Rydym yn chwilio am bobl dalentog a brwdfrydig i ymuno gyda swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys

Yma gallwch ddarganfod popeth sydd angen i chi ei wybod am ein cyfleoedd gyrfa presennol yn y swyddfa.

 

Recriwtio Cydbwyllgor Archwilio

 

Diben ein Cyd-bwyllgor Archwilio yw darparu sicrwydd annibynnol i Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu a’r Prif Gwnstabl er mwyn sicrhau bod trefniadau llywodraethu’n cael eu cyflenwi’n effeithiol. Yr ydym yn chwilio am unigolion a fydd yn cynghori ynghylch egwyddorion llywodraethu da, a fydd yn cynnwys cynnig sicrwydd annibynnol ar ddigonolrwydd y fframweithiau rheoli risg a llywodraethu, yr amgylchedd rheolaeth fewnol ac adrodd ariannol, gan helpu i sicrhau bod trefniadau effeithiol ac effeithlon mewn grym i gefnogi cyflenwi’r gwasanaeth plismona gorau posibl ar gyfer cymunedau Dyfed-Powys.

Ymrwymiad  

Pedwar cyfarfod pwyllgor ffurfiol a hyd at 2 weithdy/seminar y flwyddyn.

Mae’n bosibl y gofynnir i aelodau fynychu cyfarfodydd ychwanegol mewn perthynas â meysydd ffocws penodol yn ôl yr angen.

 

Tâl

Telir aelodau am eu hamser paratoi a’r amser maen nhw mewn cyfarfod.

Darperir ar gyfer costau teithio hefyd ar gyfer unrhyw deithio sy’n ofynnol mewn perthynas â’r rôl.

 

Am bwy rydyn ni'n chwilio?

Rydym yn chwilio am un unigolyn brwdfrydig â ffocws i eistedd fel aelod annibynnol ar y Pwyllgor Archwilio a fydd yn adolygu ac yn craffu ar faterion y ddau sefydliad. Os oes gennych sgiliau a phrofiad, yn enwedig mewn rheoli perfformiad, llywodraethiant neu reolaeth ariannol, ac eisiau’r cyfle i gefnogi a dylanwadu ar wasanaethau plismona lleol, hoffem glywed gennych. 

I weld y rhestr lawn o feini prawf cymhwyster, ewch i'n gwefan i lawrlwytho pecyn gwybodaeth Y Cyd-bwyllgor Archwilio (dyfedpowys-pcc.org.uk)

 

Sut i wneud cais:

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth drwy: E-bost: opcc@dyfed-powys.police.uk

neu ffoniwch: 01267 226440

I lawrlwytho ffurflen gais a phecyn gwybodaeth ewch i: Y Cyd-bwyllgor Archwilio (dyfedpowys-pcc.org.uk)

Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 5 Rhagfyr