Cwcis ar wefan Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys

Ffeiliau testun bach yw cwcis a osodir ar eich cyfrifiadur gan wefannau y byddwch yn ymweld â hwy. Fe’u defnyddir yn helaeth er mwyn sicrhau bod gwefannau’n gweithio, neu’n gweithio’n fwy effeithlon, ac i ddarparu gwybodaeth i berchnogion y safle.

Ni ddefnyddir cwcis i’ch adnabod yn bersonol, ond medrant gofio gweithgareddau a hoffterau a ddewisir gennych chi a’ch porwr. Gallwch reoli cwcis drwy reoli pa rai sy’n cael eu harbed neu hyd yn oed drwy eu dileu, os ydych yn dymuno.

Rydym yn defnyddio cwcis er mwyn gwella eich profiad o ddefnyddio ein gwefan. Os gwnewch chi barhau heb newid eich gosodiadau, byddwn yn tybio eich bod yn fodlon derbyn yr holl gwcis ar wefan Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys.

Fodd bynnag, os ydych yn dymuno, gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg o fewn eich gosodiadau neu’ch hoffterau pori.

Cwcis a osodir gan safleoedd Trydydd Parti

Er mwyn cynnal ein gwefannau, byddwn weithiau yn ymgorffori ffotograffau a fideos o wefannau megis YouTube a Flickr. O ganlyniad, pan fyddwch yn ymweld â thudalen gyda chynnwys sy'n dod o'r safleoedd hyn, efallai y bydd cwcis yn ymddangos o'r gwefannau hyn. Nid y swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys sy’n rheoli sut y caiff y cwcis hyn eu lledaenu. Bydd angen i chi edrych ar wefan y trydydd parti perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am y rhain.

Rheoli Cwcis

Mae'r mwyafrif o borwyr wedi cael eu cyfarwyddo i dderbyn cwcis. Os nad ydych chi'n awyddus i dderbyn cwcis, mae'n bosib newid gosodiadau eich porwr gwe i wrthod pob cwci, neu i'ch rhybuddio pan mae un yn cael ei anfon atoch er mwyn i chi ddewis i'w wrthod neu ei dderbyn. Ewch i wefan DirectGov am ragor o wybodaeth a chyngor ynglŷn â rheoli cwcis.