08 Ebr 2022
Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder (MOJ) wedi cadarnhau y bydd Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ledled Cymru a Lloegr yn gallu gwneud cais am £15.7 miliwn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau sy’n cefnogi dioddefwyr cam-drin domestig (DA) neu drais rhywiol (SV), a £3.75 miliwn pellach ar gyfer rolau Ymgynghorywr Annibynnol ar Drais Rhywiol a Domestig.
Am y tro cyntaf, bydd y cyllid hwn yn cael ei ddarparu yn flynyddol tan ddiwedd 2024/25.
Er mwyn cael mynediad at y cyllid hwn, mae'n ofynnol i Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu gwblhau asesiadau o anghenion a fydd yn rhoi'r darlun diweddaraf i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder o angen lleol. O ganlyniad, mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn wedi galw ar bartneriaid a sefydliadau allweddol sy’n darparu gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr SV neu DA yn ardal Dyfed-Powys i gysylltu â’i Swyddfa am ragor o fanylion ac arweiniad.
Nid oes angen i sefydliadau fod yn elusen gofrestredig, yn sefydliad corfforedig elusennol, nac yn fenter gymdeithasol i fod yn gymwys ar gyfer y cyllid hwn. Fodd bynnag, rhaid eu bod yn darparu gwasanaethau cymorth sydd â’r diben o helpu dioddefwyr SV neu DA i ymdopi ag effeithiau trosedd, a, adfer ar ôl y niwed y maent wedi’i brofi.
Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn, “Mae Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn fater sy’n fwy perthnasol nawr nag erioed o’r blaen, ac yn un y mae’n rhaid i ni weithredu’n gyflym i fynd i’r afael ag ef.
“Mae angen i ni sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i alluogi mynediad at y cymorth a’r gefnogaeth gywir i bob dioddefwr.
“Efallai y bydd y cyllid ychwanegol hwn sydd wedi’i ddyrannu gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn achubiaeth i’r rhai sy’n cael eu hunain yn yr amgylchiadau argyfyngus ac annerbyniol hyn.
“Rwy’n galw ar ein partneriaid a’n sefydliadau allweddol i gysylltu â’m Swyddfa i gael arweiniad a gwybodaeth, fel y gallwn sicrhau cyllid ar gyfer ardal Dyfed-Powys i ateb y galw cynyddol a lleihau unrhyw wahaniaethau mewn gwasanaethau.”
Gofynnir i sefydliadau sy’n dymuno trafod y cyllid sydd ar gael gysylltu â Chyfarwyddwr Comisiynu a Phartneriaethau y Comisiynydd Dafydd Llywelyn, drwy OPCC@dyfed-powys.police.uk , neu ewch i’r dudalen we Ariannu.
Nodiadau i'r Golygydd:
Mae rhagor o fanylion a chanllawiau ar gael yn swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yma.
Gwybodaeth bellach:
Alison Perry
Cyfarwyddwr Comisiynu a Phartneriaethau