yn Aberystwyth, Caerfyrddin a Llanelli eu defnyddio yn ystod amseroedd prysur. Bydd poteli o ddŵr hefyd yn cael eu prynu a’u dosbarthu drwy wirfoddolwyr a phartneriaid o'r mannau diogel hyn.
Hyfforddiant ar gyfer Safleoedd Trwyddedig
Bydd safleoedd trwyddedig o fewn ardaloedd penodol yn Aberystwyth, Caerfyrddin, Llanelli, Hwlffordd a’r Drenewydd yn cael mynediad at ddeunydd y Fenter Diogelwch SAVI (Security and Vulnerability Initiative), i helpu perchnogion a gweithredwyr safleoedd trwyddedig i ddarparu amgylchedd diogel ar gyfer eu rheolwyr, staff, cwsmeriaid a chymunedau lleol. Mae SAVI yn gwneud hyn trwy ddarparu cyngor personol ac argymhellion i hyrwyddo atal trosedd ac anhrefn, diogelwch y cyhoedd, atal niwsans cyhoeddus, ac amddiffyn plant rhag niwed.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn: “Rwy’n croesawu’r newyddion am y cyllid ychwanegol hwn sydd wedi’i sicrhau drwy fy Swyddfa.
“Rwyf wedi amlygu yn fy Nghynllun Heddlu a Throseddu newydd yr angen i ni leihau trais yn erbyn menywod a merched wrth i ni flaenoriaethu atal niwed i unigolion a chymunedau Dyfed-Powys.
“Bydd y cyllid hwn yn ein galluogi i gymryd agwedd ymarferol i fynd i’r afael â rhai o’r problemau ar lawr gwlad, trwy ddarparu offer corfforol i fenywod a merched, yn ogystal â gweithio gyda phartneriaid i gynyddu diogelwch mewn lleoliadau prysur economi’r nos”.
Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl, Claire Parmenter: “Croesawir y cyllid Strydoedd Mwy Diogel a dderbyniwyd gan y Swyddfa Gartref. Mae wedi ein galluogi i gryfhau ein hymdrechion aruthrol i wneud cymunedau Dyfed-Powys yn fwy diogel.
“Bydd yr arian hwn yn parhau i ganiatáu i’n timau plismona cymunedol gyflwyno mentrau sy’n ymwneud â thrais yn erbyn menywod a merched, gwella diogelwch menywod yn y nos, ac i weithio gyda’n partneriaid economi nos i wella diogelwch i bawb.”
“Mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i weithio’n galed i wella diogelwch yn ein cymunedau. Rydym yn croesawu barn ein partneriaid, busnesau a’r dinasyddion niferus sy’n galw Dyfed-Powys yn gartref iddynt, ac wrth gwrs i’r miloedd o ymwelwyr a welwn i ardal yr heddlu bob blwyddyn.”
Derbyniodd Swyddogion a Staff Heddlu Dyfed-Powys a fydd yn rhan o’r fenter hon, hyfforddiant gan Selectamark yn ddiweddar er mwyn deall sut i ddefnyddio’r Pecynnau Diogelwch i Ferched, cyn eu bod yn mynd ati i’w dosbarthu mewn lleoliadau economi nos prysur yn ardal Dyfed-Powys.
Dywedodd y Prif Arolygydd Dyfed Bolton, arweinydd yr heddlu ar gyfer plismona cymunedol; “Mae Heddlu Dyfed-Powys yn falch o fod yn gweithio gyda Selectamark i hyrwyddo diogelwch menywod a merched yn ardal ein heddlu.”
“Bydd ein timau plismona cymunedol yn parhau i weithio’n ddiflino gyda phartneriaid i atal trais yn erbyn menywod a merched, gan wneud ein cymunedau yn ardaloedd mwy diogel i fyw, gweithio a chael amser hamdden.”
Dywedodd James Brown, Rheolwr Gyfarwyddwr Selectamark Security Systems, gwneuthurwr y Chwistrell Amddiffyn Personol SelectaDNA; “Fe wnaethom ddechrau darparu datrysiadau atal trosedd i Heddlu Dyfed Powys dros 10 mlynedd yn ôl, ond mae hon yn fenter arbennig o gyffrous ac arloesol. Mae’r heddlu’n darparu’r dechnoleg ymladd trosedd ddiweddaraf i fenywod a merched a allai ganfod eu hunain mewn sefyllfaoedd bregus, sy’n anfon y neges gryfaf bosibl i ddarpar droseddwyr i beidio ag ystyried cyflawni troseddau mor ofnadwy.”
DIWEDD
Rhagor o fanylion:
Gruff Ifan
Ymgynghorydd Polisi ac Ymgysylltu