24 Mai 2022

Bydd cerflun anferth 27 troedfedd o hyd, wedi’i wneud o 100,000 o gyllyll yn cael ei groesawu i dref Aberystwyth fis nesaf (1 Mehefin) wrth i grwpiau cymunedol lleol baratoi i ddod at ei gilydd i hyrwyddo negeseuon atal, gwrth-drais a gwrth-ymosodedd allweddol.

Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn, yn cydweithio â Chyngor Tref Aberystwyth a Chyngor Sir Ceredigion i ddod â’r Angel Gyllyll i Lys y Brenin, Aberystwyth, lle bydd yn sefyll am bedair wythnos i’n hatgoffa o effeithiau trais ac ymddygiad ymosodol.

Bydd y cerflun eiconig - a gomisiynwyd gan Ganolfan Gwaith Haearn Prydain yng Nghroesoswallt, Swydd Amwythig ac a grëwyd gan yr artist Alfie Bradley - yn cael ei arddangos yn y dref tan 29 Mehefin 2022.

Dyma’r eildro i’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn ddod ar Angel Gyllyll i ardal Heddlu Dyfed Powys, gyda’i ymweliad cyntaf yn y Drenewydd, Powys yn 2020.

Mae Mr Llywelyn wedi bod yn awyddus i ddod â’r Angel Gyllyll yn ôl i ardal yr Heddlu ers 2020, er mwyn i gymunedau eraill allu cymryd rhan yn y negeseuon allweddol.

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn; “Mae’r Angel Gyllyll yn ein hatgoffa o’r effaith ddinistriol y mae troseddau cyllyll, ac unrhyw fath o drais ac ymddygiad ymosodol yn ei chael ar deuluoedd a chymunedau.

“Er bod cynnydd o 105% wedi bod mewn troseddau cyllyll yng Nghymru dros y ddegawd ddiwethaf, nid yw'r Angel Gyllell wedi dod i Aberystwyth oherwydd unrhyw broblem fawr gyda'r math hwn o drosedd yn yr ardal.

“Fodd bynnag, yr ydym yn cydnabod bod troseddau cyllyll wedi digwydd yma yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Er bod cyfran o'r rhain yn ddomestig, nid yn ddigwyddiadau y stryd, mae'n destun pryder fod nifer fach o'r rhain yn cynnwys pobl dan 18 oed. Rwy’n falch iawn I weld fod yr Heddlu a phartneriaid wedi dod at ei gilydd dros y 6 mis diwethaf i roi ymyriadau ar waith i ddargyfeirio plant o droseddau cyllyll.

“Mae atal trosedd a dargyfeirio oddi wrth droseddu yn hanfodol. Gobeithiwn y bydd yr Angel Gyllyll yn ein cynorthwyo’n fawr i godi ymwybyddiaeth feirniadol o droseddau cyllyll tra’n creu anoddefiad eang i ymddygiad treisgar yn ein cymunedau.”

Dywedodd Maer Tref Aberystwyth, Dr Talat Chaudhri, "Rydym ni'n croesawu'r Angel Gyllyll i Aberystwyth ac yn cydsefyll â threfi a dinasoedd lle mae trosedd cyllyll yn broblem fwy nag y mae e yma. Nid oes lle i drais o unrhyw fath yn ein cymuned ni."

Mae plant a phobl ifanc o bob rhan o Aberystwyth ac ardaloedd cyfagos yn cael eu hannog i gymryd rhan yn y gwethgareddau yn ystod yr ymweliad, yn ogystal grwpiau a sefydliadau cymunedol .

Am ragor o fanylion a rhaglen lawn o weithgareddau yn ystod y mis, ebostiwch: OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

DIWEDD

Rhagor o fanylion:

Gruff Ifan

Ynghynghorydd Polisi ac Ymgysylltu

Gruffudd.ifan@dyfed-powys.police.uk