Rwy’n gyfrifol am ystâd Dyfed-Powys ac rwyf wrthi’n gweithredu rhaglen ystadau ar gyfer tir ac adeiladau Heddlu Dyfed-Powys. Nod strategol y rhaglen hon yw darparu ystâd cost effeithiol gweithredol berthnasol sy’n cefnogi ac yn ategu’r gwasanaethau rydyn ni’n eu cyflwyno i’r gymuned.

Cynhaliwyd adolygiad cynhwysfawr er mwyn ystyried darpariaeth cyfleusterau presennol a’r prif ffocws dros y ddwy flynedd nesaf fydd:

  • Adnewyddu eiddo i’w dwyn yn ôl i effeithlonrwydd gweithredol llawn.
  • Gwerthu eiddo gwag a segur.
  • Prynu tir ac adeiladu dalfa Sir Gaerfyrddin.
  • Cyfuno a chydweithio â phartneriaid ac aelodau’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol.
  • Cytuno ar ddyfodol adeiladau a allai fod angen buddsoddi sylweddol yn y dyfodol.

Mae’r ystâd gyfredol yn flinedig ac mae angen buddsoddi sylweddol arni. Cafodd hyn ei gydnabod a’i drin yn ffurfiol drwy bennu cyllid a phenodi tîm Prosiect Ystadau o dan arweiniad y Cyfarwyddwr Ystadau. Cychwynnodd y broses yn 2015 gydag arolwg cyflwr llawn o’r portffolio cyfan. Mae’r holl welliannau wedi eu nodi a’u hadolygu ers hynny. Datblygwyd strategaeth gadarn er mwyn nodi cynllun gweithredu clir. Yn ogystal, crëwyd trefniadau llywodraethu diffiniedig er mwyn sicrhau atebolrwydd wrth wneud penderfyniadau.

Gwaith sydd wedi ei gwblhau hyd yn hyn:

  • Bwyleri newydd yn y Drenewydd, Aberystwyth, Doc Penfro, Y Trallwng, Hwlffordd a Dinbych-y-pysgod.
  • Prosiectau Cynnal Gorsafoedd yn Ninbych-y-pysgod, Saundersfoot, Doc Penfro, Hwlffordd, Llanelli, Caerfyrddin, Porth Tywyn, Rhydaman, Llandysul a Llwynhendy.

Y gorsafoedd nesaf i’w hadnewyddu neu eu cynnal:

  • Crosshands, Aberystwyth, Arberth a Llanymddyfri.

Mae’r holl gynnydd yn cael ei fonitro’n fisol yng nghyfarfod y Bwrdd Prosiect Ystadau, sy’n cynnwys dau uwch gynrychiolydd o’r Heddlu yn ogystal â’r Cyfarwyddwr Ystadau a Phrif Swyddog Ariannol SCHTh. Mae penderfyniadau sy’n ymwneud â’r prosiect yn cael eu hadolygu a’u nodi yn y cyfarfod hwn.

Mae penderfyniadau sydd angen cymeradwyaeth bellach yn cael eu cymryd o’r Bwrdd Prosiect Ystadau i’r Bwrdd Plismona er mwyn i’r Prif Gwnstabl a minnau eu hystyried.

Rwyf wedi ymrwymo i foderneiddio’r ystâd yn ystod fy nghyfnod fel Comisiynydd ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’r Prif Gwnstabl er mwyn archwilio i syniadau arloesol sy’n cefnogi anghenion gweithredol yr Heddlu ac anghenion ein cymunedau.