01 Gor 2021

Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd (SCHTh) yn Dyfed-Powys yn chwilio am aelodau annibynnol newydd i ymuno â'i Gyd-bwyllgor Archwilio.

Mae'r Cyd-bwyllgor Archwilio Annibynnol yn darparu cyngor a sicrwydd annibynnol ar lywodraethu cyffredinol yr OPCC a Heddlu Dyfed-Powys.

Bydd y Pwyllgor yn adolygu ac yn craffu ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd rheoli risg, archwilio a rheoli mewnol, a threfniadau llywodraethu corfforaethol y ddau sefydliad, yn ogystal ag adolygu rheolaeth ac adrodd ariannol.

Mae'r Pwyllgor yn cynnwys pum aelod annibynnol ac mae'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd a'r Prif Gwnstabl yn edrych i benodi dau arall.

Rhaid bod gan ymgeiswyr ddealltwriaeth a phrofiad da o ddeddfwriaeth ac arweiniad yn y sector cyhoeddus a bod yn wleidyddol niwtral.

Dywedodd Carys Morgans, Pennaeth Staff a Swyddog Monitro yn SCHTh “Mae'r Cyd-bwyllgor Archwilio yn rhan allweddol o drefniadau'r CHTh a'r Prif Gwnstabl ar gyfer llywodraethu corfforaethol ac mae hwn yn gyfle gwych i unrhyw un sydd â diddordeb yn y maes hwn ac a hoffai i helpu i graffu ar y ffordd y mae cyllid yr heddlu yn gweithredu.”

Rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed, yn byw neu'n gweithio yn ardal Dyfed-Powys ac yn gallu mynychu cyfarfodydd yn ystod y diwrnod gwaith.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn hyfforddiant a lwfans dyddiol gan gynnwys costau teithio i Bencadlys yr Heddlu. Fel rheol, cynhelir cyfarfodydd bob chwarter.

Bydd ymgeiswyr yn destun gwiriad fetio heddlu. Nid yw swyddogion heddlu sy'n gwasanaethu na staff yr heddlu yn gymwys ar gyfer y rôl hon.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 27 Gorffennaf 2021.

I ddarganfod mwy am rôl y Pwyllgor a'r cymwyseddau sy'n ofynnol, gallwch lawrlwytho pecyn cais o wefan SCHTh.

 

Diwedd

Gwybodaeth bellach:

Carys Morgans

Pennaeth Staff a Swyddog Monitro

Carys.morgans@dyfed-powys.pnn.police.uk

01267 226440