17 Gor 2022

Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn wedi ymuno ag ymgyrch genedlaethol i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol (YG) a chadw pobol yn Nyfed-Powys yn ddiogel.

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2022, a gynhelir rhwng 18 a 22 Gorffennaf, yn ceisio annog cymunedau i sefyll yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol a thynnu sylw at y camau gweithredu sydd ar gael i’r rhai sy'n ei brofi.

Wedi’i threfnu gan Resolve, prif sefydliad ymddygiad gwrthgymdeithasol a diogelwch cymunedol y DU, mae’r wythnos yn cynnwys cyfres o ddigwyddiadau ledled y DU sy’n cynnwys Cynghorau, Heddluoedd, Cymdeithasau Tai, elusennau, grwpiau cymunedol a chlybiau chwaraeon.

Canfu ymchwil diweddar gan YouGov a gomisiynwyd gan Resolve fod mwy na hanner y bobl (56%) yn credu bod ‘angen gwneud mwy’ i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eu cymuned. Fodd bynnag, ar ôl iddynt weld neu brofi ymddygiad gwrthgymdeithasol, dywedodd cyfran debyg o'r cyhoedd (57%) nad oeddent wedi rhoi gwybod i neb amdano.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn falch o fod y cyntaf yng Nghymru i gymryd yr ‘Adduned Ymddygiad Gwrth-Gymdeithasol’ gydag ASB Help sy’n dangos eu hymrwymiad i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a rhoi cyfle i ddioddefwyr ofyn am adolygiad.

Yn gynharach eleni ym mis Mawrth, cynhaliodd y Comisiynydd Dafydd Llywelyn ei Gynhadledd Gŵyl Dewi flynyddol a oedd eleni yn canolbwyntio ar ymddygiad gwrthgymdeithasol. Roedd y siaradwyr gwadd yn cynnwys Arweinydd Cenedlaethol ar Ymddygiad Gwrthgymdeithasol gyda Sefydliad Cenedlaethol Prif Gwnstabliaid yr Heddlu, Andy Prophet, sy’n Ddirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Essex, a Charlotte Hamilton-Kay sy’n Rheolwr Prosiect Dioddefwyr Arbenigol gydag ASB Help – elusen a sefydlwyd i roi cyngor a chymorth i ddioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn: “Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol gael effaith aruthrol ar ei ddioddefwyr ac, mewn rhai achosion, ar y gymuned ehangach. Yn fy Nghynllun Heddlu a Throseddu newydd a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, rwyf wedi tynnu sylw at atal niwed a achosir gan droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol fel blaenoriaeth.

“Mae ymateb effeithiol i ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gofyn am arloesi, partneriaeth gref rhwng asiantaethau lleol, a meddylfryd sy’n rhoi dioddefwyr yn gyntaf.

“Roedd fy nghynhadledd Gŵyl Dewi flynyddol yn gynharach eleni yn taflu goleuni ar yr her bwysig sy’n ein hwynebu a’r cyfleoedd sydd ar gael i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol gyda mewnbwn ar ddull Dyfed-Powys o fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, a oedd yn cynnwys sut mae’r heddlu yn dal, yn cofnodi ac yn rheoli ymddygiad cymdeithasol; rôl y cydlynwyr a'r cyfryngwyr, a'r ymyriadau lefel isel a'r dulliau adferol.

“Roedd yn ddigwyddiad gwych gyda chydweithwyr o Heddluoedd ledled Cymru a Lloegr yn bresennol i ddysgu mwy am ddull Dyfed-Powys o fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

“Hoffwn achub ar y cyfle hwn ar ddechrau wythnos ymwybyddiaeth ymddygiad gwrthgymdeithasol unwaith eto, i annog aelodau’r cyhoedd i beidio â dioddef yn dawel os ydynt yn profi ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gellir rhoi gwybod am ddigwyddiadau i’r tîm ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn Cynghorau lleol, neu i’r Heddlu os yw pobl yn teimlo eu bod mewn perygl uniongyrchol”.

Ychwanegodd Rebecca Bryant OBE, Prif Weithredwr Resolve: “Nid yw ymddygiad gwrthgymdeithasol yn drosedd lefel isel. Gall gael effaith hirdymor ar fywydau dioddefwyr a chymunedau a gall fod yn rhagflaenydd i droseddau mwy difrifol.

“Mae’n bwysig bod her ymddygiad gwrthgymdeithasol yn parhau i gael y flaenoriaeth sydd ei hangen arno fel bod pobl ym mhobman yn teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi a’u cymunedau.

“Rydym wrth ein bodd fod y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn yn cefnogi’r ymgyrch hynod bwysig hon. Mae’n hanfodol I ddatblygu dulliau partneriaeth ar draws cymunedau i fynd i’r afael â’r heriau cynyddol ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol.”

I gael rhagor o wybodaeth am Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol – ewch i www.resolveuk.org.uk/asbawarenessweek .

 

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â;

Gruff Ifan

Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Gruffudd.ifan@dyfed-powys.police.uk