17 Maw 2015

Mae Christopher Salmon, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, yn edrych o’r newydd ar y ffordd y mae materion megis troseddau ieuenctid yn cael eu trin.

Mae’r system cyfiawnder ieuenctid wedi cael rhai llwyddiannau allweddol o ran lleihau nifer y bobl ifainc sy’n mynd i mewn i’r system cyfiawnder troseddol am y tro cyntaf neu’n cael eu cymryd i’r ddalfa.

Fodd bynnag, mae’r bobl ifainc hynny sydd wedi bod yn y ddalfa’n debygol iawn o ail droseddu.

Mae’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid nawr yn canolbwyntio ar y ffordd orau o fodloni anghenion pobl ifainc pan maen nhw’n ailgyfanheddu i’r gymuned a sicrhau bod y gwasanaethau cywir mewn grym i’w cefnogi i ymatal rhag troseddu.

Dywedodd Mr Salmon: “Arddangoswyd bod gwasanaethau atal yn hanfodol o ran lleihau nifer y bobl ifainc sy’n cael eu troseddoli. Mae angen i ni edrych ar atal mewn ystyr ehangach yn awr ac ystyried sut i leihau ail droseddu ymysg pobl ifainc ymhellach.”

Mae’r ymagwedd ddiwygiedig yn dilyn cau gwasanaeth a gomisiynwyd gan Mr Salmon gan yr elusen Gymreig Hafan Cymru.

Fel rhan o’r ffocws gwreiddiol ar atal troseddu, comisiynodd Mr Salmon wasanaeth ym mis Mai 2014 a fyddai’n darparu rhaglen bwrpasol ar gyfer pobl ifainc, mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill, er mwyn lleihau troseddau ieuenctid, mynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau a cham-drin domestig.

Dywedodd Mr Salmon: “Parodd y gwasanaeth am saith mis, ond nid oedd yn cyflwyno’r hyn yr oedd angen; rwy’n diolch i Hafan Cymru am eu hymdrechion. Byddaf yn cymryd ymagwedd wahanol tuag at y mater yn awr.”

Dywedodd Nikki Warrington, Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro Hafan Cymru: “Rydyn ni’n deall pam benderfynodd Mr Salmon ddod â’r cynllun hwn i ben. Rydyn ni’n hyderus y bydd rhaglen werthfawr Hafan Cymru, ATAL, yn mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yn lleihau ail droseddu yn y dyfodol pan fydd yn cael ei chyflwyno fel rhan o ymagwedd sir gyfan – a byddwn ni’n parhau i geisio cyllid i’w chyflwyno.

“Yn y cyfamser, rydyn ni’n falch iawn o gael parhau i weithio gyda Mr Salmon er mwyn cyflwyno gwasanaethau ychwanegol i gefnogi dioddefwyr cam-drin domestig ledled Dyfed-Powys ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gydag ef ar brosiectau eraill yn y dyfodol.”